Neidio i'r prif gynnwy

Canlyniadau profion endosgopi a broncosgopi Cwm Taf bellach ar gael ledled Cymru

22 Tachwedd 2021

Mae diweddariad i Borth Clinigol Cymru (WCP) yn golygu bod gweithwyr iechyd proffesiynol ledled Cymru bellach yn gallu cael mynediad at gopïau digidol o ganlyniadau profion endosgopi a broncosgopi eu cleifion gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Mae’r gallu i weld y data hyn trwy fewngofnodi unwaith i Borth Clinigol Cymru yn golygu y gall clinigwyr mewn byrddau iechyd eraill dderbyn diweddariadau amser real ar ganlyniadau profion eu cleifion yn eu cofnodion iechyd digidol sengl. Cyn hyn, dim ond trwy system ar wahân y byddai'r wybodaeth hon wedi bod ar gael.

Dywedodd yr ymgynghorydd gastroenteroleg, Minesh Patel, fod y diweddariad yn ddatblygiad sylweddol i’r system a’i fod yn helpu i arbed amser iddo, gan ei fod, “yn caniatáu i bob clinigwr yng Nghymru weld y [canlyniadau profion] rhain, sy’n welliant mawr ar gyfer gofal cleifion.”

Mae WCP ar gael i glinigwyr ym mhob bwrdd iechyd ledled Cymru ac i Ganolfan Ganser Felindre. Mae'n rhannu ac yn arddangos gwybodaeth ddigidol cleifion o nifer o ffynonellau, hyd yn oed os yw'r wybodaeth honno wedi'i lledaenu ar draws gwahanol sefydliadau iechyd. Mae'r Porth yn caniatáu i glinigwyr gael mynediad at gofnodion cleifion cyfredol a chywir yn y man lle rhoddir gofal, gan ddileu'r angen i ofyn am gopïau, neu, mewn rhai achosion, wneud yr un archwiliadau eto.

Bob mis, mae gweithwyr iechyd proffesiynol ledled Cymru yn edrych ar dros filiwn o ganlyniadau profion trwy'r WCP. Mae un o bob deg o'r canlyniadau hyn a welir yn tarddu o fwrdd iechyd arall.

Ar hyn o bryd, dim ond canlyniadau profion endosgopi a broncosgopi Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg y gellir eu gweld ym Mhorth Clinigol Cymru. Fodd bynnag, mae gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i gynnwys data endosgopi gan fyrddau iechyd Hywel Dda, Powys a Bae Abertawe