Neidio i'r prif gynnwy

Blog: Cofnodion Iechyd Digidol, Profiad Clinigydd (Rhan 1)

15 Chwefror 2022

'Pwysa’n galed'

Yn y cyntaf mewn cyfres o erthyglau sbotolau, mae Mr Rhidian Hurle, Llawfeddyg Wrolegol Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg a Chyfarwyddwr Meddygol Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yn rhannu ei brofiad personol o ofal iechyd digidol dros 25 mlynedd.

Pan wnes i gymhwyso fel meddyg yn y ganrif ddiwethaf, rhoddodd fy niweddar dad, a oedd yn feddyg teulu yn Sir Benfro, feiro Bic i mi yn anrheg gyda geiriau o gyngor sydd bob amser wedi aros gyda mi, “Pwysa’n ddigon caled ar y gwaith papur copi carbon fel bod y person sy'n cael y copi gwaelod yn gallu ei ddarllen!” 

Mae darparu gofal cleifion sy’n fwy diogel yn dibynnu ar gyfathrebu rhwng gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a chofnod sy'n weladwy ac yn ddarllenadwy i bawb sy'n ymwneud â'r amgylchedd gofal. Mae bysellfyrddau a chysylltedd wedi gwella gwelededd cofnodion gofal yn aruthrol. Nid ydym yn gwbl rydd o gopïau carbon a chofnodion papur eto ond mae’r weledigaeth o gael un cofnod iechyd a gofal digidol wedi dod yn nes ar ein gorwel yng Nghymru. 

Fel i’r rhan fwyaf yn y GIG, mae fy niwrnod clinigol fel llawfeddyg wrolegol ymgynghorol yn dechrau trwy fewngofnodi. Yn dibynnu ar y lleoliad, mae dod o hyd i gyfrifiadur sydd wedi'i droi ymlaen ac sy'n gweithio, wedi'i gysylltu ag argraffydd sydd wedi'i droi ymlaen ac yn gweithio gyda blwch sy'n cynnwys papur wedi'i osod yn gywir yn her. 

Rwy'n dod o hyd i eicon Porth Clinigol Cymru. Gan ddefnyddio un ID a chyfrinair unigryw, rwy'n agor cymhwysiad sydd wedi newid y ffordd rwy'n darparu gofal. Mynediad at dros 211m o ganlyniadau ac adroddiadau, mwy na 35m o ddogfennau gofal a 3.1m o gofnodion cryno meddygon teulu. Gallaf wneud cais am brofion gwaed yn electronig, gweld unrhyw ddelweddau radioleg o unrhyw le yng Nghymru, ysgrifennu’n uniongyrchol i’r cofnod digidol a’i rannu’n syth gyda dros 30,000 o ddefnyddwyr y GIG.

Rwy'n eistedd yn y ward cleifion allanol ac yn dewis gweld yr amserlen o'm blaen.  Mae amserlen o apwyntiadau cleifion sydd angen ymgynghoriadau wyneb yn wyneb yn ymddangos, ac un clic sydd ei angen i gael mynediad at gofnod iechyd claf unigol. Gweinyddir y digwyddiad gofal cydgysylltiedig hwn trwy System Gweinyddu Cleifion Cymru yn y cefndir. Pe na bai apwyntiadau yn cael eu hanfon, ni fyddai unrhyw gleifion yn cyrraedd a byddwn i'n yfed te. Ond nid yw hyn erioed wedi digwydd, ac mae'r cleifion yn mynd a dod, ac mae apwyntiadau dilynol yn cael eu trefnu os oes angen. 

Rwy’n gwirio atgyfeiriadau’n electronig drwy’r dydd a ddaw oddi wrth fy nghydweithwyr sy’n feddygon teulu. Mae atgyfeiriadau darllenadwy sydd â llawer o gynnwys, sy’n gysylltiedig â chofnod digidol y claf, yn fy ngalluogi i ddewis sut mae angen gofalu am y claf, ydy ei anghenion yn frys a phwy ddylai ei weld. Mae peidio â cholli atgyfeiriadau yn ein galluogi i ddarparu gofal sy'n fwy diogel.

Rwy'n gweld fy nghofnod canlyniadau yn cynyddu ac mae'n fy nghymell i gymeradwyo rhai yn electronig. Bellach, nid oes byddin o staff yn cludo tunelli o nodiadau papur gyda chanlyniadau wedi'u pinio ar flaen pob un ac yn pwyso’n drwm ar fy nesg. Gallaf wneud hyn yn unrhyw le, pa bryd bynnag mae gen i gysylltedd. Gwaith Iechyd a Gofal Digidol sy'n gyfrifol am hyn.

Ar ddiwedd y dydd, rwy'n llofnodi’n electronig fy llythyrau a anfonwyd i'w teipio o'm dictaffon digidol a WiFi yr ysbyty. Rwy’n ffonio rhai cleifion i roi eu canlyniadau ac rwy’n defnyddio nodiadau clinigol i gofnodi’r hyn yr wyf wedi’i ddweud a’i wneud a’i rannu o fewn system GIG Cymru. 
Pan fydda i ar alwad ac yn derbyn galwad ffôn am gyngor, rwy’n gofyn am y rhif GIG a chan ddefnyddio'r blwch chwilio cyflym ym Mhorth Clinigol Cymru, bydda i’n dod o hyd i gofnod y claf yn fuan. Yn aml, mae gen i fwy o wybodaeth na'r cydweithiwr sy'n atgyfeirio. Rwy'n teipio nodyn clinigol. Rwy’n ei arbed ac mae'r ddogfen i'w gweld ar unwaith o fewn y cofnod iechyd electronig.  
 
Mae llywodraethu gwybodaeth a’n hymagwedd tuag ato yng Nghymru wedi sicrhau buddion nas gwelir yn aml mewn mannau eraill. Rydym yn cwmpasu, dylunio, adeiladu a sicrhau meddalwedd gyda'n defnyddwyr sy'n newid bywydau pobl. Trwy rannu cynnwys y cofnod ar draws ac ar hyd taith y claf, rydym yn hwyluso gofal mwy diogel. 

Mae rhoi gofal iechyd rheng flaen i gleifion yn anodd, weithiau'n flinedig ac yn aml yn rhwystredig, ond mae’n rhoi boddhad mawr. Mae gwybodeg ym maes gofal iechyd yn anodd, weithiau'n flinedig ac yn aml yn rhwystredig, ond mae'r wobr yr un mor fawr a gwerth chweil. Mae'r hyn y gallwn ei wneud gyda'n gilydd fel tîm yn gwneud gofal iechyd yn fwy diogel, yn fwy effeithlon yn economaidd ac mae’n hwyluso gwell canlyniadau i unigolion a phoblogaethau.

I gydweithwyr yn DHCW, cymerwch saib yn eich gweithfan, anadlwch yn ddwfn a gwenwch. Rydych chi'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y GIG bob dydd. Daliwch ati a gobeithio, ryw ddiwrnod cyn hir, fydda i ond yn defnyddio beiro Bic i ysgrifennu cerdyn diolch.