Mae Safon Rheoli Cymru ar gyfer Cofnodion Iechyd a Gofal Electronig (‘Y Safon Rheoli’) yn disgrifio’r egwyddorion a’r safonau cyffredin sy’n gymwys i systemau sy’n rhannu cofnodion iechyd a gofal electronig yng Nghymru. Mae’r Safon Rheoli yn darparu’r mecanwaith y mae sefydliadau’n ymrwymo iddo.
Drwy ategu polisïau a gweithdrefnau lleol, mae’r Safon Reoli yn anelu at sicrhau cysondeb eang yn y rheolaethau a gynlluniwyd i sicrhau bod cofnodion electronig yn cael eu cyrchu a’u defnyddio’n briodol.
Mae sefydliad sy’n arwyddo’r Safon Rheoli yn datgan eu bod wedi mabwysiadu’n ffurfiol y mesurau sy’n angenrheidiol i sefydliadau ddangos cydymffurfiaeth â’r sicrwydd a’r safonau cyffredin hynny sy’n sail i rannu cofnodion electronig.