Mae Pecyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth Cymru 2025/2026 bellach ar gael i’w gwblhau. Mae gan sefydliadau tan 31 Mawrth 2026 i gyflwyno eu ffurflen. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r tîm ar welshigtoolkit@wales.nhs.uk.
Mae Pecyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth Cymru yn offeryn hunanasesu sy’n galluogi sefydliadau i fesur lefel eu cydymffurfedd yn erbyn safonau a deddfwriaeth Llywodraethu Gwybodaeth genedlaethol.
Bydd yr asesiad yn helpu i nodi’r meysydd hynny mae angen eu gwella ac yn helpu i lywio Cynlluniau Gwella Llywodraethu Gwybodaeth sefydliadau. Y nod yw dangos y gellir ymddiried mewn sefydliadau i gynnal cyfrinachedd a diogelwch gwybodaeth bersonol a busnes.
Bydd hyn yn rhoi sicrwydd i staff a chleifion bod eu gwybodaeth yn cael ei phrosesu mewn modd diogel a phriodol, ac yn tawelu meddwl sefydliadau eraill lle mae rhannu’n cael ei wneud bod trefniadau Llywodraethu Gwybodaeth priodol ar waith.
Mae Pecyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth Cymru yn cynnwys asesiadau syml i’w dilyn, sy’n cynnwys amrywiaeth o gwestiynau elfennol sy’n gofyn am atebion ticio blwch, datganiadau un llinell a’r cyfleuster i lanlwytho neu gysylltu â dogfennau fel tystiolaeth.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch Pecyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth Cymru, e-bostiwch y tîm: welshigtoolkit@wales.nhs.uk