Mae deddfwriaeth Diogelu Data yn ei gwneud yn ofynnol i unigolion sy’n prosesu gwybodaeth bersonol ymgymryd â hyfforddiant diogelu data rheolaidd. Yn GIG Cymru, mae hyfforddiant diweddaru ar ddiogelu data wedi’i gynnwys yn y cwrs e-ddysgu Llywodraethu Gwybodaeth y mae rhaid i’r HOLL staff ei gwblhau bob dwy flynedd o leiaf. Mae hyn yn cynnwys POB gweithiwr Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau a chontractwyr annibynnol fel Practisiau Cyffredinol a Fferyllfeydd.
Nod y cwrs yw rhoi gwybodaeth am sut mae llywodraethu gwybodaeth wedi’i drefnu yng Nghymru ac mae’n cynnwys:
Cyflwyniad i hyfforddiant Llywodraethu Gwybodaeth
Gall Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol a Fferyllfeydd Cymunedol gyrchu’r pecyn e-Ddysgu Llywodraethu Gwybodaeth drwy’r ddolen ganlynol Dysgu@cymru.
Mae Canllawiau E-ddysgu Cam wrth Gam i Ddefnyddwyr ar Lywodraethu Gwybodaeth ar gyfer Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol a Fferyllfeydd Cymunedol ar gael. Mae’n rhoi cyfarwyddiadau ar sut i ddod o hyd i’r cwrs, gofyn am Allwedd Gofrestru, Cyrchu’r Cwrs, Yr Asesiadau, Cael eich Tystysgrifau a sut i gael mynediad at Gymorth Dysgu a TG.
Os nad yw staff yn hyddysg mewn TG neu os nad oes ganddynt fynediad rhwydd at gyfrifiadur, yna dylid darparu cymorth i’w helpu, neu dylid darparu hyfforddiant mewn ffyrdd eraill. Mae ‘Llyfr Gwaith Llywodraethu Gwybodaeth’ a ‘Llyfr Gwaith Llywodraethu Gwybodaeth - Taflen Atebion’ wedi’u datblygu ar gyfer staff gofal sylfaenol nad ydynt yn defnyddio cyfleusterau TG ac maent ar gael ar y wefan Llywodraethu Gwybodaeth.
Gall Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau gyrchu’r pecyn e-ddysgu Llywodraethu Gwybodaeth drwy ESR.