Neidio i'r prif gynnwy

O dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU, mae dyletswydd ar sefydliadau sy’n prosesu categorïau arbennig o ddata i benodi Swyddog Diogelu Data. Gweler Canllaw Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth i Swyddogion Diogelu Data.

Mae Tîm Llywodraethu Gwybodaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru bellach yn cynnig Gwasanaeth Cefnogi Swyddog Diogelu Data Llywodraethu Gwybodaeth sy’n seiliedig ar danysgrifiad ar gyfer Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol a Fferyllfeydd Cymunedol ledled Cymru.

Ac yntau’n gweithio o’n swyddfeydd yng Nghaerdydd, yr Wyddgrug ac Abertawe, nod y gwasanaeth yw cefnogi Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol a Fferyllfeydd Cymunedol ledled Cymru i gyflawni eu cyfrifoldebau Llywodraethu Gwybodaeth a Diogelu Data, yn unol â deddfwriaeth a safonau cenedlaethol, wrth sefydlu dull Cymru Gyfan.

Mae’r Gwasanaeth Cefnogi Swyddog Diogelu Data yn cynnwys nifer o weithgareddau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

Adnoddau Cronfa Wybodaeth - Ystod o ddogfennau templed i’w mabwysiadu gan bractisiau sy’n ymdrin â phynciau gwahanol megis Hawliau’r Unigolyn, Asesiadau o’r Effaith ar Ddiogelu Data, Adrodd ar Fynediad Diawdurdod at Ddata a rhagor.

Hysbysu a Chynghori - Rhoi cyngor pwrpasol i bractisiau mewn perthynas â’u hymholiadau diogelu data drwy ein system rheoli galwadau.

Hyfforddiant a Dysgu - Ar gael trwy amrywiol fformatau gan gynnwys hyfforddiant wyneb yn wyneb, e-ddysgu, llyfrau gwaith, cyflwyniadau a gweminarau.

Rhannu Gwybodaeth - Cefnogi a hyrwyddo cydymffurfedd wrth rannu fel endid unigol neu fel cydweithrediad clwstwr.