Neidio i'r prif gynnwy

Eich Preifatrwydd Chi - Eich Hawliau Chi

Mae “Eich Preifatrwydd Chi, Eich Hawliau Chi” yn set genedlaethol o ddeunyddiau a ddefnyddir i helpu sefydliadau GIG Cymru i gyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol o ran yr hawl i gael gwybod.

Mae’r dogfennau hyn yn helpu sefydliadau GIG Cymru i fodloni Erthyglau 13-14 o Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU ac fe’u darperir fel gwybodaeth lefel uchel y bwriedir ar gyfer cael ei defnyddio, fel dull haenog, gan sefydliadau i ategu eu polisïau a’u hysbysiadau preifatrwydd lleol presennol.

Darperir fersiynau llyfryn a phoster o’r deunyddiau hyn yn Gymraeg ac yn Saesneg. Gellir personoli’r fersiwn poster drwy ychwanegu manylion eich sefydliad. Gellir argraffu’r deunyddiau hyn a’u gosod mewn lleoliadau cyhoeddus fel y gall unigolion ddarllen sut mae gwybodaeth yn cael ei rheoli. Gellir rhoi dolenni i’r fersiynau electronig o’r dogfennau ar wefan eich sefydliad, a’u hychwanegu ati, ochr yn ochr â’ch polisïau a hysbysiadau preifatrwydd lleol presennol.

Mae’r deunyddiau hyn yn disodli’r deunyddiau “Eich Gwybodaeth Chi, Eich Hawliau Chi” a gynhyrchwyd yn flaenorol a dylai sefydliadau sicrhau bod unrhyw gyfeiriadau at “Eich Gwybodaeth Chi, Eich Hawliau Chi” yn cael eu diweddaru i’r deunyddiau newydd a ddarperir isod.

Am ragor o wybodaeth am y deunyddiau hyn, cysylltwch â: dhcw.informationgovernance@wales.nhs.uk