Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp Dadansoddeg Uwch Cymru

 

Bydd y grŵp hwn yn arwain y gwaith o ddatblygu gallu dadansoddeg uwch (a deallusrwydd artiffisial) ar draws meysydd iechyd a gofal yng Nghymru. Pwrpas cyffredinol y grŵp hwn yw galluogi, dylunio a darparu rhaglen waith Grŵp Dadansoddeg Uwch Cymru (o dan y rhaglen Adnoddau Data Cenedlaethol) i gyflawni amcanion y Strategaeth Iechyd a Gofal Digidol, yn gyflym ac yn ôl graddfa.

 

 

Bydd y gwaith y mae'r grŵp yn ei wneud yn ategu ac yn ceisio gweithio gyda'r ystod o grwpiau dadansoddol, gwyddor data presennol a grwpiau ffocws technegol tebyg eraill ledled Cymru. Gwahaniaeth pwysig rhwng y grwpiau hyn a'r grŵp newydd hwn yw bod y Grŵp Dadansoddeg Uwch yn atebol i waith Llif Gwaith 3 / Bwrdd Rhaglen yr Adnodd Data Cenedlaethol ac yn gallu dylanwadu arno'n uniongyrchol. Bydd gan y Grŵp Dadansoddeg Uwch ffocws strategol a thechnegol a bydd yn anelu at bontio'r bwlch rhwng y dadansoddwr a'r gymuned gwyddor data a'r rhai sy'n rheoli ac yn arwain gwasanaethau a strategaethau.

Mae amcanion y grŵp yn cynnwys:

  • Dwyn ynghyd defnyddiau arloesol o ddata ar draws iechyd a gofal yng Nghymru mewn un lle (catalogio)

  • Ymgorffori’r rhain yn natblygiad yr Adnodd Data Cenedlaethol - at ddefnydd lleol a chenedlaethol, fel sy'n briodol

  • Arddangos, ymgysylltu a rhannu arfer gorau - gyda chefnogaeth y rhaglen Ecosystem Iechyd Digidol Cymru

  • Hwyluso cydweithredu ar brosiectau/mentrau