Neidio i'r prif gynnwy

Derbyniadau i Ysbytai: Tablau Data Ar-lein Blynyddol - Adroddiadau Ystadegol

Mae Cyhoeddiad Blynyddol yr APC yn defnyddio data fel y mae ym mis Awst bob blwyddyn. Gall y data hwn newid ond ni chaiff y cyhoeddiad ei ddiwygio i adlewyrchu unrhyw newidiadau

Sylwch: o 1 Ebrill 2019 symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd i drigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Mae enwau’r byrddau iechyd wedi newid gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn newid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg yn newid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Datganiad ar y cyd  gan Fyrddau Iechyd Prifysgol Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg. Felly, dim ond ar gyfer 2019/20 y mae data ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar gael ac nid oes modd eu cymharu â data blynyddoedd blaenorol.

Mae datganiadau blaenorol yn dal i fod ar gael mewn fformat Excel ar Borth Gwybodaeth Iechyd DHCW

Ar gyfer data cyn 2014/15 neu pan na ellir bodloni'ch cais trwy'r data sydd ar gael, gellir cael ceisiadau penodol am ddata trwy wasanaeth dadansoddi pwrpasol Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW). Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu i Lywodraeth Cymru, GIG Cymru ac eraill. I gael gwybodaeth ar wahân i’r wybodaeth sydd eisoes ar gael trwy'r wefan hon, cysylltwch â'r Tîm Dadansoddi yn  DHCW.Info@wales.nhs.uk gan nodi manylion eich gofynion mor llawn â phosibl.

 

Mae Adroddiadau Statws Ansawdd Data APC Blynyddol ar gael i'w gweld ochr yn ochr â phob cyhoeddiad. Mae'r ddogfen hon yn disgrifio ystod o faterion ansawdd data sy'n effeithio ar y set ddata hon. Cliciwch yma i weld yr Adroddiad Statws Ansawdd Data ar gyfer 2022/23.

https://nhswales.maps.arcgis.com/sharing/rest/content/items/cec4d70881414b44a20cf94a1a50c9fd/data

Mae dogfen Nodiadau a Diffiniadau yn cyd-fynd â’r data cyhoeddedig ac mae wedi’i dylunio i roi trosolwg o’r hyn sydd wedi’i gynnwys ac nad yw wedi’i gynnwys ym mhob un o’r tablau. At hynny, mae'r ddogfen hon yn cynnig rhai pwyntiau i'w hystyried wrth gymharu data â Thablau Data HES gan GIG Lloegr. Cliciwch yma i weld y Nodiadau a Diffiniadau ar gyfer 2022/23.

https://nhswales.maps.arcgis.com/sharing/rest/content/items/ad3dd6fc157e4f4bb1d46c27cfa7602c/data