Neidio i'r prif gynnwy

Dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Peidiwch â siomi os na fyddwn yn eich dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae angen i ni gadw nifer y bobl rydyn ni'n eu dilyn i lefel hylaw i'n helpu ni i nodi cynnwys pwysig neu ddefnyddiol i'w rannu gyda chi.

Weithiau byddwn yn dilyn cyfrifon sy’n darparu gwybodaeth sy’n berthnasol i’n gwaith fel sefydliad GIG Cymru, (er enghraifft cyfrifon llywodraeth ganolog, cyfryngau lleol, a’n partneriaid) neu gyfrifon sy’n rhannu gwybodaeth y gallwn drosglwyddo er lles ein dilynwyr. Yn achlysurol, byddwn hefyd yn ceisio cefnogi ymgyrchoedd lleol a chenedlaethol. Bydd adegau hefyd lle bydd gofyn i ni ddilyn cyfrif er mwyn cymryd rhan mewn sgyrsiau.

Rydym yn dilyn cyfrif er mwyn ymgysylltu â rhywun, nid yw'n golygu ein bod yn ei gymeradwyo.