Neidio i'r prif gynnwy

Cymedroli

Rydym am i'n cyfrifon fod yn fannau diogel a pharchus i bawb.

Pan fo’n bosibl, byddwn yn dibynnu ar y mesurau diogelu ac ymyrraeth sydd gan y wefan rhwydweithio cymdeithasol eisoes ar waith (e.e. yn erbyn cynnwys anghyfreithlon, niweidiol neu dramgwyddus), er enghraifft drwy dynnu sylw at sylwadau neu eu rhybuddio am unrhyw achosion o dorri amodau a thelerau’r wefan. Mae gennym hefyd rai o'n rheolau ein hunain.

Pan fydd defnyddwyr yn postio rhywbeth sarhaus i'n ffrydiau byddwn yn gweithredu'n gyflym i'w ddileu a byddwn yn atal cynnwys tebyg rhag ymddangos eto. Yn ogystal, rydym yn cadw’r hawl i ddileu neu ofyn am ddileu unrhyw gyfraniadau ar draws y cyfryngau cymdeithasol yr ydym yn ystyried sy’n torri rheolau’r gymuned berthnasol neu unrhyw un o’r canllawiau canlynol:

  • byddwch yn sifil, yn chwaethus ac yn berthnasol
  • peidiwch â phostio negeseuon sy'n anghyfreithlon, enllibus, bygythiol, sarhaus, difenwol, ymosodol, treisgar, niweidiol, anllad, anweddus, sy’n cynnwys iaith reglyd, sy’n ymwneud â rhyw neu sy’n hiliol
  • peidiwch â rhegi · peidiwch â phostio sylwadau gwleidyddol na defnyddio ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar gyfer dadl wleidyddol
  • peidiwch â phostio cynnwys a gopïwyd o rywle arall, nad ydych yn berchen ar yr hawlfraint ar ei gyfer
  • peidiwch â phostio'r un neges, neu negeseuon tebyg iawn, fwy nag unwaith (a elwir hefyd yn "sbamio")
  • peidiwch â chyhoeddi eich gwybodaeth bersonol chi, na gwybodaeth bersonol unrhyw un arall, megis manylion cyswllt
  • peidiwch â hysbysebu cynhyrchion neu wasanaethau masnachol
  • peidiwch â dynwared rhywun arall

Yn anffodus, ac fel dewis olaf, bydd angen i ni 'blocio' defnyddwyr o bryd i'w gilydd os byddant yn gwrthod dilyn y canllawiau hyn yn gyson a/neu ddim yn ymateb i geisiadau i ddileu postiadau sy'n ymwneud â’r categorïau uchod.