Diweddarwyd y dudalen: 28 Medi 2026
Adolygiad nesaf: 29 Mawrth 2027
Mae Hyrwyddwyr Digidol yn helpu teulu, ffrindiau a phobl yn eu cymuned i ddeall a defnyddio Ap GIG Cymru. Maent yn cefnogi pobl i fagu hyder wrth ddefnyddio gwasanaethau iechyd digidol, ac yn eu cyfeirio at y cymorth a'r gefnogaeth briodol pan fo angen.
Mae Hyrwyddwyr Digidol yn gefnogwyr y gellir ymddiried ynddynt, nid yn arbenigwyr technegol.
Mae ein hyfforddiant gwirfoddol i Hyrwyddwyr Digidol yn para awr ac yn cael ei gynnal ar-lein dros Microsoft Teams. Ar hyn o bryd, caiff ei gynnal yn Saesneg ac mae’n rhoi cyflwyniad i chi ar y canlynol:
• allgau digidol
• mewngofnodi i’r GIG a dilysu hunaniaeth
• sut mae Ap GIG Cymru yn gweithio
• preifatrwydd a diogelu
• ble i gyfeirio pobl am gymorth a chefnogaeth
Llenwch y ffurflen hon i gofrestru eich diddordeb mewn hyfforddiant Hyrwyddwr Digidol.
Hydref 2026
Rhagfyr 2026
Chwefror 2027
Mawrth 2027
Ein nod yw gwneud ein sesiynau hyfforddiant mor hygyrch â phosibl drwy ddefnyddio nodweddion hygyrchedd Microsoft Teams, deunyddiau hygyrch a dulliau hwyluso cynhwysol.
Os oes unrhyw beth a fyddai’n eich helpu i gymryd rhan, anfonwch e-bost atom ymlaen llaw i roi gwybod i ni.
Darllenwch fwy am gefnogi pobl i ddatblygu sgiliau a magu hyder digidol:
Os oes gennych gwestiynau neu hoffech ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost i: NHSWalesApp.Engagement@wales.nhs.uk