Neidio i'r prif gynnwy

Mynediad at gofnodion cleifion a diogelu

Gall y practis meddyg teulu roi mynediad i gleifion at eu cofnodion iechyd meddyg teulu trwy Ap GIG Cymru. Mae lefel y mynediad y gall meddygon teulu ei ddarparu’r un fath ag a oedd yn bosibl gyda Fy Iechyd Ar-lein.   

Dylai practisiau fod wedi galluogi’r Cofnodion Gofal Cryno (SCRs) ar gyfer pob claf fel gosodiad safonol yn barod. Mae’r lefel hon o fynediad yn rhoi manylion yr alergeddau sydd wedi’u cofnodi ar eu cofnod iechyd meddyg teulu a meddyginiaethau sydd wedi’u rhagnodi gan y practis. Gall y practis alluogi neu analluogi hyn a dangosir hyn yng ngosodiadau cyffredinol y practis, neu EMAS Manager.    

Gweithredu mynediad at gofnodion manwl wedi’u codio  

Anogir practisiau meddygon teulu i roi mynediad i gleifion at elfennau o’r cofnodion manwl wedi’u codio (DCR), lle bo hynny’n bosibl ac yn briodol. Mae opsiynau ffurfweddu yn cynnwys:   

  • canlyniadau profion labordy  
  • problemau  
  • diagnosis  
  • meddyginiaethau  
  • risgiau a rhybuddion  
  • triniaethau  
  • ymchwiliadau  
  • archwiliadau  
  • digwyddiadau ac adalw  
  • dogfennau  
  • imiwneiddiadau  
  • problemau  
  • ymgynghoriadau    

Dylai fod gan y practis broses ar waith ar gyfer ymdrin â cheisiadau cofnodion manwl wedi’u codio, sy’n ystyried unrhyw risgiau y gallai fod angen mynd i’r afael â hwy, gan gynnwys a oes unrhyw faterion diogelu neu a yw’r claf wedi cael ei orfodi i ddarparu mynediad.     

Dylai’r broses ystyried:    

  • pwy ddylai wneud y penderfyniad i roi, neu beidio â rhoi, mynediad i unrhyw ran o’r cofnodion manwl wedi’u codio  
  • a oes unrhyw risgiau wrth roi mynediad i unrhyw ran o'r DCR pan fydd claf yn gofyn am fynediad
  • sut i gyfathrebu penderfyniadau am ddarparu unrhyw fynediad i gleifion mewn ffordd anwahaniaethol, ac mewn fformat priodol y gall y claf ei ddeall  
  • sut y gall cleifion apelio unrhyw benderfyniad, gan gynnwys gwybodaeth sy’n ateb unrhyw bryderon  
  • y lefel mynediad sy’n briodol i unrhyw risgiau a nodwyd   

Canlyniadau Profion Labordy – Risgiau    

Wrth droi Ymchwiliadau ymlaen ar lefel Claf, byddwch yn ymwybodol o’r ffordd y caiff canlyniadau eu harddangos i gleifion yn eu cyfrif.    

Practisiau gydag EMIS

Bydd canlyniadau labordy yn dod yn weladwy cyn gynted ag y bydd y rhain yn cael eu prosesu a’u ffeilio yn y system meddygon teulu. Os darperir mynediad i gofnodion manwl wedi’u codio, efallai y bydd angen ystyried y llif gwaith o fewn y practis i sicrhau mai dim ond ar ôl i ganlyniadau profion gael eu hesbonio i’r claf y cânt eu ffeilio.    

Diogelu a rheoli defnydd amhriodol  

Bydd galluogi cleifion i weld eu cofnodion iechyd drwy Ap GIG Cymru o fudd i’r rhan fwyaf o gleifion, ond efallai y bydd heriau i leiafrif, yn enwedig lle gallai mynediad at wybodaeth achosi niwed meddyliol neu gorfforol difrifol i’r claf neu drydydd parti.    

Mae hi’n hynod o bwysig diogelu cleifion neu unrhyw drydydd parti a allai gael ei effeithio pan roddir mynediad i wybodaeth. Gall fod yn briodol golygu gwybodaeth benodol a gofnodwyd yng nghofnod iechyd y meddyg teulu, neu atal y claf rhag cael mynediad i’r wybodaeth.    

Cleifion sy’n agored i niwed ac mewn perygl  

Mewn rhai achosion, gall cofnod claf sy’n agored i niwed gynnwys gwybodaeth a allai achosi niwed corfforol neu feddyliol iddyn nhw, felly mae er eu lles nhw i beidio â’i gweld. 

Mewn rhai amgylchiadau efallai y bydd cynlluniau diogelu ar waith ac yn hysbys i’r practis. Dylech ystyried atal mynediad at rannau o’r cofnod lle byddwch yn ystyried bod claf yn agored i orfodaeth, lle mae caniatáu mynediad at y cofnod yn debygol o achosi niwed i’w iechyd corfforol neu feddyliol neu i iechyd meddwl eraill. Mae’r nodwedd hon eisoes yn bodoli mewn systemau practis cyffredinol.    

Efallai y bydd amgylchiadau eraill lle, ym marn y practis meddyg teulu, na fyddai mynediad at wybodaeth o gofnodion manwl wedi’u codio er budd y claf.    

Er enghraifft:    

  • gallai achosi niwed difrifol i iechyd corfforol neu feddyliol y claf neu rywun arall  
  • mae’r cofnod yn cynnwys gwybodaeth am rywun nad yw wedi cydsynio i’w datgelu  
  • mae gwybodaeth mewn maes testun na allwch ei wahanu na’i olygu oddi wrth weddill y cofnod manwl wedi’i godio  
  • mae’r claf yn canslo apwyntiadau sydd eu hangen arnynt, er enghraifft os oes ganddyn nhw ddementia (gellir canslo apwyntiadau trwy’r ap hyd yn oed os ydyn nhw wedi’u gwneud all-lein)  
  • mae mynediad ar-lein yn rhoi’r claf mewn perygl o orfodaeth  

Mae canllawiau ar orfodaeth ac ystyriaethau eraill i’w gweld yn y Canllaw ar Wasanaethau Ar-lein Meddygon Teulu gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol.  

Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol hefyd wedi cynhyrchu Pecyn Cymorth Diogelu Plant a Phecyn Cymorth Diogelu Oedolion y gellir eu defnyddio wrth ystyried materion diogelu cyffredinol.  

Gwybodaeth sensitif  

Mae’n bosibl y bydd angen dull mwy llym o reoli mynediad mewn rhai sefyllfaoedd sensitif, er enghraifft:       

  • Statws beichiogrwydd  
  • Triniaethau ffrwythlondeb  
  • Gwybodaeth am erthyliad  
  • Camddefnyddio alcohol a chyffuriau  
  • Gweithgaredd troseddol  
  • Rhywedd a rhywioldeb  
  • Iechyd meddwl  

Mewngofnodi a mynediad ar-lein i gleifion  

Gan fod Ap GIG Cymru yn defnyddio NHS login, gall y rhan fwyaf o gleifion gael mynediad at y gwasanaethau meddyg teulu ar-lein sydd ar gael trwy’r ap heb i’r practis gael unrhyw gysylltiad â nhw.    

Os nad oes gan gleifion gyfrif gwasanaethau ar-lein meddyg teulu eisoes, pan fyddan nhw’n creu cyfrif ar-lein, byddan nhw’n cael lefel ddiofyn y practis o ran mynediad at y gwasanaethau hyn. Yn gyffredinol, mae hynny’n golygu y gallan nhw drefnu apwyntiadau a gofyn am bresgripsiynau rheolaidd yn ogystal â gweld eu Cofnod Gofal Cryno.    

Atal cleifion rhag cyrchu gwasanaethau    

Er mwyn atal claf rhag cael mynediad at y gwasanaethau diofyn, bydd angen i chi newid y gosodiadau yn eu manylion gwasanaeth ar-lein cofnodion claf yn eich system glinigol.    

Os oes angen i chi ddirymu mynediad claf at drefnu apwyntiadau neu at gofnodion meddygol, mae’n bwysig gwneud hynny o fewn gosodiadau cyfrif ar-lein y claf unigol. Os ydych chi’n dileu eu cyfrif mynediad ar-lein yn gyfan gwbl, ni fydd y gosodiadau mynediad diofyn wedi’u newid, a bydd cyfrif newydd yn cael ei gynhyrchu’n awtomatig y tro nesaf y byddan nhw’n defnyddio Ap GIG Cymru.    

Trafod mynediad cyfyngedig neu ddim mynediad gyda’r claf  

Efallai eich bod yn pryderu am wrthdaro â chlaf os byddwch yn penderfynu cyfyngu ar neu wrthod mynediad.  

Pan wrthodir mynediad i glaf neu pan roddir mynediad cyfyngedig iawn, ystyriwch a oes angen sgwrs wyneb yn wyneb rhwng y clinigwr a’r claf. Gall cynnwys y claf yn gynnar a chynnig tryloywder helpu i osgoi gwrthdaro a chwynion.    

Arweiniad pellach  

Mewn ymateb i bryderon diogelu, mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn diweddaru ei Becyn Cymorth Gwasanaethau Ar-lein i Feddygon Teulu mewn cydweithrediad ag arbenigwyr diogelu. Bydd hyn yn cwmpasu sefyllfaoedd lle gall pryderon godi, a’r camau y gallai clinigwyr eu cymryd i liniaru’r risgiau hyn.    

Diogelu a phrosesu data cleifion  

Y Practis Meddyg Teulu fydd Rheolydd y Data Personol a brosesir mewn perthynas â darparu gwasanaethau meddyg teulu a ddarperir gan Ap GIG Cymru o fewn ystyr Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU a Deddf Diogelu Data 2018. Felly, y practis fydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol am sicrhau bod yr holl brosesu data yn cael ei wneud yn unol â’r Ddeddf.    

Dylai’r Rheolydd Data gymeradwyo’r polisïau a’r gweithdrefnau a ddefnyddir gan y practis meddyg teulu ar gyfer cynnig mynediad i gleifion at eu Cofnod Manwl wedi’i Godio cyn i’r gwasanaeth gael ei roi ar waith.    

Dylai practisiau:    

  • adolygu pob polisi ac arfer newydd i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â diwygiadau rheoliadol neu newidiadau mewn arferion lleol  
  • gytuno ar ddull cyson o wirio cofnodion cleifion a phwy fydd yn gallu caniatáu mynediad i gleifion at eu gwybodaeth fanwl wedi’i godio  
  • ddweud wrth staff sut y bydd y gwasanaeth ar gael fel eu bod yn deall eu rôl yn y broses    

Gallwch wirio safonau yn erbyn offeryn hunanasesu Pecyn Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth Cymru.    

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru hefyd yn darparu adnoddau y gall practisiau meddygon teulu eu defnyddio ar y dudalen we Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth ar gyfer Gofal Sylfaenol.   

Dilynwch ni: