Dewislen adroddiad atebolrwydd
Cyfrifoldeb y Swyddog Cyfrifyddu yw cynnal gwefan Awdurdod Iechyd Arbennig Iechyd a Gofal Digidol Cymru a sicrhau ei chywirdeb. Nid yw'r gwaith a wneir gan archwilwyr yn cynnwys ystyried y materion hyn ac felly nid yw archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw newidiadau a all fod wedi digwydd i'r datganiadau ariannol ers iddynt gael eu cyflwyno'n wreiddiol ar y wefan.
Ar 31 Mawrth 2023, roedd 15 aelod ar y Bwrdd, gyda phump ohonynt yn Gyfarwyddwyr Gweithredol, tri Chyfarwyddwr a saith Aelod Annibynnol gan gynnwys Cadeirydd ac Is-Gadeirydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Bu symudiad o fewn y flwyddyn a nodir yn Atodiad 1.
Mae'r Tîm Pobl a Datblygu Sefydliadol yn gweithio gyda'r Cyfarwyddiaethau i gefnogi a rheoli lles staff ac absenoldeb oherwydd salwch. Datblygir adroddiadau perfformiad misol ar gyfer Cyfarwyddiaethau a chydweithwyr Gweithredol i fonitro salwch. Mae ymyriadau i gefnogi rheolwyr wedi'u cysoni â rhesymau salwch a nodwyd er mwyn sicrhau ymyriadau amserol ac effeithiol i gefnogi staff.
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cynnig Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol i staff a mynediad at Raglen Gymorth i Weithwyr, y gall aelodau teulu ei defnyddio am ddim hefyd. Y prif resymau dros absenoldeb oherwydd salwch ar draws y sefydliad yn ystod 2022/2023 oedd problemau’r frest ac anadlol (Covid-19). Mae Grŵp Iechyd a Lles Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cyfarfod bob deufis i sicrhau ein bod yn adolygu ein cymorth llesiant a gynigiwn i’n staff yn barhaus.
Mae tabl 5 isod yn dangos y lefelau absenoldeb oherwydd salwch yn ystod 2022/23. Y gyfradd gyfredol ar 31 Mawrth yw 3.00% sy'n meincnodi'n ffafriol iawn ar draws GIG Cymru.
Mae asesiad yn cael ei gynnal ar holl bolisïau a gweithdrefnau’r Awdurdod Iechyd Arbennig o’u heffaith ar gydraddoldeb yn erbyn y naw nodwedd warchodedig, er mwyn sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu yn erbyn pobl sy’n gwneud cais i weithio yn yr Awdurdod Iechyd Arbennig neu sy’n cael eu cyflogi gan yr Awdurdod Iechyd Arbennig. Mae’r holl bolisïau a gweithdrefnau ar gael trwy wefan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Mabwysiadwyd a gweithredwyd polisïau ychwanegol drwy gydol y flwyddyn; maent fel a ganlyn:
Datblygwyd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) newydd, a oedd yn ymgorffori ymrwymiadau gwrth-fwlio a gwrth-hiliaeth sefydliadol mewn partneriaeth â Chynrychiolwyr Ochr y Staff, Staff Iechyd a Gofal Digidol Cymru a rhanddeiliaid allanol allweddol ac fe’i cymeradwywyd gan y Bwrdd ym mis Mawrth 2023. Darparodd hyn arwydd allweddol o bwysigrwydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Roedd y cynllun yn cynnwys amrywiaeth o ymrwymiadau newydd i’w cyflawni dros y blynyddoedd i ddod. Fel rhan o’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol, bydd rhwydwaith Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn cael ei sefydlu ym mis Mai 2023 a fydd yn darparu allfa newydd ar gyfer mewnbwn a llais i weithwyr. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi cyhoeddi Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Manylir ar yr ymrwymiadau allweddol isod:
Mae iechyd a lles ein pobl yn parhau i fod yn hollbwysig. Yn 2022/23, llwyddwyd i gynnal y Safon Iechyd Corfforaethol Aur a chynhelir ymweliad ein Gwiriad Statws Manwl ar 29 Ebrill 2023 i gael ein hailachredu ar gyfer eleni. Fe wnaethom hefyd gadw ein hardystiad ar gyfer y BS76000 Gwerthfawrogi Pobl a BS76005 Gwerthfawrogi Pobl drwy Safonau Amrywiaeth a Chynhwysiant ym mis Hydref 2022.
Yn ystod 2022/23, canolbwyntiwyd yn benodol ar Les Ariannol lle crëwyd lle penodol ar SharePoint i gyfeirio staff at y nodweddion cymorth amrywiol sydd ar gael, a ddatblygwyd ar y cyd ag undebau llafur. Gwnaethpwyd hyn i gefnogi’r heriau costau byw a deimlwyd drwy gydol 2022.
Manteisiodd y sefydliad hefyd ar y cyfle yn ystod Cynhadledd Staff Iechyd a Gofal Digidol Cymru ym mis Ebrill 2022 i dynnu sylw at gefnogaeth allanol fel y Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn ogystal ag arweinyddiaeth dosturiol. Roedd adnoddau pellach hefyd ar gael i staff ar amrywiaeth o bynciau:
Adnoddau Cenedlaethol/Rhannu arfer gorau
Bu Iechyd a Gofal Digidol Cymru hefyd yn hyrwyddo ac yn cymryd rhan weithredol mewn nifer o ymgyrchoedd cenedlaethol, a rhestrir y rhain isod.
Ar draws Iechyd a Gofal Digidol Cymru, mae sawl Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl hyfforddedig ar gael i siarad â staff yn gyfrinachol. Yn 2022 roedd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn falch o gyrraedd rownd derfynol gwobrau Iechyd Meddwl a Lles yn y Gweithle Cymru yn y categori Lles yn y Gweithle
Yn ystod 2022/23 cymeradwywyd pecynnau ymadael ar gyfer 1 aelod staff gyda gwerth o £36,848. Talwyd y costau ymadael yn 2022/2023, y flwyddyn ymadael. Talwyd y pecynnau hyn yn unol â thelerau ac amodau gwasanaeth cydnabyddedig y GIG/Polisi’r Awdurdod Iechyd Arbennig. Nid oedd yr un o’r pecynnau ymadael yr adroddwyd yn eu cylch yn ymwneud ag uwch swyddogion.
Yn ystod 2022/2023, gwariodd yr Awdurdod Iechyd Arbennig £0.742m o’i gyllid refeniw ar wasanaethau ymgynghori allanol. Mae gostyngiad bach yn y gwariant o £0.903m yn 2021/2022.
At ddiben y cyfrifon statudol, diffinnir ymgynghoriaeth fel aseiniadau â therfyn amser/ad-hoc sy’n ymwneud â darparu cyngor proffesiynol a strategol ac na ellir eu priodoli’n uniongyrchol i weithgareddau sy’n darparu cynhyrchion digidol.
Dyma rai enghreifftiau:
Yn ystod 2022/2023 gwariodd yr Awdurdod Iechyd Arbennig £1.290 miliwn o’i gyllid refeniw ar staff dros dro. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr (asiantaeth) dros dro, rheolwyr dros dro a Chontractwyr Arbenigol. Mae gostyngiad mewn gwariant o 2021/2022 oherwydd y defnydd o staff asiantaeth yn y prosiect Trosglwyddo Canolfan Ddata yn 2021/2022.
Yn dilyn Adolygiad o’r Trefniadau Treth ar gyfer Penodiadau’r Sector Cyhoeddus a gyhoeddwyd gan y Prif Ysgrifennydd i’r Trysorlys ar 23 Mai 2012, mae’n ofynnol i adrannau gyhoeddi gwybodaeth am eu swyddi sydd â thâl uchel a/neu uwch swyddi nad ydynt ar y gyflogres. Mae’r wybodaeth, sydd wedi’i chynnwys yn y tri thabl isod, yn cynnwys yr holl ymrwymiadau oddi ar y gyflogres ar 31 Mawrth 2023 ar gyfer y rhai sy’n ennill mwy na £245 y dydd ar gyfer yr Awdurdod Iechyd Arbennig craidd ac unrhyw sefydliadau a letyir.
Nifer yr ymrwymiadau presennol ar 31 Mawrth 2023 23
O'r rhain, y nifer oedd yn bodoli: llai na blwyddyn10
am rhwng 1 a 2 flynedd11
am rhwng 2 a 3 blynedd2
am rhwng 3 a 4 blynedd0
am 4 blynedd neu fwy0
Mae’r holl ymrwymiadau oddi ar y gyflogres, a amlinellir uchod, wedi bod yn destun asesiad yn seiliedig ar risg ar ryw adeg, i weld p’un ai fod angen sicrwydd bod yr unigolyn yn talu’r swm cywir o dreth, a lle bo angen, y gofynnwyd am y sicrwydd hwnnw.
Nifer y gweithwyr dros dro oddi ar y gyflogres a gyflogwyd yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023 10
O’r rheiny...
y rhai nad oeddent yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth oddi ar y gyflogres 10
Yn amodol ar ddeddfwriaeth oddi ar y gyflogres ac wedi'u pennu fel rhai sydd o fewn cwmpas IR35 0
Yn amodol ar ddeddfwriaeth oddi ar y gyflogres ac wedi'u pennu fel rhai y tu allan i gwmpas IR35 0
Nifer yr ymrwymiadau a ailaseswyd at ddibenion cydymffurfio neu sicrwydd yn ystod y flwyddyn0
O’r rhain: Nifer y penodiadau a welodd newid i statws IR35 yn dilyn adolygiad 0
Nifer y penodiadau nad oeddent ar y gyflogres ar gyfer aelodau’r bwrdd, ac/neu uwch swyddogion gyda chyfrifoldeb ariannol sylweddol, yn ystod y flwyddyn ariannol. 0
Nifer yr unigolion sydd wedi cael eu hystyried yn "aelodau’r bwrdd, ac/neu'n uwch swyddogion, gyda chyfrifoldeb ariannol sylweddol", yn ystod y flwyddyn ariannol. Dylai'r ffigur hwn gynnwys penodiadau ar, ac oddi ar y gyflogres.0
Cadarnhaf nad oes unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol yn yr Adroddiad Blynyddol nad yw Archwilio Cymru yn ymwybodol ohoni. Fel Prif Weithredwr, rwyf wedi cymryd pob cam i wneud fy hun yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth berthnasol a sicrhau bod Archwilio Cymru yn ymwybodol o’r wybodaeth honno
Prif Weithredwr a Swyddog Atebol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru
27ed Gorffenaf 2023