Rheoleidd-dra’r gwariant
Rheoleidd-dra yw’r gofyniad i ymdrin â phob eitem o wariant a derbynebau yn unol â’r ddeddfwriaeth sy’n eu hawdurdodi, unrhyw awdurdod dirprwyedig cymwys a rheolau Cyfrifyddu’r Llywodraeth. Mae Bwrdd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sicrhau bod y cyllid a ddarperir gan Weinidogion Cymru wedi cael ei wario at y dibenion a fwriadwyd gan Weinidogion Cymru a bod yr adnoddau a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru i’w defnyddio wedi cael eu defnyddio at y dibenion yr awdurdodwyd y defnydd ar eu cyfer. Y Prif Weithredwr yw’r Swyddog Atebol ac mae’n sicrhau bod y datganiadau ariannol yn cael eu paratoi yn unol â gofynion deddfwriaethol a Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Trysorlys. Wrth baratoi’r datganiadau ariannol, mae’n ofynnol i’r Prif Weithredwr:
- gydymffurfio â’r cyfarwyddiadau cyfrifon a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru, gan gynnwys y gofynion cyfrifyddu a datgelu perthnasol, a chymhwyso polisïau cyfrifyddu priodol yn gyson
- gwneud dyfarniadau ac amcangyfrifon ar sail resymol
- datgan a ddilynwyd a datgelwyd safonau cyfrifyddu cymwys ac esbonio unrhyw wyriadau perthnasol oddi wrthynt; ac
- eu paratoi ar sail busnes gweithredol ar y rhagdybiaeth y bydd gwasanaethau’r Awdurdod Iechyd Arbennig yn parhau i weithredu.
Yn ystod 2022/23, bu gwariant Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn rheolaidd.
Ffioedd a chostau
Pan fydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn ymgymryd â gweithgaredd nad yw’n cael ei ariannu’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cael incwm i dalu ei gostau. Cyhoeddir rhagor o fanylion am yr incwm a dderbyniwyd yn y cyfrifon blynyddol. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cadarnhau ei fod wedi cydymffurfio â’r dyraniad costau a’r gofynion codi tâl a nodir yng nghanllaw Trysorlys EM yn ystod y flwyddyn.
Rhwymedigaethau digwyddiadol o bell
Rhwymedigaethau digwyddiadol o bell yw’r rhwymedigaethau hynny nad ydynt yn cael eu cydnabod fel traul na rhwymedigaeth wrth gefn oherwydd annhebygrwydd tâl canlyniadol yn erbyn Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Isod ceir manylion y rhwymedigaethau digwyddiadol o bell ar 31 Mawrth 2023.