Dewislen adroddiad atebolrwydd
Cyfrifoldeb y Swyddog Cyfrifyddu yw cynnal gwefan Awdurdod Iechyd Arbennig Iechyd a Gofal Digidol Cymru a sicrhau ei chywirdeb. Nid yw'r gwaith a wneir gan archwilwyr yn cynnwys ystyried y materion hyn ac felly nid yw archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw newidiadau a all fod wedi digwydd i'r datganiadau ariannol ers iddynt gael eu cyflwyno'n wreiddiol ar y wefan.
Mae’r wybodaeth yn yr adroddiad hwn yn ymwneud â thâl yr uwch reolwyr a gyflogir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Y diffiniad o “Uwch Reolwr” yw: ‘yr unigolion hynny mewn swyddi uwch sydd ag awdurdod neu gyfrifoldeb dros gyfarwyddo neu reoli prif weithgareddau corff y GIG. Mae hyn yn golygu’r rhai sy’n dylanwadu ar benderfyniadau’r endid yn ei gyfanrwydd yn hytrach na phenderfyniadau cyfarwyddiaethau neu adrannau unigol.’ O ran Iechyd a Gofal Digidol Cymru, ystyrir mai’r uwch reolwyr yw mynychwyr rheolaidd cyfarfodydd y Bwrdd, h.y. Aelodau o’r Tîm Gweithredol a’r Aelodau Annibynnol.
Mae trefniadau cyflog presennol y sector cyhoeddus yn gymwys i bob aelod o staff gan gynnwys y Tîm Gweithredol.
Mae pob aelod o’r Tîm Gweithredol ar bwyntiau cyflog yn hytrach na graddfeydd cyflog.
Mae perfformiad y Tîm Gweithredol yn cael ei asesu yn erbyn amcanion personol a pherfformiad cyffredinol yr Awdurdod Iechyd Arbennig. Nid yw’r Awdurdod Iechyd Arbennig yn gweithredu cynllun tâl cysylltiedig â pherfformiad.
Rhoddwyd rhai taliadau i gyn Weithredwyr neu gyn uwch reolwyr eraill yn ystod y flwyddyn a manylir ar y rhain yn y tabl isod.
Gallai’r cyfansymiau yn rhai o’r tablau canlynol fod yn wahanol i’r rhai yn y Cyfrifon Blynyddol gan eu bod yn cynrychioli staff yn y swydd ar 31 Mawrth 2023 tra bo’r Cyfrifon Blynyddol (nodyn 9.2) yn dangos nifer cyfartalog y gweithwyr yn ystod y flwyddyn
Tryloywder Tâl Uwch Reolwyr yn y Sector Cyhoeddus datganoledig yng Nghymru – Canllaw ari Fynd i’r Afael agDrechu Arferion Cyflogaeth Annheg a Hunangyflogaeth Ffug.
Mae’r cyflog a’r telerau ac amodau cyflogaeth ar gyfer y Tîm Gweithredol a’r uwch-reolwyr wedi cael, ac yn mynd i gael eu pennu gan y Pwyllgor Tâl a Thelerau Gwasanaeth, o fewn y fframwaith a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae aelodau Pwyllgor Tâl yr Awdurdod Iechyd Arbennig yn Aelodau Annibynnol o’r Bwrdd. Cadeirydd yr Awdurdod Iechyd Arbennig sy’n cadeirio’r Pwyllgor. Adolygir Cylch Gorchwyl y Pwyllgor yn flynyddol. Ceir manylion am aelodaeth y Pwyllgor Tâl a Thelerau Gwasanaeth yn Atodiad 1.
Mae’r Adroddiad hwn ar Daliadau yn cynnwys ffigur cyfanswm taliad sengl. Mae swm y buddiannau pensiwn ar gyfer y flwyddyn sy’n cyfrannu at un ffigur y cyfanswm yn cael ei gyfrifo ar sail y canllawiau a ddarperir gan Asiantaeth Pensiynau Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.
Mae’r swm a gynhwysir yn y tabl ar gyfer buddiannau pensiwn yn seiliedig ar y cynnydd mewn pensiwn cronedig wedi’i addasu ar gyfer chwyddiant. Bydd hyn yn gyffredinol yn cymryd i ystyriaeth blwyddyn ychwanegol o wasanaeth, ynghyd ag unrhyw newidiadau mewn cyflog pensiynadwy. Nid yw hyn yn swm sydd wedi cael ei dalu i unigolyn gan yr Awdurdod Iechyd Arbennig yn ystod y flwyddyn; mae’n gyfrifiad sy’n defnyddio gwybodaeth o’r tabl buddiannau pensiwn.
Gall y ffigurau hyn gael eu dylanwadu gan sawl ffactor e.e. newidiadau mewn cyflog unigolyn, p’un a ydynt yn dewis gwneud cyfraniadau ychwanegol i’r cynllun pensiwn o’u cyflog, a ffactorau prisio eraill sy’n effeithio ar y cynllun pensiwn cyfan
Mae’r datgeliadau cyflogau a phensiynau yn adlewyrchu gwybodaeth yr uwch reolwyr. Yn 2022/23 mae’r uwch dîm rheoli yn cynnwys y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwyr Gweithredol a’r Aelodau Annibynnol (Cyfarwyddwyr Anweithredol), y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl, y Cyfarwyddwr Datblygu’r Sefydliad a’r Gweithlu ac Ysgrifennydd y Bwrdd.
*** Nid yw ffigurau'r flwyddyn flaenorol sydd eu hangen ar gyfer y cyfrifiad hwn ar gael
Y Gwerth Trosglwyddo Cyfwerth ag Arian Parod yw gwerth cyfalafedig buddiannau’r cynllun pensiwn a gronnwyd gan aelod ar adeg benodol, wedi ei asesu gan actwari. Y buddion y pennir eu gwerth yw buddion cronedig yr aelod ac unrhyw bensiwn dichonol sydd i’w dalu o’r cynllun i ŵr neu wraig.
Taliad yw’r Gwerth Trosglwyddo Cyfwerth ag Arian Parod a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn, i sicrhau buddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant pensiwn arall pan fydd aelod yn gadael cynllun ac yn dewis trosglwyddo’r buddion a gronnwyd yn ei gynllun blaenorol. Mae’r ffigurau pensiwn a ddangosir yn ymwneud â’r buddion y mae’r unigolyn wedi eu cronni o ganlyniad i gyfanswm ei aelodaeth yn y cynllun pensiwn, nid dim ond ei wasanaeth mewn swydd uwch y mae datgelu yn berthnasol iddi.
Mae’r ffigurau Gwerth Trosglwyddo Cyfwerth ag Arian Parod yn cynnwys gwerth unrhyw fuddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant arall y mae’r aelod wedi ei drosglwyddo i gynllun pensiwn y GIG. Maen nhw hefyd yn cynnwys unrhyw fuddion pensiwn ychwanegol a gronnwyd i’r aelod, o ganlyniad iddo ef neu hi brynu buddion pensiwn ychwanegol ar ei gost ei hun.
Cyfrifir y Gwerthoedd Trosglwyddo Cyfwerth ag Arian Parod yn unol â’r canllawiau a’r fframwaith a gynigir gan Sefydliad a Chyfadran yr Actiwarïaid. CYNNYDD GWIRIONEDDOL MEWN GWERTH TROSGLWYDDO CYFWERTH AG ARIAN PAROD Mae hyn yn adlewyrchu’r cynnydd yn y Gwerth Trosglwyddo Cyfwerth ag Arian Parod sy’n cael ei ariannu gan y cyflogwr. Mae’n cynnwys y cynnydd mewn pensiwn cronedig oherwydd chwyddiant, cyfraniadau a dalwyd gan y gweithiwr (gan gynnwys gwerth unrhyw fuddion a drosglwyddwyd o gynllun neu drefniant pensiwn arall), ac mae’n defnyddio ffactorau prisio cyffredin y farchnad ar gyfer dechrau a diwedd y cyfnod.
*** Nid yw ffigurau'r flwyddyn flaenorol sydd eu hangen ar gyfer y cyfrifiad hwn ar gael
Adroddir ar fanylion y Berthynas Tâl Cydnabyddiaeth yn ddiweddarach yn yr Adroddiad Atebolrwydd a nodyn 9.6.1 yn y Cyfrifon Blynyddol. Perthynas tâl cydnabyddiaeth.
Mae’n ofynnol i gyrff adrodd ddatgelu’r berthynas rhwng tâl cydnabyddiaeth y cyfarwyddwr/gweithiwr sy’n cael y cyflog uchaf yn eu sefydliad a’r 25ain canradd, canolrif a’r 75fed canradd o dâl cydnabyddiaeth gweithlu’r sefydliad.
Yn y cyfnod gweithredol 2022-23, derbyniodd 0 gweithiwr dâl a oedd yn fwy na’r cyfarwyddwr a gafodd y tâl uchaf.
Roedd y tâl ar gyfer pob aelod staff yn amrywio o £22,055 i £158,526
Mae'r gymhareb cyflog canolrifol ar gyfer y flwyddyn ariannol berthnasol yn gyson â'r polisïau cyflog, gwobrwyo a dilyniant ar gyfer gweithwyr yr endid yn eu cyfanrwydd.