Neidio i'r prif gynnwy

System Iechyd Plant

 

Mae cofnod ar-lein o iechyd plant, o enedigaeth hyd at oedran gadael ysgol, wedi bod yn weithredol yng Nghymru ers bron ugain mlynedd.

Bydd y fersiwn ddiweddaraf, sef System Integredig Plant a Phobl Ifanc (CYPrIS), yn cael ei chyflwyno ar draws phob bwrdd iechyd yn ystod 2019. Cafodd y system ei hadeiladu gan ddatblygwyr meddalwedd Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’i dylunio i ddiwallu’r agenda trawsnewid.

Mae’r System Iechyd Plant yn cefnogi rhaglen Plant Iach Cymru Llywodraeth Cymru, sef y rhaglen imiwneiddio genedlaethol a gofynion adrodd statudol.

Caiff y rhaglen ei defnyddio i:

  • Gofnodi imiwneiddiadau a weithredir gan feddygfeydd;
  • Cofnodi imiwneiddiadau a weithredir mewn lleoliadau eraill (e.e. ysgolion neu glinigau ymwelwyr iechyd);
  • Cofnodi hanes imiwneiddiadau plant sydd wedi symud i’r ardal;
  • Darparu meddygfeydd â rhestrau o imiwneiddiadau plant sy’n weddill;
  • Rhoi i gydlynwyr sgrinio ac imiwneiddio wybodaeth berthnasol ar gyfer brechu targedig mewn achosion a gadarnhawyd;
  • Cynhyrchu llythyron i rieni / gofalwyr ynghylch apwyntiadau imiwneiddio.

Yn ogystal, mae’r system yn cefnogi trefnu apwyntiadau, cynhyrchu llythyrau apwyntiadau a chofnodi canlyniadau ar gyfer:

  • Rhaglen Plant Iach Cymru;
  • Iechyd Ysgol (Rhaglen Mesur Plant a gafodd ei sefydlu i ddeall yn well sut mae plant yng Nghymru’n tyfu ac i safoni’r ffordd mae plant ysgol cynradd yn cael eu mesur ledled Cymru);
  • Iechyd Ysgol (Sgrinio Sain, Meddygol a Gweledol).
     

Mae ymarferoldeb newydd y system yn cynnwys dolenni integredig at:

  • Wasanaeth Hysbysu Genedigaethau Cymru;
  • Gwasanaeth Paru Cyfeiriadau Cymru;
  • Gwasanaeth Demograffeg Cymru.