Mae Neges Destun Fy Iechyd yn wasanaeth neges destun cenedlaethol sy’n cael ei ariannu’n ganolog ac sydd ar gael i bob practis meddyg teulu yng Nghymru.
Mae pob practis yng Nghymru yn derbyn dyraniad o negeseuon testun penodol bob mis Ebrill yn seiliedig ar eu rhestr cleifion o 1 Ionawr ymlaen. Mae'r dyraniad arferol yn seiliedig ar 2 neges destun i bob claf.
Negeseuon Testun Fy Iechyd blynyddol ‘ychwanegol’ ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-2023
Mae'r dyraniad blynyddol o negeseuon testun ar gyfer practisiau wedi'i brosesu. Dylech fod wedi cael cyngor gan eich Arbenigwr Gofal Sylfaenol ynghylch sut mae hyn yn effeithio arnoch chi. Fel mewn blynyddoedd blaenorol, cyfrifir yr 'ychwanegiad' blynyddol ar nifer y cleifion cofrestredig ar 31 Ionawr 2022 x 2 neges destun fesul claf. Mae'r cyfrifiad yn ystyried nifer y bwndeli negeseuon testun ychwanegol y gallai'r practis fod wedi'u prynu'n unigol.
Mae rhai o fanteision Neges Destun Fy Iechyd yn cynnwys: