Wrth i rôl fferylliaeth gymunedol barhau i symud yn sylweddol tuag at ddull gofal mwy integredig sy'n canolbwyntio ar y claf, mae Cheryl Way, ein Harweinydd Clinigol ar gyfer fferylliaeth, yn ystyried sut mae digidol yn chwarae rhan bwysig wrth lunio ei dyfodol.
Mae parodrwydd y sector fferylliaeth gymunedol i groesawu newid wedi bod yn un o'i lwyddiannau mwyaf. Mae dyfodiad COVID-19 wedi gorfodi newid ar bob rhan o'n system gofal iechyd ac mae wedi gyrru ffyrdd newydd, arloesol o reoli a darparu gofal iechyd yn ystod un o’r adegau mwyaf heriol.
Mae fferyllfeydd lleol wedi parhau i chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu gofal, rhoi cyngor a chynnal gwasanaethau hanfodol yn y gymuned a hynny tra'u bod dan bwysau aruthrol. Ar frig ton gyntaf yr achosion o COVID-19, symudodd llawer o bractisiau meddygon teulu tuag at fodel o ddarparu gofal o bell, gan leihau ymgynghoriadau wyneb yn wyneb lle bo hynny'n bosibl. Fodd bynnag, arhosodd drysau'r fferyllfeydd cymunedol ar agor drwyddi draw, ac mae fferyllwyr yn dod yn bwynt cyswllt cyntaf mwy nag erioed i gleifion a fyddai fel arfer wedi trefnu apwyntiad gyda'u meddyg teulu.
Fodd bynnag, mae fferyllfeydd cymunedol wedi bod wrth wraidd newid tuag at ofal sy'n canolbwyntio mwy ar y claf ers tro. Mae gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, ‘Cymru Iachach’, yn ysgogi newidiadau mewn gofal iechyd cymunedol a fydd yn sicrhau y gellir diwallu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol esblygol cenedlaethau heddiw ac yfory. Mae hyn yn cynnwys datblygu'r gweithlu fferylliaeth gymunedol, gwella cydweithredu ar draws sectorau gofal iechyd a chofleidio arloesedd a thechnoleg. Erbyn 2022, nod y strategaeth yw gwneud fferyllfeydd yn fan cychwyn i gleifion ag anhwylderau cyffredin ym mhob achos, ac erbyn 2030, i bob fferyllfa yng Nghymru gael Rhagnodydd Annibynnol.
Felly sut mae digidol yn chwarae rhan yn y weledigaeth hon ar gyfer dyfodol sy'n canolbwyntio mwy ar y claf?
Yng Nghymru, datblygwyd y platfform TG Choose Pharmacy i ddechrau, sy'n cael ei alluogi gan feddalwedd a grëwyd gan Wasanaeth Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS), mewn ymateb i ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaeth anhwylderau cyffredin a ariennir gan y GIG i'r cyhoedd. Fodd bynnag, ers hynny, mae wedi arwain y ffordd ar gyfer mwy o gydweithredu rhwng darparwyr gofal iechyd a gwella gofal cleifion trwy rannu gwybodaeth.
Yn ogystal â galluogi gwasanaeth anhwylderau cyffredin, mae'r platfform wedi'i integreiddio â rhwydwaith GIG Cymru sy'n caniatáu i fferyllwyr cymunedol gael mynediad at fanylion y meddyginiaethau yng Nghofnod Meddyg Teulu Cymru er mwyn iddynt allu darparu meddyginiaethau brys. Mae hefyd yn hwyluso rhannu gwybodaeth am feddyginiaethau ar gyfer cleifion a ryddhawyd o'r ysbyty yn ddiweddar, gan gefnogi fferyllwyr cymunedol i gynnal adolygiadau o’r meddyginiaethau wrth iddynt gael eu rhyddhau.
Y llynedd, cafodd y gwasanaeth Prawf a Thrin Dolur Gwddf (STTT) a ariennir gan y GIG ei dreialu trwy Choose Pharmacy mewn byrddau iechyd ledled Cymru. Nododd cyfanswm o 94% o gleifion a dderbyniodd ymgynghoriad STTT y byddent wedi gwneud apwyntiad gyda’u meddygon teulu pe na bai'r gwasanaeth ar gael, ac arweiniodd llai nag un o bob pum ymgynghoriad at roi gwrthfiotigau - sy’n pwysleisio'r rôl ganolog y gall fferyllwyr cymunedol ei chwarae mewn stiwardiaeth gwrthficrobaidd.
Ym mis Mehefin eleni, lansiwyd modiwl newydd o'r ap Choose Pharmacy, y Gwasanaeth Rhagnodwyr Annibynnol (IPS), i gefnogi fferyllwyr cymunedol sydd wedi cymhwyso fel rhagnodwyr annibynnol i roi cyngor a thriniaeth effeithiol i gleifion sydd â chyflyrau penodol. Mae'n caniatáu i fferyllwyr gael mynediad, gyda chaniatâd y claf, i Gofnod Meddyg Teulu Cymru, i'w helpu i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth, cofnodi ymgynghoriad yn ddigidol, cynhyrchu crynodeb meddyg teulu neu lythyr atgyfeirio a chreu hanes digidol i'r claf, sy'n symud gyda'r claf os bydd yn mynd i fferyllfa wahanol.
Yn sgil y don gyntaf o COVID-19 ac ar drothwy'r ail, mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i gyflwyno technoleg newydd fel ymgynghoriadau fideo i gefnogi fferyllwyr i ddarparu opsiynau gofal iechyd mwy diogel a mwy hygyrch i gleifion.
Mae defnyddio digidol, data a thechnoleg yn well yn helpu i godi ansawdd a gwerth gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yma yng Nghymru, ac mae’n newid y ffordd y mae gofal yn cael ei ddarparu ac yn mynd ag ef yn nes at gartrefi pobl. Er na fydd technoleg byth yn disodli arbenigedd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol nac yn cymryd lle ymgynghoriadau personol, wyneb yn wyneb, mae'n alluogwr allweddol ar gyfer profiad gwell, mwy di-dor a mwy diogel i gleifion.
Mae arloesi digidol eisoes yn ein hwyluso i gymryd camau mawr ymlaen yn y ffordd y mae gofal yn cael ei ddarparu i gleifion mewn lleoliadau fferylliaeth gymunedol. Gyda Llywodraeth Cymru a'n partneriaid ledled GIG Cymru, byddwn yn parhau i ddefnyddio datblygiadau mewn technoleg i helpu pobl i gael y canlyniadau iechyd a meddyginiaethau gorau ar eu cyfer. Y nod yw gwneud i newid ddigwydd er budd ein system gofal iechyd a thrawsnewid llwybrau cleifion.