Mae’r platfform wedi fy ngalluogi i gael mynediad at ystod o wybodaeth sy'n fy helpu i wneud penderfyniadau clinigol.
Gallaf weld crynodeb o gofnodion meddyg teulu’r claf trwy Gofnod Meddyg Teulu Cymru (WGPR) ym mhob modiwl perthnasol.
“Gallaf gael llythyr gwybodaeth rhyddhau electronig gan Fiorano sy'n fy ngalluogi i neu fy nhechnegydd i ddarparu’r Adolygiadau o Feddyginiaethau ar adeg Rhyddhau sy’n cynnwys manylion meddyginiaeth y claf pan gaiff ei ryddhau o’r ysbyty – fel y gallwn sicrhau nad oes unrhyw broblemau neu faterion parhaus o ran eu meddyginiaeth.
Trwy ddefnyddio’r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin a’r Gwasanaeth Rhagnodwyr Annibynnol, gallwn gael mynediad at Gofnodion Meddygon Teulu Cymru i wneud penderfyniadau ar sail mwy o wybodaeth sy’n ddiogel yn glinigol ar yr hyn y dylai gael ei ragnodi neu hyd yn oed os oes angen rhagnodi o gwbl.
Bellach, gallaf roi sylw i glaf sydd angen dull atal cenhedlu (fy maes clinigol ar gyfer rhagnodi annibynnol) drwy adolygu’r ymgynghoriad o chwe mis yn ôl, neu ymgynghoriad a wnaed gan fferyllydd arall mewn fferyllfa arall.
Mae'r cyfan yno ar un platfform. Does dim angen ffonio nifer o bobl i geisio dod o hyd i wybodaeth na gobeithio nad yw'r claf wedi anghofio rhoi gwybod i chi am ddarn hanfodol o wybodaeth.