Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Adrodd Canlyniadau Cymru a Thrawsblannu Gwaed

Mae cyflwyno system gyfrifiadurol newydd mewn ysbytai wedi lleihau’r angen i gleifion trawsblannu gwaed a mêr esgyrn deithio’n bell i glinigau ar ôl eu triniaeth.
 
Mae’n cael ei defnyddio gan Raglen Trawsblannu Gwaed a Mêr Esgyrn De Cymru, sy’n trin oedolion a phlant sydd â salwch sy’n cynnwys canser y gwaed a chlefydau awtoimiwnedd.  Mae Dr Wendy Ingram yn Haematolegydd Ymgynghorol (neu ‘feddyg gwaed’) sy’n gweithio gyda’r rhaglen yn ysbyty Prifysgol Cymru Caerdydd. Meddai, “gall cleifion fod yn sâl iawn ar ddechrau eu triniaeth, felly rydym yn gwneud ein gorau fel nad oes rhaid iddynt deithio.”
Mae’r system, sy’n adnabyddus fel  Gwasanaeth Adrodd Canlyniadau Cymru, yn rhoi canlyniadau gwaed ar gyfer cleifion i glinigwyr, does dim ots ble cafodd eu gwaed ei gymryd. Felly, yn lle teithio i gael eu profion gwaed, gall cleifion fynd i unedau symudol, neu ganolfannau lleol, a bydd y clinigwyr yng Nghaerdydd yn dal i allu gweld y canlyniadau.
 
Mae’r gwasanaeth, y ceir mynediad iddo trwy Borth Clinigol Cymru (y porth cyfrifiadurol cenedlaethol ar gyfer ysbytai), hefyd yn golygu y gall y tîm trawsblannu ddilyn datblygiad claf cyn iddyn nhw gyrraedd Caerdydd. Bydd nifer o brofion wedi eu cymryd yn ysbyty lleol claf neu bractis meddyg teulu yn y cyfnod cyn y trawsblaniad. Eglurodd Dr Ingram, “Cyn i’r gwasanaeth hwn gael ei gyflwyno, byddem yn ffonio o gwmpas er mwyn dod o hyd i ganlyniadau profion, neu’n ceisio dod o hyd iddyn nhw yng nghanol pentwr mawr o nodiadau papur, ond nawr gallwn gael mynediad i ganlyniadau profion gwaed trwy bwyso botwm.”