Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2023: Pam y dylai cyfleoedd tecach i fenywod sy'n gweithio ym maes iechyd digidol fod yn flaenoriaeth

Mae arnom angen fwy o fenywod a mwy o amrywiaeth ar bob lefel yn ein diwydiant, os ydym am greu cynhyrchion a gwasanaethau sydd wir yn gweithio i bawb sy'n eu defnyddio.

Fel menyw sy’n arwain mewn sector a ddominyddir gan ddynion yn draddodiadol, gofynnir i mi yn aml i siarad am fy mhrofiadau wrth oresgyn rhwystrau a chyfrannu at dirwedd cyflogaeth fwy cyfartal ac amrywiol. Rhywbeth rydw i bob amser yn cyfeirio ato yw'r heriau y mae menywod yn eu hwynebu wrth jyglo gwaith a bywyd teuluol, weithiau maent yn teimlo bod angen iddynt ddewis rhwng bod yn rhieni gwych a rhagori mewn gyrfa. Rydym wedi dod yn bell yn y blynyddoedd diwethaf ac mae polisïau newydd sy’n cefnogi rhieni a gofalwyr i gydbwyso eu cyfrifoldebau personol a phroffesiynol, ond ni ddylai fod yn rhaid iddynt fod yn annibynnol ar ei gilydd.

Yn DHCW rydym wedi ymrwymo i gydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y gweithle. Rwy'n falch iawn bod 42 y cant o'n cyflogeion a 55 y cant o'n Bwrdd o Aelodau Annibynnol a Chyfarwyddwyr Gweithredol yn fenywod. Er bod hyn ymhell uwchlaw cyfartaledd y diwydiant TG o 23 y cant, mae cynrychiolaeth deg yn bwysig i ni, ac yn amlwg mae mwy y gallwn ei wneud.

Os edrychwn ar y diwydiant TG yn ei gyfanrwydd, mae menywod yn dal i gael eu tangynrychioli i raddau helaeth mewn swyddi allweddol yn natblygiad a dyluniad arloesedd digidol. Mae hyn yn golygu bod rhagfarnau yn bodoli ar bob cam o ddatblygu meddalwedd a rhaglenni, gan gynnwys rhagdybiaethau am brofiad defnyddwyr a mynediad i dechnoleg.

Menywod hefyd sy’n cyfrif am y mwyafrif o bobl ledled y DU na allant neu nad ydynt yn gwybod sut i ymgysylltu â thechnoleg ddigidol, ac sydd felly wedi’u gadael allan neu eu dieithrio o offer a phrosesau digidol.

Mae annog mwy o fenywod a merched i ymgymryd â gyrfaoedd TG yn rhan o'r ateb. Un o nodweddion allweddol ein strategaeth 'Pobl' yn DHCW yw ymgysylltu ag ysgolion i rannu’r cyfleoedd anhygoel sy'n bodoli ym maes iechyd digidol gyda phlant a myfyrwyr. Mae rhoi llwyfan i’n staff talentog i siarad am eu profiadau nhw yn eu gyrfaoedd yn ffordd wych o ysbrydoli pobl ifanc i ymuno â’r diwydiant.

I mi, nid yw tegwch yn ymwneud â chreu amgylchedd lle mae gan bawb gyfle cyfartal o lwyddo, mae’n ymwneud â thegwch mewn perthynas â’r gwahaniaethau mewn amgylchiadau unigol a mannau cychwyn.

Dyna pam rydyn ni’n gwrando ar ein staff ac yn defnyddio adborth i addasu ein hymagwedd i greu gweithlu sy’n meithrin talent ac yn parchu anghenion unigol. Mae cynnal arolygon staff rheolaidd a datblygu gwerth newydd ynghylch cynhwysiant, sy’n nodi safon ymddygiad ddisgwyliedig ar gyfer y sefydliad cyfan, yn sicrhau bod llesiant ein staff wrth wraidd popeth a wnawn. Mae creu cyfleoedd datblygu a llwybrau gyrfa blaengar i’n staff ar bob lefel yn hanfodol i’n llwyddiant. Eleni, byddwn yn canolbwyntio ar ddatblygu ymhellach lwybrau gyrfa sy'n cefnogi twf a datblygiad personol, gan helpu ein staff i fod y gorau y gallant fod.

Mae wedi bod yn wirioneddol galonogol gweld llawer o’n staff benywaidd yn defnyddio cyfleoedd i’w galluogi i gamu i rolau arwain. Mae menywod mewn rolau arwain yn ysbrydoli menywod eraill.

Yn bersonol, rwy’n credu’n gryf bod angen cyfranogiad cyfartal o fewn y sector technoleg i ysgogi arloesedd a thwf ac i gau’r bwlch sgiliau presennol. Rhaid inni gefnogi a gwerthfawrogi menywod yn y gweithle technoleg.

Mae creu polisïau sy’n annog gweithlu cyfartal yn un rhan o’r hafaliad, ond yr un mor bwysig yw diwylliant sy’n cefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac sy’n annog pawb i anelu at fod ar eu gorau.

Yn DHCW rydym yn cynnwys amrywiaeth ym mhob rôl, ac yn cynnig hyblygrwydd fel rolau rhan-amser ac oriau cywasgedig i helpu gweithwyr gwrywaidd a benywaidd i reoli bywyd teuluol.

Er mwyn llwyddo mae angen i fwy o fenywod ddod ymlaen ac ystyried gyrfa mewn technoleg – ac ar gyfer hynny mae angen edrych ar ddenu merched ifanc cyn gynted â phosibl a hefyd taflu’r rhwyd yn ehangach i gipio menywod canol oed ac aeddfed, sydd â phrofiadau bywyd eang.

Gan fod technoleg yn effeithio cymaint ar ein bywydau bob dydd, mae angen menywod mewn iechyd a gofal digidol arnom yn fwy nag erioed. Bydd DHCW yn chwarae ei ran ac yn 'Cofleidio Tegwch' ym mhopeth a wnawn.