Neidio i'r prif gynnwy

Dadansoddi, archwilio, gwirio: C&A Rob Murray, ein Rheolwr Profi Meddalwedd

Mae Rob yn arwain ein tîm profi - ac mae gan bob un ohonynt arystiad a gydnabyddir yn fyd-eang - a gofynnom iddo am y gwaith y mae'r tîm yn ei wneud, a pham ei fod mor bwysig. 
 
C: Beth mae'r tîm profi yn ei wneud?
 
A: Mae fy nhîm yn cyflawni profion integreiddio systemau ar gyfer Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Beth mae hyn yn ei olygu yw sicrhau ein bod ni'n cyflwyno cynhyrchion diogel, dibynadwy, o ansawdd da. Hefyd, rydym ni'n gweithio'n agos gyda'n timau diogelwch a seilwaith i gyflawni profion derbyniad gweithredol a threiddio.

C: Sut mae hyn yn gweithio'n ymarferol?
 
A: Rydym ni'n dilyn fframwaith profi - gan weithio ar egwyddor o "brofi'n gynnar a phrofi'n aml." Mewn dull nodweddiadol, byddem ni'n creu cynllun prawf, yn cynhyrchu sgriptiau prawf, yn gweithredu'r profion hyn, yn cofnodi unrhyw ddiffygion, ac yna'n cynhyrchu adroddiad prawf. Fel tîm, rydym ni'n llais annibynnol. Mae angen i ni fod yn hyderus na fydd newid a wneir i un system yn effeithio ar un arall, oherwydd mae cymaint o'n cynhyrchion yn gydgysylltiol.
 
C: Pam mae profi mor bwysig?
 
A: Fel bodau dynol, rydym ni'n brofwyr.  Rydym ni'n profi pethau i wella pethau. Dyma sut mae'r hil ddynol wedi datblygu.  Mae plant yn brofwyr naturiol. Maen nhw'n gwneud hyn wrth reddf wrth chwarae.  Mae oedolion, yn gyffredinol, yn colli synnwyr chwilfrydedd, ac mae'n rhaid ei ail-ganfod, er ein bod ni'n dal i fod yn rhagdueddu i brofi rhai pethau, fel profi gyrru car, er enghraifft.
 
Mae profi ar gyfer TG hyd yn oed yn fwy pwysig.  Mae beth rydym ni'n ei wneud yn cael effaith uniongyrchol ar ofal cleifion. Mae angen i ni sicrhau bod meddalwedd yn ddiogel. Fodd bynnag, os yw'r gofynion yn glir, a bod y meddalwedd wedi cael ei greu i fanyleb, yna dylai profi fod yn syml.
 
C: Sut ydych chi amlygu eich profion?
 
A: Rydym ni'n cyflawni gwahanol fathau o brofion; gweithredol, atchwel a threiddio. Caiff hyn ei amlygu yn yr offeryn rheoli profion a ddefnyddiwn.  Rydym ni wedyn yn cynhyrchu ein hadroddiadau prawf, ac yn cyflwyno ein hargymhellion ynghylch a yw'n ddiogel symud ymlaen ai peidio. Nid yw'n dasg hawdd, gyda chymaint o gynhyrchion cydgysylltiol, a thîm bach o ychydig dros 20 o staff.  Fodd bynnag, mae canlyniadau lleihau profion yn helaeth, a gallai arwain at oedi mewn gofal cleifion.
 
C: Beth yw'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol?
 
A: Hoffwn i'r tîm allu cynnig swyddogaeth profi awtomatig, a fyddai'n creu achosion prawf awtomatig a fyddai'n disodli rhai o'n profion atchwel â llaw, yn symleiddio'r broses profi, ac yn cynyddu ailadroddadwyedd. Fel popeth, i gyrraedd y pwynt hwn, mae angen buddsoddi mewn amser, adnoddau ac offer meddalwedd.