Neidio i'r prif gynnwy

Cyfweliad: Effaith System Imiwneiddio Cymru ar y broses o gyflwyno brechiadau COVID-19 torfol

Cyfweliad gyda Hayley Gale, Hwylusydd Nyrs Imiwneiddio, ar effaith System Imiwneiddio Cymru ar y broses o gyflwyno brechiadau COVID-19 torfol. 

Mae System Imiwneiddio Cymru (WIS) wedi ennill gwobrau a chanmoliaeth ledled y byd gan arweinwyr digidol, rheolwyr brechu a defnyddwyr systemau. Fe’i defnyddir i drefnu a chofnodi brechiadau ac fe’i hadeiladwyd ymhen dim ond un wythnos ar bymtheg – gan dîm yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru – yn barod ar gyfer rhoi’r brechiadau COVID-19 cyntaf ym mis Rhagfyr 2020.  

Buom yn siarad ag un o’r nyrsys cyntaf i ddefnyddio’r system – yr Hwylusydd Nyrs Imiwneiddio Hayley Gale – am wythnosau cyntaf y rhaglen frechu, a oedd yn llawn emosiwn, a sut yr oedd WIS yn hanfodol o ran ei galluogi hi a’i chydweithwyr i frechu dros 1,000 o bobl y dydd, mewn canolfan brechu torfol ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Cyn creu WIS, pa bryderon allweddol oedd gennych ynglŷn â chyflwyno brechiadau torfol?

I ddechrau, roedd ymwybyddiaeth o’r nifer enfawr o bobl y byddai’n rhaid i ni eu brechu. Dim ond yn ddiweddarach y gwnaethon ni sylweddoli bod angen inni gadw cofnod o’r brechiadau ac ystyried sut y bydden ni’n gwneud hynny. Roeddwn i'n gwybod yn barod nad oedd gyda ni system gyfrifiadurol addas i wneud hyn oherwydd ein bod ni wedi defnyddio systemau ffeilio papur ar gyfer imiwneiddio plant. Roedden ni eisoes yn cael problemau gyda’n rhaglenni imiwneiddio presennol ac felly byddai wedi bod yn amhosibl gweithio yn yr un ffordd gyda Covid ar raddfa miliynau o bobl.

Pan ddechreuon ni ar y diwrnod cyntaf, roedd WIS gyda ni, ond roedden ni'n dal i ddefnyddio'r ffurflenni cydsynio papur. Gwnaethon ni hyn oherwydd bod cred y bydden nhw’n gyflymach i'w defnyddio gan ein bod ni eisoes yn gyfarwydd â nhw. Fodd bynnag, daeth i'r amlwg yn gyflym nad oedd yn gyflymach. Daeth nyrsys yn fwyfwy awyddus i gael eu hyfforddi ar WIS er mwyn rheoli’r llwyth gwaith.”

 

Wrth edrych yn ôl ar y pandemig, sut y cefnogodd WIS y broses o gyflwyno'r rhaglen brechu torfol?

“Ar adeg cyflwyno’r brechiadau torfol, cafodd ein tîm gyfarwyddyd i greu a rheoli rhai canolfannau brechu am 3 mis. Roedd hyn yn weddol frawychus gan fod llawer o bethau i ddygymod â nhw dros gyfnod byr. Hefyd, byddai cadw trefn ar ffeilio miloedd o ffurflenni papur wedi bod yn gyfrifoldeb ychwanegol enfawr inni. Fodd bynnag, roedd cael WIS a system gyfrifiadurol a oedd yn disodli ffeiliau papur ac yn cofnodi gwybodaeth ar unwaith, wedi mynd â llwyth gwaith enfawr oddi arnon ni, a fyddai fel arall wedi bod yn aruthrol.

Ar ben hynny, pan oedden ni’n defnyddio’r ffurflenni cydsynio papur, roedd yn cymryd amser hir iawn. Daeth i'r amlwg ei bod wedi cymryd tua theirgwaith yn hwy na defnyddio System Imiwneiddio Cymru a gwnaeth hyn wahaniaeth mawr ar raddfa dorfol. Yn ystod diwrnodau cyntaf fy hyfforddiant, doeddwn i ddim yn sylweddoli pa mor syml fyddai WIS ac roeddwn i’n tybio y byddai'n gymhleth. Fodd bynnag, dydy e ddim yn gymhleth o gwbl ac mae gallu mynd yn ôl i mewn i'r system i wneud newidiadau i gofnodion cleifion wedi bod yn hynod ddefnyddiol.

Roedd WIS yn system ddeinamig ac mae’n parhau felly. Mae’n gallu addasu i anghenion wrth iddyn nhw godi. Bu achlysuron pan rydyn ni wedi trafod rhai elfennau o'r system nad ydyn nhw’n gweithio neu nad ydynt yn ddefnyddiol, ac mae tîm WIS yn gallu eu haddasu. Mae hyn yn golygu bod y system yn esblygu’n gyson i gwrdd â’n hanghenion ni.”

 

Yn ystod cyfnod prysuraf y rhaglen frechu, sut oedd yr awyrgylch i'ch tîm a'r nyrsys?

“Roedden ni’n brechu dros 1,000 o bobl y dydd yn ystod y cyfnod prysuraf ac yn ystod camau cynnar rhoi’r brechiadau, roedd mwyafrif y bobl hyn yn oedrannus. Roedd yn emosiynol iawn cwrdd â pobl bob dydd nad oeddent wedi gadael eu tai nac wedi siarad â neb ers misoedd. Roedd pobl wedi colli aelodau o'r teulu a'u rhwydweithiau cymorth ac roedd llawer ohonyn nhw eisiau siarad â ni. Roedd hyn yn arbennig o anodd oherwydd bod gyda ni amserlen a chwota o bobl yr oedd angen i ni eu cyrraedd. Roedden ni eisiau siarad â phob person, ond roedden ni bob amser yn cystadlu yn erbyn y cloc. Roedd y pwysau hyn yn teimlo'n arbennig o anodd.

Roedd teimlad o ryddhad mawr hefyd. Yn ystod dyddiau cynnar y brechiadau, roedd llawer o bobl, gan gynnwys nyrsys, oedd wedi gweiddi’n uchel oherwydd y teimlad o ryddhad eu bod nhw wedi cael eu brechu. Roeddwn i’n adnabod llawer o aelodau staff a oedd wedi colli eu bywydau yn fuan cyn i’r brechiadau gael eu darparu ac roeddwn i wedi ymweld â llawer o'u cofebau. Roedd gwybod nad oedden nhw wedi byw yn ddigon hir i gael eu brechu’n drasig. Fodd bynnag, roedd y teimlad o ryddhad o wybod fy mod i a fy nheulu yn ei dderbyn yn enfawr. I'r rhai oedd yn y garfan agored i niwed, roedd derbyn y brechlyn yn eu galluogi nhw i fyw eto. Roedd gyda nhw obaith am ddyfodol lle gallen nhw fynd allan a chymdeithasu â'u hanwyliaid heb ofni Covid. Mae pobl yn anghofio pa mor bersonol ac agos i gartref yr oedd yn ystod y dyddiau cynnar. Mae'r brechiadau yn llai emosiynol nawr oherwydd bod pobl yn poeni mwy ynghylch a allan nhw fynd ar eu gwyliau ai peidio. Fodd bynnag, ar y dechrau, roedd y broses yn emosiynol tu hwnt.”

 

Ystyriwyd bod Cymru yn arwain y byd o ran nifer y bobl a oedd yn cael eu brechu. O'ch safbwynt chi, allwch chi ddweud pam wrthon ni?

“Mae'n rhaid mai System Imiwneiddio Cymru yw’r rheswm am hynny. Gwnaeth hi wahaniaeth mawr. Mae gyda fi brofiad o ddefnyddio’r system imiwneiddio plant a systemau cofnodi ar gyfer imiwneiddio mewn ysgolion ac mae cael mynediad at rywbeth fel WIS yn anhygoel. Mae'n wych cael system gyfrifiadurol ganolog sy'n cofnodi'r brechiadau ar unwaith i bawb allu eu gweld. Pan fyddwn ni’n rhoi imiwneiddiadau eraill, byddwn ni’n wynebu problemau di-ri, dro ar ôl tro, pan na all pobl eraill weld y manylion sydd wedi’u cofnodi am ein himiwneiddiadau eraill. Nid y bobl sy'n rhoi'r brechiadau yn unig sydd angen mynediad at yr wybodaeth hon. Mae WIS yn darparu system ganolog sy’n gwella effeithlonrwydd ac yn lleihau’r amser y mae’n ei gymryd.”