Neidio i'r prif gynnwy

Blog - Ymgysylltu cleifion a'r cyhoedd mewn iechyd a gofal digidol

Ydych chi erioed wedi ystyried pa mor unigryw ydych chi a pha mor ddibynnol ydych chi ar rannau o'ch corff yn gweithio'n iawn yn eu cyfanrwydd, a beth sy'n digwydd pan nad yw rhywbeth yn gweithio? I mi, mae hyn yn gallu teimlo ychydig fel sut mae'r GIG yn gweithio, a sut rydym yn gwneud iawn ac efallai'n gorwneud i adael i'r rhan honno wella neu ddod o hyd i ffordd wahanol o wneud i bethau weithio.

Er enghraifft, os byddwch yn colli eich llais oherwydd broncitis, a ydych chi'n tueddu i droi at bapur a beiro neu'n gwneud ystumiau â'ch dwylo fel bod pobl yn eich deall? Os byddwch yn torri'ch coes ac yn methu cerdded, a yw hynny'n golygu eich bod yn dibynnu ar faglau neu gadair olwyn neu rywun i'ch helpu i symud o gwmpas er bod hynny’n araf?

Rwy'n siŵr bod gennym ni i gyd brofiadau fel claf neu ofalwr pan fydd angen i ni weld meddyg teulu neu ymweld ag ysbyty. Felly rydych chi'n ceisio trefnu apwyntiad ar adeg sy'n gyfleus i chi oherwydd bod angen i chi gasglu plentyn amser cinio neu mae angen i chi deithio am awr neu ddwy i fynd i weld arbenigwr ac allwch chi ddim defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Pan fydd rhywbeth trychinebus yn digwydd, mae’n debyg ein bod hefyd yn teimlo y gallem fod wedi colli rheolaeth dros ein hiechyd a'n llesiant, neu pan fydd gennym gyflyrau heb ddiagnosis rydym ar olwyn bochdew yn gweld llawer o weithwyr iechyd a gofal proffesiynol felly weithiau mae angen y cyfle arnom i bwyso a mesur ein sefyllfa a dod o hyd i ffordd o ymdopi (yn feddyliol ac yn gorfforol). Mae'r ffordd rydym yn byw ac yn addasu i sefyllfaoedd yn bendant wedi effeithio ar lawer o bobl yn ystod pandemig Covid ac rwyf wedi sylwi ar sut mae ein bywydau wedi newid, weithiau er gwell neu er gwaeth.

Mae gweld pethau o bersbectif claf neu berson ag anabledd yn ein bywydau gwaith prysur yn bwysig iawn i mi. Rwy'n teimlo fy mod mewn sefyllfa unigryw a breintiedig yn Arweinydd Ymgysylltu yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (rwyf wedi gweithio yn GIG Cymru ers bron i 30 mlynedd) i blethu'r safbwyntiau hyn i'n hamgylchedd digidol ac iechyd.

Rwy’n hoffi meddwl amdanaf i fy hun fel llysgennad i ddod â chleifion a chynrychiolwyr cyhoeddus a sefydliadau'r trydydd sector at ei gilydd i fod yn rhan o'n datblygiad cyffrous – Ap newydd GIG Cymru a fydd yn rhoi cyfle i chi gadw eich gwybodaeth iechyd a llesiant yng nghledr eich llaw neu ar flaenau eich bysedd, a rhannu'r wybodaeth hon gyda gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol ac eraill o'ch dewis.

Mae gennym gyfle hefyd i gyflwyno ffyrdd newydd o weithio ac offer digidol newydd na fyddem erioed wedi'u hystyried ychydig flynyddoedd yn ôl, felly mae'n bwysig i ni ddeall eu heffaith o safbwynt cleifion a gweithwyr proffesiynol yn ogystal â’u heffaith sefydliadol ac ar draws Cymru gyfan.

Os gallwn newid a gwella bywydau pobl i'w galluogi i gael eu grymuso a'u cynnwys yn ddigidol, ac i reoli eu hiechyd gyda thechnoleg ddigidol, yna bydd hynny'n gyflawniad gwych i ni yn Nhîm Rhaglen Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a’r Cyhoedd ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Rydym yn ffodus o gael arbenigwyr o feysydd technoleg, ymchwil defnyddwyr, iechyd a gofal, a pholisi yn gweithio gyda ni ynghyd â phobl â phrofiadau bywyd sy'n awyddus i fod yn rhan o weithgareddau ymchwil defnyddwyr i gyflwyno'r Ap GIG Cymru hwn.

Rwy'n gyffrous iawn am y dyfodol wrth inni ddod â phobl ar y daith anhygoel hon.

 

By: Joanna Dundon

Arweinydd Gwybodeg Glinigol Genedlaethol – Cyhoeddus