Mewn gwirionedd, mae technoleg wedi bod yn hanfodol bwysig wrth gefnogi ymateb y GIG i COVID-19, ac mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi amlygu’r rôl ehangach y gall technoleg ddigidol ei chwarae wrth gefnogi a gwella ein gwasanaethau iechyd a gofal.
Ond beth mae hyn yn ei olygu i’r rheiny ohonom sy’n defnyddio gwasanaethau’r GIG, a beth mae’n ei olygu i’n hiechyd? Beth yw technoleg ddigidol a sut y bydd yn effeithio ar y ffordd rydym yn cael mynediad at gyngor, cymorth a thriniaeth gofal iechyd yn y dyfodol?
Mae Helen Thomas, Prif Weithredwr Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn esbonio:
Mae’n bopeth o’r systemau TG mae clinigwyr yn eu defnyddio, i’r seilwaith technegol sy’n rhoi gwybod i chi pryd mae gennych eich apwyntiad brechlyn. Mae yno i helpu meddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i wneud eu swyddi ac i gefnogi cleifion.
Gall hyn fod yn darparu ac yn cynnal y dechnoleg maent yn ei defnyddio o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod ganddynt fynediad at yr wybodaeth a’r data mwyaf perthnasol a diweddar i’w galluogi i wneud y penderfyniadau gorau am ofal cleifion. Ar adegau eraill, mae’n ymwneud ag adolygu’r systemau a’r ffyrdd o weithio yn y GIG a gweld sut y gellir eu symleiddio a’u gwneud yn fwy effeithlon, ac yna defnyddio technoleg i ddatblygu datrysiadau.
Mae cleifion hefyd yn defnyddio gofal iechyd digidol – er enghraifft, drwy gydol y pandemig bu dros 5,000 o ymgynghoriadau fideo meddygon teulu bob wythnos. Ac fel llawer iawn o bobl eraill, rwy’n defnyddio’r ap olrhain cysylltiadau i fonitro trosglwyddiad COVID-19 pryd bynnag y byddaf yn mynd i far, i gaffi neu i fwyty.
Ond y rhan fwyaf o’r amser ar hyn o bryd, defnyddir technoleg ddigidol y tu ôl i’r llenni i symleiddio prosesau ac i wella gofal.
Rydym eisoes yn defnyddio technoleg i wneud pethau nad oeddent yn cael eu gwneud ar-lein fel arfer – i wneud ein gwaith, i astudio, i drefnu apwyntiad gwallt, i gyfathrebu â theulu a ffrindiau – felly mae ymagwedd ‘digidol yn gyntaf’ at ofal iechyd yn cyd-fynd â’n ffyrdd o fyw.
Sefydlodd Llywodraeth Cymru Iechyd a Gofal Digidol Cymru fel Awdurdod Iechyd Arbennig newydd i adlewyrchu pwysigrwydd technoleg ddigidol wrth newid a gwella ein gofal iechyd ac wrth sicrhau gwell profiad i gleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol.
Gall ymagwedd ‘digidol yn gyntaf’ olygu gwell cyfathrebu rhwng clinigwyr a chleifion – gan ganiatáu ymgynghoriadau ac apwyntiadau rhithiol pan nad ydynt yn bosibl wyneb yn wyneb, neu ddarparu gwell mynediad at wybodaeth a chofnodion cleifion fel y gall clinigwyr weld y rhai diweddaraf mewn perthynas â gofal cleifion.
Gall hefyd ein helpu i sicrhau bod gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru fynediad at yr un wybodaeth am gleifion lle bynnag y darperir gofal, felly os cewch eich cyfeirio at ysbyty gwahanol neu arbenigwr ar gyfer triniaeth, bydd ganddynt eich gwybodaeth iechyd flaenorol eisoes.
Bydd hyn yn arwain at wasanaeth gwell, cydgysylltiedig ac wedi’i symleiddio ar gyfer cleifion.
Yn ddiweddar, rydym wedi cyflwyno gwasanaeth digidol newydd sbon a fydd yn newid arferion gweithio yn gyfan gwbl ar gyfer nyrsys ac aelodau eraill o’r timau amlddisgyblaethol yng Nghymru.
Mae Cofnod Gofal Nyrsio Cymru wedi disodli’r ffurflenni papur llafurus y byddai’n rhaid i nyrsys eu llenwi pryd bynnag y byddai cleifion yn mynd yno i dderbyn gofal. Nawr, gallant gwblhau asesiadau wrth ochr gwely cleifion ar lechen symudol, neu ar ddyfais llaw arall, gan arbed amser, gwella cywirdeb a lleihau dyblygu.
Ond rydym eisiau cyflwyno rhagor o wasanaethau digidol i’w defnyddio gan bobl Cymru i’w gwneud yn haws ac yn fwy cyfleus i gael mynediad at y gwasanaethau iechyd a gofal sydd eu hangen arnynt, gan adlewyrchu eu profiadau o agweddau eraill ar fywyd bob dydd a chan ddisodli hen brosesau papur. Er enghraifft, drwy allu derbyn gohebiaeth yn y ffordd y dymunant, o bosibl drwy ap neu ar eu ffôn symudol, a thrwy weld a newid eu hapwyntiadau gofal iechyd ar-lein i amser neu ddiwrnod mwy cyfleus.
Bydd datrysiadau digidol newydd yn golygu y bydd darparwyr gofal yn ei chael yn haws cyfuno’r holl wybodaeth am yr unigolyn maent yn gofalu amdano/amdani wrth leihau’r amser sydd ei angen ar gyfer prosesau gweinyddol papur.
Megis dechrau yr ydym hyd yn hyn, ond rydym ar gychwyn datblygiadau newydd a chyffrous iawn.
Rydym yn Awdurdod Iechyd Arbennig sydd â Bwrdd a chylch gorchwyl i arwain ar y gwasanaethau digidol cenedlaethol sydd eu hangen nawr ac yn y dyfodol. Rydym yn darparu cymorth TG a gwell technoleg yn y GIG, yn datblygu systemau a gwasanaethau i gefnogi clinigwyr, ac rydym yn dod â gwybodaeth at ei gilydd ar draws ysbytai, byrddau iechyd, gofal sylfaenol a’r diwydiant.
Mae sefydliad ac enw newydd yn nodi newid mewn pwyslais ac mae’n gosod ffocws cryf ar y gwasanaethau technoleg a data cenedlaethol sydd eu hangen arnom yn y byd sydd ohoni. Mae gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru ffocws ar gasglu data a gwybodaeth a sicrhau eu bod yn hygyrch i weithwyr iechyd proffesiynol a chleifion. Mae ganddynt hefyd ffocws ar integreiddio, deallusrwydd artiffisial (AI) a defnyddio’r enghreifftiau gorau o wasanaethau digidol eraill sy’n cael eu gyrru gan ddefnyddwyr.
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn datblygu, yn gweithredu ac yn gwella rhaglenni a gwasanaethau yn barhaus, a hynny i symleiddio gofal iechyd.
Er enghraifft, mae Porth Clinigol Cymru (WCP) yn gymhwysiad gwe clyfar, sy’n dod â data a gwybodaeth am gleifion ynghyd o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru i un cofnod digidol canolog, y gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gael mynediad ato ledled Cymru.
Mae gan feddygon sy’n defnyddio WCP fynediad at dros filiwn o gofnodion digidol cleifion, sy’n cynnwys canlyniadau profion, lluniau a sganiau. Mae dros 28,000 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn defnyddio’r platfform, ac mae hwn hefyd wedi’i droi’n ap ffôn symudol, sy’n golygu y bydd gan eich clinigwyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ofalu amdanoch ar flaenau eu bysedd lle bynnag y byddwch yng Nghymru.
Mae Dewis Fferyllfa yn enghraifft arall o wasanaeth a grëwyd gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru i alluogi gofal gwell i gleifion. Mae’r platfform yn caniatáu i fferyllfeydd yn y gymuned gadw cofnod ar gyfer pob claf, gan eu caniatáu i helpu pobl â mân anhwylderau, i drin dolur gwddf neu i ddarparu meddyginiaethau brys, gan arbed amser meddygon teulu. Mae’r gwasanaeth wedi’i integreiddio yn rhwydwaith GIG Cymru, gan roi mynediad i fferyllwyr at fanylion am feddyginiaethau mewn cofnodion meddygon teulu a’u helpu i wneud penderfyniadau mwy gwybodus.
Un enghraifft proffil uchel o waith Iechyd a Gofal Digidol Cymru yw System Imiwneiddio Cymru, sef y system ddigidol a ddatblygwyd ac a lansiwyd yn gyflym ym mis Rhagfyr 2020 i ddarparu brechlynnau COVID-19 ledled Cymru.
Crëwyd y system gan GIG Cymru ar gyfer pobl Cymru ac mae’n trefnu apwyntiadau yn awtomatig, gan anfon llythyrau a negeseuon testun i gleifion a chofnodi manylion am bob brechlyn a roddir yng Nghymru. Gyda llawer ohonom yn aros am ein hail frechlyn COVID-19 bellach, mae’r system yn trefnu apwyntiadau dilynol yn awtomatig hefyd. Mae cael system ddigidol ganolog yn prosesu’r wybodaeth hon yn caniatáu i frechlynnau gael eu darparu mor effeithlon â phosibl.
Er bod rhai ohonom yn hyderus yn defnyddio technoleg ac apiau i gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnom, mae bylchau sylweddol mewn llythrennedd digidol yng Nghymru o hyd. Rwy’n gwybod o brofiad y gall rhai pobl gael trafferthion ac nid oes gan rai eraill fynediad at offer digidol modern na’r rhyngrwyd. Yn yr amgylchiadau hyn, bydd pobl yn cael eu cefnogi a bydd ganddynt opsiynau amgen i gael mynediad at wasanaethau a gwybodaeth, gan eu galluogi i barhau’n gyfranogwyr gweithredol yn eu hiechyd a’u llesiant. Ond mae’n bwysig bod cleifion yn gwybod nad yw’r byd digidol yn disodli’r gwasanaethau presennol yn y GIG.
Cyflymodd y gwaith o ddefnyddio a gweithredu rhai gwasanaethau digidol yn sylweddol yn ystod y pandemig i leihau cyswllt wyneb yn wyneb, ond bydd angen gwasanaethau nad ydynt ar-lein bob amser hefyd.
Mae cadw data iechyd a gofal yn ddiogel ar-lein yn ffocws canolog.
Bydd yr holl wybodaeth bersonol a gesglir gan GIG Cymru yn cael ei diogelu drwy ddefnyddio’r safonau uchaf o ddiogelwch ar y we a seiberddiogelwch, a bydd yn cydymffurfio’n llawn â deddfwriaeth diogelu data.
Dyluniwyd ein systemau digidol i helpu’r GIG i weithredu’n effeithiol ac i gefnogi ein meddygon, ein nyrsys a’n staff iechyd wrth ddarparu gwell gofal iechyd i bobl Cymru.