Neidio i'r prif gynnwy

Astudiaeth Achos Cais am Brofion ac Adrodd Canlyniadau i Feddygon Teulu (GPTR): Prestatyn Iach

Mae’r profiad rhwystredig o gleifion yn gorfod dychwelyd i’w meddygfa i ail-wneud profion gwaed dyblyg yn dod yn hen beth, diolch i system gyfrifiadurol newydd.
 
Mae’r gwasanaeth, o’r enw GPTR, yn symud meddygfeydd o brosesau papur i ddefnyddio system gyfan gwbl electronig, i wneud ceisiadau am brofion a derbyn canlyniadau. Mae’n helpu i sicrhau bod profion gwaed yn cael eu trefnu’n gywir bob tro, fel nad oes angen ail-wneud profion cleifion.
 
Dywedodd Carolyn Jones, Rheolwr Data ym Mhrestatyn Iach yng ngogledd Cymru, ar ôl defnyddio’r GPTR ar gyfer eu holl geisiadau am brofion gwaed, na fydd ei meddygfa byth yn dewis mynd yn ôl i’r hen system, “Rydym ni’n gyfarwydd â hi nawr, mae’n system dda”, meddai. Cyfaddefodd yr oedd rhai problemau pan wnaethant ddechrau ei defnyddio, “y brif broblem oedd cyflymder - gall fod yn arafach na’r hen ddull - ond nawr mae llawer mwy o fuddion nag anfanteision”, meddai.
 
Roedd Prestatyn Iach yn un o’r meddygfeydd cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio’r GPTR, ar ôl gwirfoddoli i fod yn feddygfa ‘beilot’ yn 2013. Ers hynny, maen nhw’n ei defnyddio’n llawn ac yn gwneud 100% o’u ceisiadau’n electronig. Gydag ychydig dros 21,000 o gleifion ar draws pum safle, mae wedi bod yn wasanaeth hynod o ddefnyddiol i’r tîm, “Rydym ni’n gwneud oddeutu 2,500 o geisiadau am brofion bob mis,” esboniodd Carolyn, “felly mae cael proses electronig fodern yn gwneud synnwyr”.
 
Esboniodd Carolyn rai o’r buddion sydd wedi bod i’r feddygfa yn sgil GPTR, gan gynnwys:
 
  • Trywydd archwiliad, er mwyn gwybod pwy sydd wedi archebu prawf
  • Os bydd claf yn colli ei ffurflen cais am brawf gwaed, gellir argraffu un newydd yn hawdd
  • Mae’r meddyg yn cael beth y bynnag yr archebodd - yn y gorffennol, gallai fod yn anodd i labordy ddehongli nodiadau llawysgrifen, ac felly roedd rhai profion yn cael eu colli, ond nawr mae’r meddyg yn gwybod y bydd yn cael yr holl brofion y gwnaeth gais amdanynt.
  • Os yw’r claf wedi bod yn yr ysbyty, gall y meddyg teulu weld unrhyw brofion gwaed a gafodd, a mewnfudo’r canlyniadau i gofnodion meddyg teulu’r claf
  • Os yw’r claf wedi bod i glinig diabetes, gall y meddyg teulu gyrchu canlyniadau’r clinig diabetes
  • Caiff manylion fel dyddiad geni a chyfeiriad y claf eu llenwi fel mater o drefn fel rhan o’r cais am brawf
 
Mae’r system ar gael yng ngogledd a gorllewin Cymru ar hyn o bryd, ac mae’n cael ei chyflwyno mewn rhannau o dde Cymru. Cyflwynodd Carolyn y system i’w meddygfa’n raddol, gan ehangu ei defnydd o rai gwaedwyr a staff gweinyddol i ddechrau, cyn annog timau eraill a’r meddygon teulu i’w defnyddio.
 
“Dechreuom gyda rhai aelodau o staff a oedd yn eithaf hyderus gyda TG, gan edrych ar ei helfennau cadarnhaol, ac yna gallem annog pobl eraill a chlinigwyr i’w defnyddio.”
 
Gall meddygon teulu weld y canlyniadau o ysbytai, a gallant fod yn hyderus y byddant yn derbyn canlyniadau’r holl brofion y maent yn gwneud cais amdanynt, “Yn flaenorol, byddai rhai profion yn cael eu colli, yn sgil problem dehongli llawysgrifen fel arfer, ond nawr mae’r meddyg teulu’n gwybod y bydd yn cael yr holl ganlyniadau, ac y bydd yn gallu eu gweld nhw i gyd mewn un adroddiad,” esboniodd Carolyn.
 
Dywedodd Carolyn ei bod hi’n edrych ymlaen at weld mwy o welliannau i GPTR dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, “Mae’n gyflymach o’i gymharu â dwy flynedd yn ôl, ac mae’n cyflymu ac yn gwella drwy’r amser, byddai’n wych ei weld yn ehangu i feysydd prawf eraill, fel profion ceg y groth a phelydr-x”
 
Pan gyflwynodd y feddygfa’r GPTR, cynhyrchodd Cydlynydd yr Uwch Dîm Allweddol,  Darryn, ddalen crib yn esbonio sut i ddefnyddio’r system, “Roedd yn ddalen crib i bobl ei dilyn, ond mae pethau bach felly o help mawr, ac mae’n annog pobl”, a neges reolaidd y mae’n ei rhoi i bobl yw, “mae’n werth chweil dyfalbarhau”.