O dro i dro, rydym yn cael yr anrhydedd o ddathlu rhywun sydd nid yn unig wedi cael effaith gadarnhaol yn ein sefydliad ni ond sydd hefyd wedi ysbrydoli cymunedau ledled Cymru. Heddiw, rydym yn falch o dynnu sylw at ein cydweithiwr Nelly Adam, Partner Busnes Cynorthwyol, sydd wedi derbyn dwy anrhydedd fawreddog yng Ngwobrau Cymdeithas Cyflawniad Menywod o Leiafrifoedd Ethnig yng Nghymru (EMWWAA): Gwobr Dyngarwch Cymdeithasol a Gwobr Rhodri Morgan.
Mae’r gwobrau hyn yn gydnabyddiaeth bwerus o ymrwymiad cyson Nelly i gyfiawnder hiliol a chynhwysiant, a hynny wrth anelu at greu Cymru lle nad oes unrhyw oddefgarwch i hiliaeth. Mae ei gwaith yn adlewyrchu ymroddiad dwfn i adeiladu cymdeithas decach a mwy tosturiol i bawb.
“Fy nghenhadaeth yw dod â chymunedau ynghyd a gwneud newidiadau polisi parhaol er budd cenedlaethau’r dyfodol. Rydw i’n awyddus i rymuso pobl i godi eu llais – a’i ddefnyddio dros bobl sy’n dal i fod heb gael eu clywed,” meddai Nelly.
Mae’r Wobr Dyngarwch Cymdeithasol yn anrhydedd a roddir i rywun sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol at gyfiawnder cymdeithasol ac achosion dyngarol. Mae Gwobr Rhodri Morgan, a enwyd ar ôl cyn-Brif Weinidog Cymru, yn dathlu arweinyddiaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus ac ymgysylltiad dinesig – rhinweddau y mae Nelly yn eu dangos bob dydd.
Rydym yn hynod falch o gael Nelly yn rhan o’n tîm. Mae ei harweinyddiaeth, ei hangerdd a’i gweledigaeth yn parhau i ysbrydoli pob un ohonom – ac mae’r gydnabyddiaeth hon yn gwbl haeddiannol.
Llongyfarchiadau, Nelly!