Neidio i'r prif gynnwy

Y Cofnod Gofal Iechyd Meddwl Cenedlaethol – Golwg i Gynllun Peilot

“Ein nod yw sicrhau bod y data cywir ar gael ar yr amser cywir fel y gellir gwneud y penderfyniad cywir.”

Mae Bethany Paines-Chumbley yn Ddadansoddwr Busnes yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC). Yn y blog hwn, mae Bethany yn sôn am y gwaith i ddatblygu Cofnod Gofal Iechyd Meddwl Cenedlaethol (NMHCR).

 

Pam mae angen cofnod gofal iechyd meddwl newydd arnom?

Ar hyn o bryd, ni all gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru gyrchu llawer o wybodaeth fanwl ac mae'r rhan fwyaf o'r data sydd ganddynt yn eithaf cyffredinol. Mae strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys datblygu Cofnod Gofal Iechyd Meddwl Cenedlaethol (NMHCR). Bydd hyn yn sicrhau bod pob sefydliad yn casglu’r un wybodaeth, fel bod cleifion yn cael yr un lefel o ofal, ni waeth ble y maent yng Nghymru, gan wella canlyniadau cleifion. Mae'r Tîm Gwasanaethau Gwybodaeth Gymunedol ac Iechyd Meddwl yn IGDC wedi bod yn gweithio'n galed i wneud i hyn ddigwydd.

 

Sut wnaethon ni ddechrau?

I ddechrau, edrychodd y tîm ar sut mae gofal iechyd meddwl yn cael ei ddarparu a nodi'r pwyntiau lle mae angen casglu data. Yna, cydweithion nhw â rhanddeiliaid i benderfynu pa wybodaeth y dylid ei chasglu a phryd. Fel hyn, gellir mewnbynnu'r un data unwaith ond ei ddefnyddio sawl gwaith.

Ymunais â’r tîm ym mis Medi 2022 fel Dadansoddwr Busnes. Rhan o fy rôl oedd defnyddio'r wybodaeth hon i ysgrifennu storïau defnyddwyr, sy'n esbonio beth mae defnyddiwr am ei gyflawni gyda nodwedd meddalwedd. Mae'r rhain yn helpu datblygwyr i ddeall anghenion defnyddiwr ac i ddiwygio'r system bresennol.

 

Profi'r ffurflen newydd

Ar ôl ychwanegu meysydd newydd at ffurflen bresennol, datblygodd ein Harbenigwr Arweiniol (Dadansoddiad) fersiwn 5 o’r ffurflen Asesiad Iechyd. Y ffurflen hon yw sut rydym yn casglu data ar y system bresennol ar gyfer y Cofnod Gofal Iechyd Meddwl Cenedlaethol. Mae'n cynnwys ymarferoldeb ychwanegol a gwelliannau o gymharu â fersiwn gynharach y ffurflen, megis eitemau data newydd a rhwyddineb defnydd.

Ar ôl ymgysylltu â'n rhanddeiliaid, cytunwyd y byddai Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn treialu'r ffurflen newydd. Bu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ei dreialu rhwng Mehefin a Medi 2024. Dechreuodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe y peilot ym mis Gorffennaf 2024 a bwriedir iddo ddod i ben ym mis Hydref 2024.

Yn dilyn y peilot, tynnodd ein Huwch Arbenigwr Cynnyrch ddata o'r system i wneud rhywfaint o waith dadansoddi. O 10 Medi, 2024, roedd staff Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi cofnodi 282 o gofnodion Asesu Iechyd Meddwl a gofnodwyd ar y system, gan ddangos bod y ffurflen yn cael ei defnyddio gan bobl ar draws timau lluosog.

 

Beth sydd nesaf?

Y cam nesaf yw mynd â’r Cynnig Terfynol drwy’r broses sicrwydd a chreu Hysbysiad Newid Safonol Digidol (DSCN). Mae hon yn ddogfen sy'n dweud wrth sefydliadau am newid y mae angen iddynt ei wneud i'w systemau neu eu data digidol. Yna bydd angen i'r DSCN gael ei fandadu drwy Fwrdd Gwasanaethau Gwybodaeth Cymru (WISB), sy'n goruchwylio safonau gwerthuso gwybodaeth. Bydd hyn yn sicrhau bod unrhyw offer digidol yn cydymffurfio ac yn casglu’r Cofnod Gofal Iechyd Meddwl Cenedlaethol (NMHCR), sy’n golygu y bydd hyn yn cael ei gyflwyno’n ehangach ledled Cymru.

Rydym hefyd yn gweithio ar brosiectau eraill i edrych ar eitemau data sydd eu hangen ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol, gan gynnwys gwasanaethau amenedigol a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau.

Er mwyn storio'r NMHCR, bydd IGDC yn cynnal y Gronfa Ddata Iechyd Meddwl Genedlaethol, gan ddefnyddio ei ddata i gynhyrchu mewnwelediadau gweithredadwy. Yna gall y gwasanaethau ddefnyddio'r mewnwelediadau hyn i wella canlyniadau i ddinasyddion.

 

Pam mae'r prosiect hwn yn bwysig i mi

Mae’n wych gweld cynnydd yn cael ei wneud yn y maes hwn. Ar lefel broffesiynol, mae cofnod claf digidol yn golygu na fydd yn rhaid i gleifion ailadrodd eu hanes ym mhob apwyntiad. Bydd yn ein helpu i gyrraedd ein nod o sicrhau bod y data cywir ar gael ar yr amser cywir fel y gellir gwneud y penderfyniad cywir.

Mae'r prosiect hefyd yn bwysig i mi ar lefel bersonol. Ar ôl i fy mab gael ei eni ym mis Tachwedd 2023, dechreuais gael pyliau cyfnodol anrhagweladwy o boen oherwydd cerrig bustl. Er gwaethaf newidiadau i fy neiet, roeddent yn digwydd cyn amled â phob wythnos a gallent bara am oriau, gan wneud i mi deimlo'n wirioneddol bryderus. Lledodd y gorbryder i feysydd eraill o fy mywyd, felly es i weld fy meddyg teulu. Diolch byth, mae triniaethau gwahanol wedi fy helpu i ymdopi'n llawer gwell. Roedd rhai o’r triniaethau hyn yn gyrsiau a gynhaliwyd gan bartneriaid trydydd sector na fyddwn i wedi gwybod amdanynt pe na bawn i’n rhan o’r prosiect hwn.