Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos yn Nant Gwrtheyrn: Jenny Pugh-Jones

18 Medi 2025

Gan Jenny Pugh-Jones, Cadeirydd Goruchwylio'r Rhaglen, Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig

Ro’n i’n ffodus i gael y cyfle i fynd i Nant Gwrtheyrn am wythos i ddysgu Cymraeg. 

I’r rheini sy’ ddim yn nabod Nant Gwrtheyrn, mae’n ganolfan dysgu Cymraeg ym Mhen Llŷn. Mae’r ganolfan ger pentre’ bach Llithfaen ac yr unig ffordd i gyrraedd Nant Gwrtheyrn yw ar hyd ffordd serth a throellog iawn, y ffordd ‘zig-zag’. 

Cyrhaeddais am 9 o’r gloch fore dydd Llun i ddarganfod fy llety ar gyfer yr wythnos. Roedd rhai pobl yn aros yn y bythynnod, ond ces i ystafell yn yr adeilad newydd - roedd hi’n gyffrous iawn! 

Fy nghwrs i oedd ‘Cwrs Codi Hyder’, ond roedd tri chwrs gwahanol trwy’r wythnos: un mynediad, un sylfaen ac un canolradd+. Ro’n i ychydig yn nerfus a faswn i’n deall popeth? Beth os yw pawb yn siarad yn llawer gwell na fi? Ond doedd dim angen poeni, roedd pawb yn gyfeillgar - ac yn amyneddgar iawn! 

Cwrddon ni i gyd yn y ganolfan i gwrdd â’n tiwtor (fy nhiwtor i oedd Lisa, roedd hi’n wych) am yr wythnos ac wedyn roedd y gwaith yn dechrau! Trefn y dydd oedd: brecwast am 8.30 o’r gloch, dosbarth am 9.30-1.00 o’r gloch (gydag egwyl) ac wedyn 2-4 o’r gloch. Roedd opsiwn i wneud ioga am 7 o’r gloch bob bore ac am 4 o’r gloch. 

Fe wnes i ioga – roedd e’n hwyl ac ymlaciol iawn. Roedd naw o bobl yn fy nosbarth, o wahanol rannau o’r byd iechyd, pawb ar gam gwahanol gyda’u taith iaith. Roedd Lisa, ein tiwtor yn dda dda iawn am ein cadw ni i gyd yn gyfforddus. Hyd yn oed gyda’r cyflwyniad roedd yn rhaid i ni ei wneud ar y diwrnod olaf. Yn y nos, roedd rhai pethau wedi’u trefnu. 

Ar y noson gyntaf – sgrin fawr ar gyfer y pêl-droed. (Gadewais i ar hanner amser, gyda’r sgôr yn 3-1 i Wlad Belg, felly collais i’r rhan gorau).  

Nos Fawrth, daeth Gwilym Bowen Rhys i chwarae a chanu gyda ni. Roedd e’n grêt a mwynheuon ni eistedd tu allan yn y machlud yn gwrando arno fe. 

Nos Fercher, doedd dim wedi ei drefnu felly fe wnaeth rhai ohonon ni benderfynu mynd ar Daith Cerdded Nant Gwrtheyrn, a cherdded tua 2 awr o Nant Gwrtheyrn. Cawson ni lawer o hwyl, ymarfer ein Cymraeg wrth gwrs, a mwynhau’r golygfeydd. Fe welon ni’r geifr gwyllt. Roedd y tywydd yn dwym iawn, ac ar y diwrnod olaf, aeth rhai ohonon ni i’r môr.

Fe wnaeth yr wythnos hedfan heibio. Cwrddais i â llawer o bobl lyfli a, mwya’ pwysig, dw i’n teimlo’n fwy hyderus i siarad Cymraeg, yn y gwaith a’r tu allan i’r gwaith. Roedd y cwrs yn waith anodd ond yn llawer o hwyl. 

Mae Nant Gwrtheyrn yn lle arbennig, bron fel byd arall. Mae’n fwy na dysgu’r iaith, chi’n dysgu am yr hanes a diwylliant hefyd. 

Roedd rhywbeth ddywedodd ein tiwtor dros yr wythnos sy’n gyngor da yn fy marn i: 

Does dim botwm i’w wasgu sy’n eich symud o fod yn ddysgwr Cymraeg i fod yn siaradwr Cymraeg – felly defnyddiwch yr hyn dych chi’n ei wybod a pheidiwch â phoeni am yr hyn nad dych chi’n ei wybod! 

Os chi’n cael y cyfle, dw i’n eich argymell yn gryf i fynd! 

Dilynwch ni: