04 Chwefror 2026
Ar gyfer Diwrnod Canser y Byd 2026, rydym yn tynnu sylw at sut mae tîm gwybodaeth canser Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) yn helpu i wella gofal canser i bobl ledled Cymru.
Mae tîm gwybodaeth canser IGDC wedi creu ystod o offer digidol sy'n gwneud data canser yn haws i'w gasglu, ei ddeall a'i ddefnyddio. Mae'r dangosfyrddau'n cyflwyno gwybodaeth mewn ffordd glir a hygyrch, gan alluogi defnyddwyr i nodi a chywiro data coll neu anghywir yn gyflym. Mae hyn yn sicrhau bod gan glinigwyr a chydlynwyr fynediad at y cofnodion mwyaf dibynadwy wrth gefnogi cleifion.
Mae'r wybodaeth well hon yn bwydo i adrodd cenedlaethol trwy lif data i'r Gofrestrfa Ganser Genedlaethol i Gymru o fewn Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru, a thrwy Rwydwaith Canser Cymru i'r Ganolfan Gydweithredol Archwilio Canser Genedlaethol at ddibenion archwilio.
Mae'r tîm hefyd yn darparu dangosfyrddau Gofal Lliniarol Arbenigol, sy'n rhoi mynediad ar unwaith i glinigwyr ac arweinwyr gwasanaeth at wybodaeth allweddol am gleifion sy'n derbyn gofal lliniarol, p'un a oes ganddynt ganser neu gyflwr arall. Mae'r offer hyn yn helpu i ddangos sut mae gwasanaethau gofal lliniarol yn gwneud gwahaniaeth ac yn cefnogi gwelliant parhaus.
Eleni, datblygodd y tîm ddangosfwrdd i archwilio amrywiadau yn y defnydd o Brofion Imiwnocemegol Ysgarthol Symptomatig (S-FIT) - offeryn diagnostig anfewnwthiol a ddefnyddir i ganfod olion gwaed mewn carthion a allai ddangos canser y coluddyn - ledled Cymru ac i archwilio ei effaith ar lwybrau diagnostig ar gyfer canser y colon a'r rhefrwm, yr ail ganser mwyaf cyffredin yng Nghymru. Mae'r gwaith hwn yn cefnogi gwell dealltwriaeth o amrywiad mewn gwasanaethau ac yn helpu i lywio ymdrechion i wella.