Gan Gillian Davies-Evans, Rheolwr Diogelwch Cleifion
Ym mis Tachwedd y llynedd roeddwn yn byw fy mywyd fel arfer ac yn gwneud paratoadau munud olaf i ymweld â’m mab a’i deulu yn Dubai. Ond aeth pethau ddim fel yr oeddwn i wedi’i gynllunio. Yn hytrach na chael amser hyfryd yn Dubai gyda fy nheulu, mi dreuliais - trwy garedigrwydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf - 8 noson yn Ysbyty’r Tywysog Siarl. A’r rhan fwyaf o’r rheiny yn yr Uned Gofal Cardiaidd!
Roedd yna adegau dros y flwyddyn flaenorol pan nad oeddwn i’n teimlo’n rhy dda. Roeddwn yn blino’n hawdd ac yn fyr o wynt, ac yn cael rhywfaint o boenau yn y cyhyrau, ond dim byd oedd yn peri gormod o bryder i mi. Roeddwn i’n meddwl fod hynny’n rhan o fywyd prysur, ac roeddwn i’n cael y teimlad euog arferol y dylwn i gymryd mwy o ddosbarthiadau ymarfer corff!
Roedd gen i lawer o bethau i’w gwneud cyn mynd i ffwrdd, ac un oedd cael prawf gwaed yn fy mhractis meddyg teulu. Mae gen i ddiabetes ac roedd y clinig arferol yn rhedeg awr yn hwyr, felly methwyd â chasglu gwaed, a gofynnwyd i mi drefnu i gael profion yn fy mhractis meddyg teulu yn lle hynny.
A dweud y gwir dim ond un ymhlith nifer o dasgau oedd y prawf gwaed y diwrnod hwnnw. Roedd fy apwyntiad gwallt yr un mor bwysig (neu hyd yn oed yn fwy pwysig!), yn enwedig gan fy mod i ar fin hedfan i Dubai!
Cafodd y prawf gwaed ei wneud gan Gynorthwyydd Gofal Iechyd, a gymerodd fy mhwysedd gwaed a churiad fy nghalon hefyd. Roedd fy mhwysedd gwaed yn uchel, ond fe wnaethon ni siarad am straen roeddwn i wedi bod yn ei deimlo. Yn hwyrach y diwrnod hwnnw, a finnau’n eistedd yn y gadair (18 milltir i ffwrdd) yn aros i gael torri fy ngwallt, cefais alwad ffôn gan y practis yn gofyn i mi fynd yn ôl. Roedden nhw eisiau gwneud ECG i gofnodi gweithgarwch fy nghalon. Fe wnaeth y cais hwn fy nrysu ychydig, a chynigiais alw i mewn y diwrnod canlynol. Cefais fy synnu braidd pan gefais ddwy alwad arall gan y feddygfa: roedden nhw’n mynnu fy mod yn cael yr ECG y diwrnod hwnnw a byddai’r cynorthwyydd gofal iechyd yn aros amdanaf.
Fe wnaethon nhw esbonio bod fy mhỳls yn isel - 44 curiad y funud (sy’n iawn i athletwyr mae’n debyg, ond dydw i ddim yn athletwraig) - a bod gen i fradycardia. Roedd hyn yn gymaint o achos pryder y byddai angen i mi fynd yn syth i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty’r Tywysog Siarl (peidiwch â gyrru, gadewch eich car yma). O’r eiliad y cyrhaeddais yno, a chael fy mrysbennu yn y pen draw, roedd fy holl fanylion - fy meddyginiaethau, fy nghofnod cryno - i gyd ar gael yng Nghofnod Meddyg Teulu Cymru. Nid fel hyn oedd hi yn y gorffennol. Roeddwn yn yr ysbyty rai blynyddoedd yn ôl a bu’n rhaid i mi roi fy manylion sawl gwaith, ac ailadrodd fy hanes meddygol a’m meddyginiaethau rheolaidd i wahanol adrannau a meddygon. Ond nid felly’r oedd hi’r tro hwn.
Treuliais y noson gyntaf mewn gwely yn uned asesu meddygol yr adran damweiniau ac achosion brys a chefais fy monitro dros nos gyda thelemetreg i gofnodi gweithgarwch fy nghalon – daeth yn amlwg bod angen i mi aros yn yr ysbyty. Doedd dim rhaid i mi boeni am roi nac ailadrodd unrhyw fanylion meddygol neu bersonol. Roedd gan bawb fy ngwybodaeth, a’r cyfan oedd yn rhaid i mi ei wneud oedd ceisio cysgu drwy bîp cyson y peiriannau.
Y bore canlynol, ar ôl noson aflonydd, esboniodd yr Ymgynghorydd Cardiaidd fod gennyf rwystr calon llwyr. Byddai angen i mi aros yn y gwely a chael fy monitro 24-awr nes y byddai modd gosod rheolydd calon chwe diwrnod yn ddiweddarach.
Cefais fy nerbyn i’r Uned Gofal Cardiaidd, wedi fy nghysylltu â pheiriant telemetreg cludadwy ac fe ddywedon nhw wrtha i fod yn rhaid i mi aros yn y gwely drwy’r amser. Roedd fy meddyginiaethau cywir yn barod ac yn aros amdanaf yn fy locer wrth ochr y gwely, a doedd neb yn gofyn i mi ailadrodd fy manylion. Roedd popeth yn rhedeg yn llyfn a di-dor wrth i mi symud rhwng adrannau, a rhwng meddygon a nyrsys. Roeddwn i’n teimlo bod systemau IGDC yn fy nghynnal a’m cefnogi.
Yn ystod yr amser a dreuliais yn yr Uned Gofal Cardiaidd sylwais nad oedd y nyrsys yn gorfod ysgrifennu unrhyw beth i lawr. Roedd yr ymgynghorydd yn edrych ar fy ngwybodaeth ar liniadur ar droli oedd yn cael ei gludo o amgylch y ward, ac roedd y nyrsys yn ychwanegu gwybodaeth ar y Cofnod Gofal Nyrsio Cymru digidol (do, fe wnes i ofyn). Yr unig beth nad oedd yn ddigidol oedd yr ECG a’r siartiau ar gyfer cofnodi amser a faint o feddyginiaeth a roddwyd. Roedd y cyfan yn wahanol iawn i’m profiad bedair blynedd ynghynt, pan fu’n rhaid i mi, yn ystod triniaeth effro, atgoffa’r ysbyty am wybodaeth nad oedd yr ymgynghorydd wedi sylwi arni yn fy nodiadau papur. Yn y diwedd bu rhaid stopio’r llawdriniaeth honno hanner ffordd drwyddi!
Gyda fy mhỳls wedi dirywio ymhellach i 35 curiad y funud, gosodwyd y rheolydd calon yn y labordy cathetr cardiaidd, drws nesaf i’r Uned Gofal Cardiaidd. Cefais gyfnod adfer o o leiaf chwe wythnos ar ôl hynny lle na allwn yrru na hedfan, a bu’n rhaid i mi geisio peidio â defnyddio fy mraich chwith er mwyn rhoi cyfle i wifrau’r rheolydd calon ymsefydlu. Aeth y cyfan yn dda, ac ym mis Chwefror 2024 cefais fynd i Dubai o’r diwedd. Roeddwn i’n teimlo’n hynod lwcus na hedfanais i ar y dyddiad gwreiddiol hwnnw ym mis Tachwedd, heb wybod am fy nghyflwr.
Roeddwn i eisiau rhannu’r stori hon gan fy mod i wedi gweithio yn y GIG ers dros 25 mlynedd, ac yn IGDC ers 9 mlynedd, ac rwy’n gweld yr holl waith caled y mae pobl yn ei wneud i greu a chynnal y systemau digidol yn ein hysbytai. Rydw i nawr wedi gweld y systemau hynny’n gweithio’n dda mewn ysbyty ac yn fy nghynnal a’m cefnogi drwy driniaeth annisgwyl.
Does gen i ddim awydd o gwbl dychwelyd i’r ysbyty! Ond rydw i wedi clywed y bydd system ddigidol yn cymryd lle siartiau meddyginiaethau cyn bo hir. Felly mewn ychydig flynyddoedd, bydd arhosiad yn yr ysbyty hyd yn oed yn nes at fod yn brofiad cwbl ddi-bapur!
Rwy’n gwybod nawr o brofiad bod IGDC yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Lle’r oedd yn rhaid i gleifion gofio ac ailadrodd eu hanes meddygol a’u meddyginiaethau droeon yn y gorffennol, mae arhosiad yn yr ysbyty nawr yn brofiad llai straenus i gleifion a’r rhai sy’n gofalu amdanynt. Felly diolch yn fawr a da iawn IGDC!