Yn ei gyrfa hyd yma, mae Fran Beadle wedi dringo’r rhengoedd nid unwaith ond ddwywaith.
Mae Fran bellach yn Brif Swyddog Gwybodaeth Nyrsio gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC), ar ôl gadael yr ysgol gyda chymwysterau ffurfiol cyfyngedig ac ymuno â’r Fyddin fel cynorthwyydd gofal iechyd yn 18 oed.
Mae hi’n nyrs gofrestredig sydd ag MSc mewn Gwybodeg Iechyd ac mae hi’n cynghori ar safoni dogfennaeth nyrsio er mwyn sicrhau cysondeb a chywirdeb. Mae Fran hefyd yn cynghori ar ddatblygu a gweithredu systemau electronig clinigol ac ar bolisïau a chanllawiau ar lefelau lleol a chenedlaethol. Mae hi’n arwain rolau gwybodeg glinigol i wella gofal cleifion a llifoedd gwaith clinigol.
Mae IGDC yn gorff cyflawni cenedlaethol arbenigol o fewn teulu GIG Cymru, sy’n darparu’r arweinyddiaeth, sgiliau digidol, seilwaith a gwasanaethau gweithredol i drawsnewid iechyd a gofal. Mae IGDC yn rhan o deulu GIG Cymru ac mae ganddo rôl bwysig wrth newid y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd a gofal trwy dechnoleg a data.
Mae arbenigedd Fran ar wybodaeth nyrsio a sgiliau technegol wedi helpu i alluogi gwelliannau trawsnewid digidol i gleifion a chlinigwyr ledled Cymru.
“Doedd gen i mo’r cymwysterau i fod yn nyrs bryd hynny, felly ymunais â’r Fyddin fel gweithiwr cymorth gofal iechyd. Dyna wnaeth fi’r person ydw i heddiw,” meddai.
Roedd hi yn ei thridegau cynnar cyn iddi ddechrau ei gyrfa ddelfrydol ym myd nyrsio.
“Roeddwn i wastad eisiau bod yn nyrs. Pan adewais y Fyddin penderfynais ei fod yn gyfle gwych i mi gael addysg.”
Mae llwybr gyrfa ysbrydoledig Fran yn profi nad yw hi byth yn rhy hwyr i anelu at eich nodau - ond mae hi’n cyfaddef iddi syrthio i’w gyrfa gofal iechyd digidol yn ddamweiniol.
Ar ôl cymhwyso fel nyrs gofrestredig o Brifysgol Caerdydd yn 2000, treuliodd Fran y tair blynedd nesaf yn gweithio yn Ysbyty Athrofaol Llandochau ac Ysbyty Athrofaol Cymru.
Daeth ei rôl ddigidol gyntaf yn fuan wedyn – yn yr Emiradau Arabaidd Unedig.
Wedi symud o UHW i UAE yn 2003, cynrychiolodd Fran y maes nyrsio wrth gyflwyno cofnod cleifion electronig yn Ysbyty Tawam. A buan iawn y sylweddolodd bod ganddi angerdd am ofal iechyd digidol.
“Roedd wastad gen i ddiddordeb mewn dogfennaeth a chydymffurfiaeth dogfennaeth,” esboniodd Fran.
“Erbyn i mi adael, roedd dogfennaeth safonol wedi’i datblygu ar gyfer 7,000 o ddefnyddwyr nyrsio.”
Roedd hi wedi dod o hyd i’w maes arbenigol. Gyda hiraeth yn ei galw yn ôl, trodd Fran ei sylw at ddefnyddio ei sgiliau i gael effaith yn nes at adref.
“Cefais fy ngeni yn Lloegr ond symudais i Gymru pan oeddwn yn 16 ac mae fy nheulu i gyd yma.”
Dyna pryd y gwelodd Fran gyfle am swydd yn NWIS, y sefydliad a ragflaenodd IGDC.
Yn 2017, Fran oedd yr unig Wybodegydd Nyrsio Clinigol yng Nghymru. Mae effaith y rôl i’w gweld yn glir gyda thua 84 o wybodegwyr clinigol wedi’u cyflwyno ar draws ystod o ddisgyblaethau ym maes nyrsio a bydwreigiaeth, yn ogystal â thîm o 10 gwybodegydd clinigol yn IGDC sy’n gweithio’n agos gyda byrddau iechyd ledled Cymru.
Mae gwybodegwyr clinigol yn pontio’r bwlch rhwng clinigwyr ac arbenigwyr technegol i greu cyd-ddealltwriaeth ar gyfer datblygu cynhyrchion, data a gwasanaethau digidol. Mae’n ofynnol iddyn nhw i gyd gofrestru gyda chorff proffesiynol er mwyn gallu ymarfer.
Mae Fran yn esbonio: “Mae’n rôl ddeuol. Mae’n rhaid i mi ail-ddilysu fel gweithiwr nyrsio proffesiynol bob tair blynedd felly mae’n rhaid i mi gadw i fyny â’r datblygiadau clinigol diweddaraf.
“Mae fel pontio dau fyd, ond dod â nhw at ei gilydd ar yr un pryd.
“Ledled y byd, mae TG wedi cael ei ‘wneud i’ bobl yn hanesyddol, ond nid felly y mae hi bellach mewn gwirionedd.
“Mae IGDC yn datblygu datrysiadau ar gyfer ein staff clinigol a fy rôl i yw sicrhau bod y wybodaeth gywir yn cael ei darparu ar yr adeg gywir yn y ffordd hawsaf bosibl.”
Mae gwaith Fran yn IGDC wedi bod yn allweddol wrth gyflwyno a datblygu safonau data a gwybodaeth cenedlaethol ar gyfer nyrsio a bydwreigiaeth, yn ogystal â gwreiddio gwaith gwybodegwyr clinigol mewn byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ledled Cymru.
Ymhlith y systemau a’r gwasanaethau y mae Fran wedi chwarae rhan ganolog ynddynt mae system nyrsio ddigidol GIG Cymru - Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR).
Mae WNCR yn system ddigidol a ddyluniwyd ac a adeiladwyd gan IGDC, mewn cydweithrediad â phob un o’r saith bwrdd iechyd ledled Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Mae’n galluogi nyrsys i gwblhau asesiadau wrth erchwyn gwely claf ar dabled symudol, neu ddyfais llaw arall, gan arbed amser, gwella cywirdeb a lleihau dyblygu.
Mae WNCR wedi casglu mwy na 18.9 miliwn o nodiadau nyrsio cleifion mewnol ledled Cymru. Fe’i defnyddir bellach mewn 331 o wardiau ar draws 57 o safleoedd ysbyty, ac mae’r nifer hwnnw’n cynyddu wrth i’r broses gyflwyno barhau. Ers lansio’r WNCR gyntaf, mae mwy na 393,000 o gleifion mewnol wedi cael eu hasesu’n ddigidol.
Mae Fran yn defnyddio’r sgiliau a ddysgodd yn ei gyrfa gyda’r Fyddin i yrru newid cadarnhaol yn ei flaen ac mae hi’n frwd dros helpu i rymuso cydweithwyr a’u helpu i ddod o hyd i’w llais.
“Ar ôl bod trwy’r daith gyrfa honno lle nad ydw i bob amser wedi cael fy nghynnwys, rwy’n ceisio dod â hynny i mewn i fy rôl.
“Mae gan bawb rywbeth i’w gynnig. Mae arweinyddiaeth ystyriol yn fater o gydnabod hynny.
“Mae’n fater o ofyn ‘sut alla i'ch helpu chi i helpu eich hun’?
Mae Fran yn esbonio sut mae hi wedi aros yn wydn trwy gydol ei gyrfa fel menyw sy’n gweithio ym maes gofal iechyd digidol, a’r cyngor y byddai hi’n ei gynnig i unrhyw un sy’n wynebu heriau tebyg.
Dywedodd: “Mae’n ymwneud â chwalu rhwystrau, ond hefyd bod â’r dewrder i sefyll dros beth rydych chi’n credu ynddo.
“A dyw hynny ddim yn golygu bod angen i chi fod yn ymosodol ynglŷn â sut i wneud hynny. Mae’n ymwneud â sut rydych chi’n curo ar y drysau hynny.
“Ewch at eraill am gyngor. Mae yna bob amser rhywun sydd wedi bod yno o’r blaen.
“I mi fel arweinydd, mae’n fater o fentora a grymuso eraill i fod yn ddigon dewr i gael y sgyrsiau hynny.
“Byddwch yn driw i chi’ch hun bob amser ond byddwch yn onest ar yr un pryd. Os ydych chi’n mynd i’r afael â phroblemau fel hyn rwy’n credu y gallwch chi lwyddo yn unrhyw beth rydych chi’n ei wneud.”
Ar ôl profi syndrom ffugiwr yn y gorffennol, llwyddodd Fran i oresgyn unrhyw elfen o amheuaeth wrth iddi setlo i’w rôl a chaniatáu iddi hi ei hun sylweddoli pa mor bell yr oedd hi wedi dod a’r effaith gadarnhaol yr oedd ei gwaith yn ei chael.
Dywedodd Fran: “Dechreuais fy ngyrfa yn y GIG mewn swydd lefel mynediad ac ers hynny rydw i wedi codi i’r lefel uchaf ar gyfer fy rôl benodol.”
Er bod gan hunangred ran bwysig i’w chwarae, mae Fran yn dweud bod cael adborth adeiladol yn ddefnyddiol i unrhyw un sydd am symud ymlaen yn eu gyrfa.
“Cofiwch nad yw byth yn bersonol. Mae bob amser yn pwyntio tuag at fedru cyflawni pethau mwy.”
Mae ymrwymiad Fran i ddysgu parhaus wedi arwain at gael ei derbyn yn ddiweddar ar y Rhaglen Arweinyddiaeth Glinigol Uwch. Mae’r rhaglen, sy’n cael ei rhedeg gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), yn anelu at greu carfan o arweinwyr sydd â’r gwerthoedd, ymddygiad, gwybodaeth, sgiliau a hyder i feithrin diwylliant o arweinyddiaeth ystyriol a chynhwysol.