Fy enw i yw Laurice Keogh, rwy’n 21 oed ac yn dod o Abertawe. Rydw i’n mynd i sôn am fy nhaith i ddod yn Ddadansoddwr Data yn IGDC, gan archwilio pwysigrwydd llwybrau addysg amgen yng Nghymru, a sut mae hunanddatblygu yn hanfodol i lwyddiant.
Hoffwn ddechrau drwy fynd nôl i pan oeddwn yn saith mlwydd oed. Dyma pryd y dechreuodd fy nghariad at dechnoleg. Fy athro dosbarth oedd fy athro TG hefyd. Fe wnaeth ein cyflwyno ni i gemau ar-lein, dangos i ni sut i greu posteri, a’n helpu i ddarganfod celf mewn ffyrdd na allwn i fod wedi dychmygu. O’r pwynt hwnnw, daeth defnyddio technoleg yn obsesiwn. Byddwn yn rhuthro adref ac yn agor gliniadur y teulu, nid yn unig i wneud gwaith ysgol ond hefyd ar gyfer prosiectau creadigol, chwarae gemau ac arbrofi gyda phethau newydd. Roedd gen i gwningen anwes ar y pryd felly byddwn yn defnyddio PowerPoint i wneud collages cwningod.
Pan ddechreuais yn yr ysgol gyfun, fe ddechreuais i ystyried gyrfa ym maes TG neu ryw waith swyddfa a allai fod yn ffit dda. Fe wnes i astudio TG ar gyfer TGAU a Lefel A ond fel llawer o ddisgyblion eraill, roeddwn i wastad yn gwybod nad oeddwn i’n mynd i ddilyn y llwybr prifysgol traddodiadol wedyn, a doeddwn i ddim yn gwybod sut i ddechrau ym myd technoleg.
Y cam cyntaf i gael fy nhroed yn y drws a chael profi’r maes oedd trwy leoliad profiad gwaith gyda’r Gofrestrfa Tir. Fe wnes i wir fwynhau gweithio yn y swyddfa yno ac roeddwn i’n meddwl y gallwn i weld fy hun yn ceisio am swyddi yn y gwasanaeth sifil ar ôl gorffen fy addysg.
Ond yn fuan ar ôl i mi orffen fy lleoliad, dywedodd ffrind i’r teulu sy’n gweithio yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru wrtha i am y prentisiaethau sydd ar gael. Doeddwn i ddim yn gwybod bod prentisiaethau ar gael yn y sector TG. Roeddwn i wastad wedi meddwl mai ar gyfer pobl sy’n dechrau yn y crefftau adeiladu oedden nhw’n bennaf. Roedd y syniad o astudio rhan amser yn y brifysgol a gweithio ar yr un pryd yn ddeniadol iawn ac roeddwn i wedi rhoi fy mryd ar y swydd ddelfrydol hon ar ôl gorffen fy Lefel A.
Doedd dim prentisiaethau ar gael yn IGDC pan wnes i orffen fy Lefel A felly dewisais interniaeth haf deufis yn gweinyddu gan obeithio y byddai’n brofiad swyddfa da.
A dim ond un mis i mewn i’r rôl honno, clywais am brentisiaeth Gwasanaethau Gwybodaeth ac roedd yn rhaid i mi wneud cais! Gan weithio’n agos gyda thîm Cyflogadwyedd Coleg Gŵyr i sicrhau bod fy CV yn berffaith, fe wnes i ffug gyfweliadau i baratoi yn y ffordd orau. Fe wnes i hyd yn oed ddod â hen daflen racs ges i gan ffrind fy mam am brentisiaethau IGDC. Ond roeddwn i wedi ei chael hi cyhyd fel bod y wybodaeth i gyd am ‘NWIS’, neu Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, sef enw blaenorol y cwmni!
Aeth y cyfweliad yn dda iawn i fod yn onest. Roedd hi’n amlwg i’r panel cyfweld pa mor awyddus oeddwn i ac fe wnaethon nhw hyd yn oed ofyn ‘Beth ydych chi’n mynd i’w wneud os na chewch chi’r swydd hon?’ Fe atebais i ‘I ddweud y gwir, mi fydda i’n aros i’r swydd hon ddod i fyny eto oherwydd rwy’n gwybod mai dyma beth rydw i fod i fod yn ei wneud.’ Yn ffodus iawn, doedd dim angen i mi aros am swydd arall oherwydd fe ges i’r swydd!
Newidiodd y cyfle hwn fy mywyd. Dechreuais weithio ym mis Hydref 2021 ac fe ddechreuais i yn y brifysgol ym mis Ionawr 2022, ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae’r cyfle i ddysgu gwybodaeth ddamcaniaethol yn y brifysgol a gwneud defnydd ymarferol ohoni yn y gwaith, ac ennill arian ac osgoi mynd i ddyled myfyrwyr yn wirioneddol anhygoel.
Pan ymunais i, doedd gen i ddim sgiliau rhaglennu na delweddu. Oedd, roedd gen i wybodaeth dda am raglenni Microsoft ar ôl cymryd TGCh, ond doedd gen i mo’r sgiliau technegol. Roedd dysgu yn y brifysgol a dysgu yn y gwaith yn help mawr i ddatblygu fy ngyrfa’n gyflym. Mewn dim ond ychydig fisoedd, dyfarnwyd gwobr ‘Prentis y Flwyddyn’ IGDC i mi am fy agwedd at ddysgu a fy ngwaith ar wella ein gwefan. O fewn 2 flynedd llwyddais i gael swydd Dadansoddwr Data Band 5. Cymerodd hyn 3 chynnig i mi, a wnaeth i mi ddigalonni ychydig. Ond wedi meddwl, rydw i’n falch iawn ohonof fy hun oherwydd llwyddais i gael y swydd hon cyn bod hyd yn oed hanner ffordd trwy fy astudiaethau, a hynny yn erbyn pobl a oedd eisoes â gradd, gradd meistr a hyd yn oed PhD. Roedd hyn yn gyflawniad anhygoel i mi.
Rydw i’n falch iawn o’r cynnydd rydw i wedi’i wneud yn bersonol a hefyd o’r cyfraniad at wella gofal iechyd yng Nghymru rydw i wedi’i wneud mewn ychydig llai na phedair blynedd gydag IGDC. Mae’r rôl Dadansoddwr Data mor bwysig i Gymru gan fod IGDC yn chwarae rhan allweddol wrth drawsnewid gwasanaethau a chanlyniadau gofal iechyd. Drwy weithio gyda data, rydyn ni’n galluogi gwell penderfyniadau, prosesau mwy effeithlon, ac yn y pen draw yn gwella bywydau’r bobl sy’n dibynnu ar y GIG. Fel Dadansoddwr Data, rwy’n gyfrifol am ddefnyddio data i wneud gofal iechyd yn fwy effeithlon a hygyrch, lleihau costau, gwella gofal cleifion, a chyfrannu at ddyfodol gofal iechyd yng Nghymru. Mae’r meysydd rydw i wedi gweithio arnynt yn cynnwys: edrych ar amseroedd aros ysbytai, sut mae cleifion yn ymateb i feddyginiaeth ffeibrosis systig ac edrych ar ba mor hir ar gyfartaledd y mae cleifion â diagnosis gwahanol yn aros yn yr ysbyty, a all ragweld amserlen ar gyfer cleifion yn y dyfodol.
Daeth un o fy nghyflawniadau mwyaf tra roeddwn i’n dal yn brentis. Roeddwn i’n rhan o’r gwaith o sicrhau bod y data Lymffoedema rydyn ni’n ei storio yn cael ei lanhau a’i baratoi, a’i fod yn barod i’w ddadansoddi. Roedd hon yn dasg fawr mewn gwirionedd oherwydd byddai’r byrddau iechyd yn anfon eu data yn Microsoft Excel ac hynny’n aml o dan benawdau ychydig yn wahanol i beth oedd ein cronfa ddata yn ei ganiatáu. Roedd hyn yn golygu bod yn rhaid newid eu penawdau â llaw, a’r rhan fwyaf o’r amser roedd yn fater o ddod o hyd i ble roedd y bylchau ychwanegol yn cael eu rhoi. Wedi gwneud hynny, gallai’r data lifo i’n cronfa ddata ni. Aethpwyd â’r darn hwn o waith i Glasgow a Boston, America. Roedd hwn yn ddarn pwysig o waith i fod yn rhan ohono oherwydd roedd yn ymwneud â mesurau canlyniadau a adroddwyd gan gleifion, gan olygu y gofynnwyd i bobl sy’n derbyn triniaeth lymffoedema roi sgôr o ran eu hiechyd corfforol, iechyd meddwl a phroblemau a wynebwyd. Ac fe roddodd fewnwelediad da i’r effeithiau a welwyd o’r driniaeth ac ym mha feysydd yr oedd bywydau pobl yn gwella, ac ar ba gam.
Rwy’n meddwl bod lledaenu’r gair am opsiynau prentisiaethau mor bwysig. Yn bersonol, rydw i wedi gweld diffyg gwybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael a diffyg hysbysebu swyddi. Dim ond tri o bobl ledled Cymru wnaeth gais am yr un brentisiaeth ag y gwnes i pan gododd y cyfle eto ddwy flynedd yn ddiweddarach. Alla i ddim deall hyn - mae’n gyfle mor wych.
Rwy’n teimlo’n angerddol iawn dros helpu i ledaenu’r neges drwy fynd i ysgolion cyfun, colegau a phrifysgolion i siarad am brentisiaethau, ac i helpu i godi proffil IGDC ymhlith pobl ifanc.