I ddathlu 75 mlynedd ers sefydlu’r GIG, byddwn yn rhannu straeon gan amrywiaeth o weithwyr a phroffesiynau ar draws Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW). Heddiw, rydym yn clywed gan Andrew Morgans, sy’n Hwylusydd Newid Busnes.
Rwyf bob amser yn gweld rhedeg yn ffafriol i feddwl, ac wrth redeg y Parkrun i ddathlu pen-blwydd y GIG yn 75 oed o amgylch Llynnoedd Cosmeston, ger Penarth, roedd y GIG ar fy meddwl. Roedd cymaint o redwyr yn gwisgo glas ar gyfer y GIG, gan gynnwys cydweithiwr i mi, Dr Victoria Wheatley, oedd yn gwisgo sgrybs llawn. Pan soniwyd am y GIG yn y sesiwn friffio cyn i ni ddechrau rhedeg, roedd yna gymeradwyaeth a bloeddi mawr. Wrth imi redeg, aeth fy meddwl yn ôl at yr holl ddathliadau a oedd yn nodi’r garreg filltir bwysig hon i’n sefydliad.
Roedd pen-blwydd y GIG yn 75 oed yn cyd-daro â’r graddio o’r Rhaglen Llysgenhadon Newid (CAP). Graddiais o’r rhaglen – mae’n gwrs achrededig wedi’i roi at ei gilydd yn wych sy’n archwilio theori a dulliau newid, gan eu gosod yng nghyd-destun y GIG. Rwy’n argymell y cwrs hwn i holl gydweithwyr y GIG – gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y CAP yma.
Y diwrnod cyn hynny, cynhaliwyd y gwasanaeth diolchgarwch aml-ffydd yn Eglwys yr Atgyfodiad Trelái a’i ffrydio’n fyw ar-lein. Roedd y gwasanaeth yn gyfle i oedi a myfyrio ar y GIG – ei wreiddiau, ei staff, a’i ddyfodol. Gwnaeth un elfen benodol fy nharo go iawn. Defnyddiodd cynrychiolwyr o lawer o grefyddau’r byd yr ymadrodd: “Rydym yn ymrwymo ein hunain i’r gwaith sydd i ddod.” Mae llawer o waith i ddod, ond yn gyntaf rwy'n teimlo ei bod yn ddefnyddiol edrych yn ôl.
Gellir dadlau mai’r egwyddor o ofal iechyd am ddim wrth y pwynt mynediad yw allforyn mwyaf Cymru. Aneurin Bevan, y Gweinidog Iechyd ar y pryd, a feddyliodd am y syniad uchelgeisiol o greu Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Yn ganolbwynt i’r setliad ar ôl y rhyfel a chreu’r wladwriaeth les, cafodd Bevan ei ysbrydoli gan ei dref enedigol, Tredegar. Roedd y gymuned lofaol hon wedi cronni adnoddau mewn ysbryd o gyd-gymorth, gan greu gofal iechyd hygyrch a rhad ac am ddim er budd y gymuned gyfan. Roedd Nye Bevan wedi dweud ei fod eisiau “Tredegareiddio” y DU, ac ym mis Gorffennaf 1948, cyflawnodd hynny.
Mae’r GIG wedi bod yn rhan o fy mywyd erioed. Cefais fy ngeni mewn ysbyty GIG. Achubodd y GIG fy mywyd pan, yn 18 mis oed, cefais gonfylsiwn a fy anfon i’r ysbyty. Pan gafodd fy mab ei eni, roedd y gofal brys, y tosturi a’r proffesiynoldeb a ddarparwyd i sicrhau bod fy ngwraig a’m mab yn ddiogel yn syfrdanol. Pan oedd un o fy rhieni yn ddifrifol wael ac wedi bod mewn uned gofal dwys am 12 wythnos, roedd yr arbenigedd a’r tosturi a welais yno, mewn sefyllfa mor anodd, yn eithriadol, a dweud y lleiaf. Mae gennyf gymaint o ddiolchgarwch i’r sefydliad hwn a’i staff.
Nawr rwy’n gweithio i’r GIG yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) ac wedi gwneud hynny ers ychydig dros flwyddyn. Fe allech chi ddweud fy mod yn “ymrwymo fy hun i'r gwaith sydd i ddod.” Yn wir, mae fy rôl fel Hwylusydd Newid Busnes o fewn y Tîm Newid Busnes yn ymwneud â’r gwaith sydd i ddod – rwy’n cefnogi staff y GIG i fabwysiadu systemau clinigol. Yn benodol, rwy’n gweithio o fewn y prosiect Datrysiad Gwybodeg Canser (CIS) a fydd yn disodli System Gwybodaeth Rhwydweithiau Canser Cymru (Canisc).
Ym mis Tachwedd y llynedd, cefais y fraint o gefnogi’r staff yng Nghanolfan Ganser Felindre wrth iddynt wneud y cam dewr i symud o’r system Canisc a dechrau defnyddio swyddogaeth CIS newydd Porth Clinigol Cymru (WCP). Yno, cerddais wardiau a swyddfeydd yr ysbyty a chynorthwyo staff i ddefnyddio'r nodweddion newydd hyn. Roeddwn i'n helpu'r bobl sy'n helpu pobl. Elwais lawer o hyn ac roeddwn yn teimlo’n wirioneddol wylaidd.
Wrth ystyried dyfodol y GIG, mae'n amlwg bod technoleg ddigidol yn mynd i chwarae rhan arwyddocaol.
Nid oedd technoleg ddigidol yn gyffredin ym 1948, ond heddiw mae wedi'i hintegreiddio i waith bob dydd. Mae gan DHCW rôl hanfodol i'w chwarae o ran cefnogi technoleg ddigidol yn GIG Cymru.
Mewn 25 mlynedd, bydd y GIG yn 100 oed. Sut olwg fydd arno felly? I ba raddau y bydd technoleg ddigidol yn effeithio ar ofal iechyd yng Nghymru? Ac yn bwysig – a wnaethom lwyddo i ymrwymo ein hunain i’r gwaith oedd i ddod? Amser a ddengys.