Neidio i'r prif gynnwy

GIG75 Tina Hopkins yn rhannu ei stori

I ddathlu 75 mlynedd ers sefydlu'r GIG, byddwn yn rhannu straeon gan ystod amrywiol o weithwyr a phroffesiynau ar draws Iechyd Gofal Digidol Cymru Cymru. Heddiw cawn glywed gan Tina Hopkins, Dadansoddwr Profi Meddalwedd.


Dywedwch ychydig wrthym am rôl eich swydd
Fel dadansoddwr profi meddalwedd, rwy'n cynnal profion system ar swyddogaethau newydd a newidiadau mewn systemau TG a gwybodaeth. 

Rwy’n gweithio ar System Gweinyddu Cleifion Cymru (WPAS) a ddefnyddir mewn ysbytai ar draws Byrddau Iechyd Cymru. Mae'r rôl yn cynnwys dadansoddi gofynion newidiadau, nodi'r meysydd a allai gael eu heffeithio ganddynt ac yna ysgrifennu a gweithredu sgriptiau prawf i sicrhau bod unrhyw newidiadau sy’n cael eu cyflwyno i'r system yn bodloni gofynion y defnyddwyr a ddim yn cael unrhyw effaith andwyol ar weithrediad presennol y system. 

Rydym hefyd yn ymwneud â phrofi mudo data yn WPAS.  Yn ddiweddar bûm ynghlwm â phrofi mudo data Canolfan Ganser Felindre o system maen nhw'n ei defnyddio o'r enw Canisc i system WPAS. Fel tîm datblygu rydym yn defnyddio Agile sy'n cynnwys cyfarfodydd dyddiol ac wythnosol i drafod ac adolygu cynnydd y newidiadau. Mae’n galluogi cydweithio agos ar draws y tîm ac mae’n ein galluogi i fod yn hyblyg wrth addasu i anghenion y Byrddau Iechyd.


Beth ydych chi'n ei fwynhau am eich rôl?
Rwy'n hoffi ymchwilio i broblemau a’u datrys, felly rwy'n mwynhau edrych ar newidiadau a sut maen nhw'n rhyngweithio â’r system i nodi'r holl senarios y bydd angen eu cynnwys yn ein profion. Mae angen i chi fod yn greadigol wrth feddwl am senarios profi felly mae cael dychymyg byw yn helpu. Rwyf hefyd yn mwynhau ymchwilio i unrhyw broblemau a ganfyddwn yn y system i geisio dod o hyd i wraidd y broblem, er mwyn darparu cymaint o fanylion â phosibl i'r datblygwyr i'w cynorthwyo i'w datrys.

Mae ein tîm yn gweithio’n agos iawn gydag aelodau eraill o'r tîm datblygu a thîm ehangach WPAS.  Mae hefyd yn dda gallu rhyngweithio â defnyddwyr terfynol yn y Byrddau Iechyd yn ystod cyfnodau Profion Derbynioldeb Defnyddwyr a phrofi Mudo Data. Er gwaethaf dechrau'r rôl hon yn ystod y pandemig a mod i heb allu cwrdd â'm cydweithwyr profi wyneb yn wyneb am dros flwyddyn, mae gennym dîm clos sy'n gweithio'n dda iawn gyda'i gilydd ac yn cefnogi ei gilydd.


Sut wnaethoch chi ymuno â'ch proffesiwn?
Ar ôl astudio pwnc cwbl amherthnasol sef Archwilio Mwynau yn y coleg, cymerais swydd yn y sector bancio ac aros yno yn y diwedd am lawer hirach nag yr oeddwn yn disgwyl! Dechreuais ymddiddori yn ochr TG y banc ac astudiais gwrs HNC yn rhan-amser mewn dosbarthiadau nos. Galluogodd hyn i mi symud i rôl brofi yn isadran cardiau credyd y banc, ac yn ystod y cyfnod hwn bues i hefyd yn ymgymryd â rolau cymorth data a chymorth cymwysiadau a gynyddodd fy mhrofiad profi a’m gwybodaeth am fusnes.

Yn ystod fy 19 mlynedd ym maes profi rwyf wedi gweithio mewn nifer o gwmnïau ac mae hyn wedi galluogi i mi brofi amrywiaeth o gynhyrchion gan gynnwys caledwedd, sydd wedi datblygu fy sgiliau profi.


Pa mor hir ydych chi wedi bod yn rhan o'r GIG?
2.5 mlynedd


Beth mae'r GIG yn ei olygu i chi?
Rwyf wedi dibynnu ar arbenigedd a thosturi staff y GIG lawer gwaith dros y blynyddoedd diwethaf ac rwyf  wedi cael llawer iawn o barch bob amser tuag at staff rheng flaen, a gynyddodd hyd yn oed ymhellach yn ystod y pandemig.

Roeddwn yn awyddus iawn felly i weithio i'r GIG lle gallwn gyfrannu at gynhyrchion a fyddai'n gwneud  gwahaniaeth i bobl ac yn darparu gwasanaeth gwerthfawr. Rwy'n falch o ddweud fy mod yn gweithio i'r GIG ac rwy’n gwneud  popeth y gallaf yn fy rôl i helpu i'w wella a gwneud profiad y claf y gorau y gall fod.