Neidio i'r prif gynnwy

GIG75 - Sai Kalluri yn rhannu ei stori

I ddathlu 75 mlynedd ers sefydlu’r GIG, byddwn yn rhannu straeon gan amrywiaeth o weithwyr a phroffesiynau ar draws Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW).  

Heddiw, rydym yn clywed gan Sai Kalluri, Swyddog Datblygu Meddalwedd.

Allwch chi ddweud ychydig wrthym am rôl eich swydd?

Prif gyfrifoldeb fy rôl yw Ceidwad y porth rhwng Gofal Sylfaenol ac Eilaidd. Mae ein tîm Gwasanaethau Porth Gofal Sylfaenol yn gyfrifol am weithredu rhai o’r gwasanaethau sydd wedi rhedeg am y cyfnod hiraf yn DHCW, gan gynnwys:

  • Porth Cyfathrebu Clinigol Cymru (WCCG)
  • Ceisiadau am Brofion gan Feddygon Teulu (GPTR)
  • GP Links
  • Cofnod Meddyg Teulu Cymru (WGPR)

Beth ydych chi'n ei fwynhau am eich rôl?

Fel Swyddog Datblygu Meddalwedd, rydw i'n dysgu ac yn datblygu pethau'n barhaus sy'n fy ysgogi a'm cyffroi i ymgymryd â heriau newydd a chyflawni cerrig milltir ar lefel hyd yn oed yn uwch. Nid swydd yn unig yw bod yn Swyddog Datblygu Meddalwedd (SDO), mae’n daith werth chweil a boddhaus sy’n fy ngalluogi i gyfrannu at fy sgiliau a chreadigedd i adeiladu dyfodol digidol gwell.

Ers pryd ydych chi wedi bod yn rhan o'r GIG?

Ers Ionawr 2023 (7 mis)

Sut wnaethoch chi ymuno â'ch proffesiwn?

Cwblheais fy ngradd yn y ffrwd Gwyddor Data a Dadansoddeg (MSc) o Brifysgol Caerdydd. Gall cael swydd yn y DU fel myfyriwr rhyngwladol fod yn dasg heriol oherwydd amrywiol ffactorau, gan gynnwys cyfyngiadau Visa, cystadleuaeth, a chyflogwyr yn ffafrio ymgeiswyr lleol. 

Ar ôl graddio o'r Brifysgol, rhoddodd y GIG gyfle i mi fel SDO gan greu llwybr gyrfa i mi. Cyn hynny bûm yn gweithio fel Peiriannydd Systemau gyda thua 4 blynedd o brofiad TG i un o’r cwmnïau rhyngwladol gorau “Tata Consultancy Services” yn India.  Ymunais ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru (GIG) fel glasfyfyriwr ac ar hyn o bryd rwy’n gweithio fel Swyddog Datblygu Meddalwedd ar gyfer Gwasanaethau Porth Gofal Sylfaenol.

Mae’r GIG yn sefydliad mawr sydd wedi’i hen sefydlu, sy’n darparu cyfleoedd cyflogaeth sefydlog a sicrwydd swydd. Mae gweithio i’r GIG yn wir yn rhywbeth i fod yn falch ohono, gan ei fod yn golygu gwasanaethu’r gymuned, cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl, a chyfrannu at les cyffredinol y gymdeithas. Rwy’n falch o fod yn aelod o’r sefydliad hwn, lle mae arloesi a thosturi yn dod ynghyd i drawsnewid bywydau a llunio dyfodol gwell.

Beth mae'r GIG yn ei olygu i chi?

Ymrwymiad ac ymroddiad yw'r ddwy nodwedd hanfodol sy'n dod i'm meddwl i ddiffinio'r GIG (Gwasanaeth Iechyd Gwladol) a'i weithlu. Mae cenhadaeth a gweledigaeth y GIG yn adlewyrchu ei werthoedd craidd, sy'n cynnwys canolbwyntio ar y claf, tosturi, rhagoriaeth, cydraddoldeb, a gweithio ar y cyd i ddarparu'r gofal gorau posibl i bob unigolyn yn y DU.

Mae ymrwymiad y GIG i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd cynhwysfawr i’r holl ddinasyddion, waeth beth fo'u cefndir economaidd-gymdeithasol, wrth wraidd ei genhadaeth. Mae ei weledigaeth yn anelu at welliant parhaus ac arloesedd i gwrdd ag anghenion gofal iechyd cyfnewidiol y boblogaeth.