Neidio i'r prif gynnwy

GIG75 - Paul Meredith yn rhannu ei stori

I ddathlu 75 mlynedd ers sefydlu'r GIG, byddwn yn rhannu straeon gan ystod amrywiol o weithwyr a phroffesiynau ar draws Iechyd Gofal Digidol Cymru Cymru. Heddiw cawn glywed gan Paul Meredith, Uwch Ddadansoddwr Busnes.

 

Dywedwch ychydig wrthym am rôl eich swydd

Rwy'n gweithio ar gefndir technegol y system TG sy'n cofnodi ac yn rheoli rhyngweithiadau a thriniaethau cleifion mewn amrywiaeth o leoliadau gofal o ysbytai i glinigau cymunedol. Enw’r system hon yw System Gweinyddu Cleifion Cymru (WPAS), a dyma'r glud sy'n dal yr holl systemau TG a gwybodaeth sy'n rhyngweithio ar draws ein hysbytai a lleoliadau gofal eraill ynghyd. Dyma'r system sy'n rheoli gwybodaeth am eich apwyntiadau, triniaethau a rhestrau aros.

Yn fy rôl rwy'n gweithio gyda thimau sy'n cynllunio'r datblygiad a'r newidiadau angenrheidiol i WPAS wrth i sefydliadau gofal iechyd newid ac esblygu. Rwy'n cynghori ar weithgareddau fel ffyrdd o weithio, newidiadau meddalwedd a ffurfweddu systemau.

 

Beth ydych chi'n ei fwynhau am eich rôl?

Yn ystod y 13 mlynedd diwethaf, rydw i wedi bod yn gweithio gyda WPAS 'ar lawr gwlad' mewn ysbytai yn gwneud rôl weithredol, a nawr rwy’n cael chwarae rhan yn y gwaith o lunio a dylanwadu ar ddylunio a darparu’r system wrth symud ymlaen.

Rwyf wedi gweld sut mae pethau'n gweithio ar yr ochr weithredol, nawr rwy'n cael cymhwyso fy ngwybodaeth a'm profiad i ddylunio a chynllunio system TG annatod ar gyfer GIG Cymru.

 

Sut wnaethoch chi ymuno â'ch proffesiwn?

 

Dechreuais yn y proffesiwn hwn mewn llyfrgell cofnodion iechyd 28 mlynedd yn ôl. Roedd popeth yn seiliedig ar bapur bryd hynny. Roedd gennym ni gyfrifiaduron, ond roedden nhw'n ychwanegiad diweddar, a dim ond ar gyfer llythyrau clinigol.

Roedd gennym hefyd System Gweinyddu Cleifion (PAS) sylfaenol iawn. Yn bennaf roeddem yn delio â llawer o bapur a system gofnodi ar ffurf cardiau mynegai.  Yn y dyddiau hynny roedd adrannau yn gweithio ar bapur, ac yn dibynnu ar y post mewnol ac allanol. Nid oedd unrhyw ffordd i systemau allanol gysylltu â’i gilydd.

Rwyf wedi gweld datblygiad PAS dros amser, mae’r system wedi yn cael ei datblygu a'i defnyddio o fewn gwahanol fyrddau iechyd, sydd wedi arwain at system PAS genedlaethol, felly mae bellach yn bosibl cael golwg gyffredinol o fewn yr holl fyrddau iechyd yng Nghymru.

Felly os yw claf yn cael triniaeth mewn un rhan o Gymru, gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn rhan wahanol o Gymru weld y manylion hynny'n hawdd, a rhoi’r gofal gorau posibl i'r claf. Mae datblygiadau fel hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ofal iechyd, ac rwy’n teimlo’n freintiedig i ddysgu, datblygu a rhannu fy ngwybodaeth a’m profiad yn y maes hwn, a helpu i wella gofal iechyd.

 

Pa mor hir ydych chi wedi bod yn rhan o'r GIG?

28 mlynedd

 

Beth mae'r GIG yn ei olygu i chi?

Mae'r GIG wedi rhoi cyflogaeth sefydlog i mi ac wedi rhoi'r modd i mi ddatblygu drwy weithio fel rhan o rwydwaith mwy. Rwyf wedi bod yn rhan o ddatblygiad TG a gwybodaeth o fewn gofal iechyd. Rwyf wedi gweld camau breision ymlaen, ac rwy'n mwynhau bod yn rhan o ddyfodol digidol mewn gofal iechyd.