Neidio i'r prif gynnwy

GIG75 - Laurence James yn rhannu ei stori

I ddathlu 75 mlynedd ers sefydlu’r GIG, byddwn yn rhannu straeon gan amrywiaeth o weithwyr a phroffesiynau ar draws Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW).  

Heddiw, rydym yn clywed gan Laurence James, yr Arweinydd Rhaglen sy'n gyfrifol am arwain y gwaith o reoli’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol (DMTP) 

 

Dywedwch ychydig wrthym am rôl eich swyd

Mae’r DMTP yn hynod gyffrous a bydd yn trawsnewid gwasanaethau’n ddigidol i wella gofal a phrofiad gofal iechyd gyda’r nod o wneud y gwaith o ragnodi, dosbarthu a rhoi meddyginiaethau yng Nghymru yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol drwy dechnolegau digidol. Mae'r DMTP yn dod â phedwar maes ynghyd. 

Yn nodweddiadol, mae fy rôl fel Arweinydd Rhaglen yn cynnwys cynllunio a rheoli datblygiad a chyflwyniad Rhaglenni a Phrosiectau DMTP gan sicrhau eu bod yn cyflawni ar amser, i'r ansawdd disgwyliedig ac o fewn y gyllideb. Mae hyn yn cynnwys cydweithio â Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau a llu o dimau a phroffesiynau ar draws DHCW yn amrywio o: 

  • ddatblygu a phrofi meddalwedd 
  • safonau gwybodaeth 
  • penseiri technegol 
  • rheoli gwasanaethau 
  • dilysu data 
  • cyfathrebu 
  • gweithwyr proffesiynol clinigol. 

 

Beth ydych chi'n ei fwynhau am eich rôl? 

Rwyf wrth fy modd â fy swydd! 

Mae'r swydd hon wedi rhoi'r cyfle i fi weithio ar draws amgylcheddau gofal iechyd lluosog o ddarparu atebion digidol newydd mewn ysbytai, practisiau meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol.  

Mae gweithio ar draws yr amgylcheddau hyn wedi rhoi gwybodaeth newydd i mi ac wedi fy arfogi â sgiliau a gwybodaeth newydd, rhywbeth yr wyf yn ei fwynhau ac sy'n bwysig i mi. Rwyf wedi gallu gweithio gyda phobl dalentog ac ysbrydoledig iawn, ac mae budd cleifion yn ganolog i bob un ohonynt. 

Rwyf hefyd wedi gweld yr effaith y mae trawsnewid digidol wedi’i chael ar ansawdd y gwasanaethau a ddarperir ac ansawdd y gofal a gaiff aelodau agos o’r teulu.  

Er enghraifft, mae fy nhad yn cael gofal ar draws sawl ysbyty yn ne Cymru, yn ymestyn ar draws ffiniau sefydliadol byrddau iechyd, ac mae’n cymryd llawer o feddyginiaethau. Ar ôl apwyntiad un diwrnod, fe wnaeth fy ffonio a dweud bod y clinigwyr yn gwybod popeth am hanes ei ofal - sef yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni: rhoi mynediad at gofnod claf cyfunol, ar y pwynt gofal, i ganiatáu i'n cydweithwyr gofal iechyd ddarparu’r gofal gorau posibl i gleifion ac aelodau ein teulu.

 

Sut wnaethoch chi ymuno â'ch proffesiwn? 

Ymunais â’r GIG, ym Mwrdd Iechyd addysgu Cwm Taf, yn 2007 fel swyddog prosiectau ar ôl graddio o’r brifysgol. Cyflwynodd y swydd hon fi i'r proffesiwn 'gwybodeg iechyd', ac nid wyf erioed wedi edrych yn ôl.  

Cefnogais y prosiect Cofnod Iechyd Unigol (IHR) gan weithio gyda Hysbysu Gofal Iechyd i ddarparu'r gallu i weld cofnod meddyg teulu cryno yn y gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau. Ychydig wedi hynny, daeth cyfle secondiad/cyfnod penodol ar gael fel swyddog prosiectau yn gweithio i’r rhaglen Porth Clinigol Cymru (WCP) a dyna le y dechreuodd fy nhaith gyda DHCW er mai gyda'i sefydliadau blaenorol y dechreuodd. 

Ymunais â thîm WCP pan oedd yn weledigaeth/cysyniad ar bapur ac roeddwn yn rhan o'r tîm prosiect a gefnogodd ei gynllun peilot cyntaf ar Ward Padarn yn Ysbyty Glangwili. Mae gweld lle'r oedd WCP bryd hynny a lle y mae heddiw yn fy rhoi teimlad o falchder aruthrol i mi. Yn aml, o ystyried natur gyflym ein gwaith, nid oes gennym bob amser y cyfle i fyfyrio ond rydym wedi cymryd camau breision ers i mi ymuno â thîm WCP gyntaf yn 2009. 

Yn ystod fy ngyrfa, cefais hefyd y cyfle i gwblhau Gradd MSc mewn Rheoli Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus yn 2013 a theitl fy nhraethawd hir oedd “Canfyddiadau’r Cyhoedd o Gofnodion Iechyd Electronig”. Roedd y traethawd yn asesu barn cleifion a darparwyr gofal iechyd a oedd yn hynod ddiddorol i mi a ysgogodd ddiddordeb gwirioneddol ynof.  

Heddiw, rwy’n dal i ddefnyddio canfyddiadau’r ymchwil hwn i lywio rhaglenni a phrosiectau rwy’n eu harwain. 

 

Ers pryd ydych chi wedi bod yn rhan o'r GIG? 

Ers 2007. Yn y cyfnod hwnnw, rwyf wedi cael profiad amhrisiadwy yn gweithio i Fwrdd Iechyd Addysgu Cwm Taf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Canolfan Ganser Felindre a Hysbysu Gofal Iechyd/Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru/Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae gweithio mewn amgylchedd ysbyty wedi fy ngalluogi i ddod â'r wybodaeth honno yn ôl i DHCW. 

Yn ystod y cyfnod hwn, rwyf wedi cyflawni trawsnewidiad digidol ar raddfa fawr o fewn GIG Cymru ar lefel genedlaethol a lleol ar draws amgylcheddau gofal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol.  

Rwyf wedi rheoli rhaglen y Cofnod Digidol Unigol y Claf, Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR), y Prosiect Adolygu Meddyginiaethau wrth Ryddhau Dewis Fferyllfa ac ail gam atgyfeiriadau electronig Meddygon Teulu. 

Mae rhai o’r cyflawniadau allweddol yr wyf fwyaf balch ohonynt yn cynnwys gweithio fel rhan o dîm sydd wedi galluogi darparwyr gofal iechyd i: 

  1. weld canlyniadau diagnostig cleifion a dogfennau gofal cleifion ar draws ffiniau sefydliadol yn y WCP ar y pwynt gofal 
  1. sicrhau bod canlyniadau profion geneteg canser ar gael i'w gweld yn y WCP i gefnogi rhagnodi mwy diogel  
  1. galluogi fersiwn wedi’i olygu o’r Llythyr Gwybodaeth Rhyddhau electronig (DAL) i fod ar gael yn y Cymhwysiad Dewis Fferyllfa i gefnogi adolygiadau o feddyginiaethau wrth ryddhau mewn fferyllfeydd cymunedol yn dilyn arhosiad claf yn yr ysbyty  
  1. cefnogi’r cymhwysiad Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) i fynd yn fyw ar gyfer asesiadau cleifion mewnol oedolion a’i gyflwyno wedyn. 

 

Beth mae'r GIG yn ei olygu i chi? 

Rwyf wedi gweithio yn y GIG ers 15 mlynedd ac rwy'n teimlo ei bod hi'n fraint wirioneddol gweithio i sefydliad byd-enwog (a sefydlwyd gan Gymro) sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.  

Mae'n rhoi llawer iawn o hunanwerth i mi i wybod y gall y trawsnewidiadau digidol yr ydym yn eu cyflawni gael effaith enfawr ar ansawdd y gofal y mae cleifion yn ei gael.

Mae gwerthoedd y GIG yn agos iawn at fy ngwerthoedd i. Yn ogystal â gofalu am aelodau fy nheulu, mae wedi rhoi cyfleoedd dysgu a datblygu i mi a rhoi’r sgiliau angenrheidiol i mi ddatblygu fy ngyrfa yn y GIG. 

Mae’r GIG yn sefydliad, un yr wyf yn falch o ddweud fy mod yn rhan ohono.