I ddathlu 75 mlynedd ers sefydlu'r GIG, byddwn yn rhannu straeon gan ystod amrywiol o weithwyr a phroffesiynau ar draws Iechyd Gofal Digidol Cymru Cymru. Heddiw cawn glywed gan Kay Wilkes, Rheolwr Prosiect.
Dywedwch ychydig wrthym am rôl eich swydd
Rwy’n arwain ac yn rheoli prosiectau o faint, cymhlethdod a risg sylweddol, gan sicrhau eu bod yn cael eu cwblhau o fewn y cwmpas, yn brydlon ac o fewn y gyllideb wrth fodloni disgwyliadau rhanddeiliaid.
Ar hyn o bryd rwy'n gweithio ar raglenni o amgylch system TG fawr sy'n cofnodi ac yn rheoli rhyngweithiadau cleifion a thriniaethau gydag ysbytai a lleoliadau gofal.
Gelwir y system yn System Gweinyddu Cleifion Cymru (WPAS), ac rydym wrthi’n integreiddio System Gweinyddu Cleifion (PAS) Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro i'r PAS cenedlaethol i greu un olwg, a fydd o fudd i gleifion a staff gofal iechyd ledled Cymru.
Beth ydych chi'n ei fwynhau am eich rôl?
Un o'r agweddau mwyaf boddhaus o weithio yn y GIG yw'r effaith gadarnhaol y mae fy rôl i a rôl fy nhîm yn ei chael ar ofal cleifion. Mae gweithio ar weithredu prosiectau sy'n gwella prosesau a thechnolegau o fewn GIG Cymru yn rhoi boddhad mawr.
Rwy'n mwynhau natur gydweithredol gweithio ar brosiect sy'n cynnwys unigolion o wahanol feysydd a chefndiroedd yn dod at ei gilydd i weithio tuag at nod cyffredin. Yn ogystal, mae gweithio ar amrywiaeth o brosiectau, pob un â'i amcanion, ei ofynion a'i heriau ei hun - yn helpu i gadw'r rôl yn gyffrous ac yn fy ngalluogi i ddatblygu fy sgiliau fel Rheolwr Prosiect.
Sut wnaethoch chi ymuno â'ch proffesiwn?
Ar ôl graddio o'r Brifysgol, fy rôl gyntaf oedd fel gweinyddwr yn Legal and General ac yn dilyn hynny nifer o gontractau cyfnod penodol yn gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd. Bryd hynny, roeddwn i'n eithaf swil, a wnes i erioed ddychmygu y byddwn i'n gallu arwain timau a rhoi cyflwyniadau'n hyderus.
Fodd bynnag, ni chymerodd lawer o amser i mi ddarganfod mai fy nghryfderau oedd trefnu, cynllunio a datrys problemau.
Cefais fy hun yn gwirfoddoli ar gyfer prosiectau ochr ac roeddwn wrth fy modd â'r heriau a gyflwynwyd ganddynt. Arweiniodd hyn at ddilyn cymwysterau rheoli prosiect i mi ddatblygu fy sgiliau.
Yn y diwedd, cefais fy nghyfle mawr fel rheolwr prosiect ym Mhrifysgol Caerdydd a threuliais chwe blynedd yn y swydd cyn symud i’r GIG yn 2019. Rydw i wedi bod yn rheolwr prosiect ers 10 mlynedd ac yn dal wrth fy modd! Mae ymuno â'r proffesiwn wedi bod yn daith hynod o foddhaus i mi.
Rhoddodd y profiadau a gefais ar hyd y ffordd nid yn unig yr hwb i fy hyder yr oedd ei angen arnaf, ond hefyd fe wnaeth fy mharatoi ar gyfer symud i’r GIG.
Ers pryd ydych chi wedi bod yn rhan o'r GIG?
Ers mis Ebrill 2019. Gweithiais ar y Rhaglen Ganser am ddwy flynedd a hanner ac yna symudais i System Gweinyddu Cleifion Cymru ym mis Hydref 2021.
Beth mae'r GIG yn ei olygu i chi?
Rwy’n ddiolchgar i fyw mewn gwlad lle mae gennym ofal iechyd am ddim, ac felly ni fyddaf byth yn cymryd hyn yn ganiataol. Rwy’n falch o weithio i sefydliad sydd â chymaint o bobl ysbrydoledig sy’n rhoi cleifion wrth wraidd popeth a wnânt. Amlygodd gwaith diflino’r GIG yn ystod y pandemig COVID-19 ymhellach i bawb pa mor anhygoel yw’r GIG.