Neidio i'r prif gynnwy

GIG75 - Alex Paes yn rhannu ei stori

I ddathlu 75 mlynedd ers sefydlu'r GIG, byddwn yn rhannu straeon gan ystod amrywiol o weithwyr a phroffesiynau ar draws Iechyd Gofal Digidol Cymru Cymru. Heddiw cawn glywed gan Alex Paes, Prif Ddatblygwr Meddalwedd.

Dywedwch ychydig wrthym am rôl eich swydd

Fi yw Prif Ddatblygwr Meddalwedd tîm Porth Clinigol Cymru (WCP) yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae WCP yn galluogi gweithwyr iechyd proffesiynol, ledled Cymru i gael mynediad at gofnodion digidol cleifion.

Fel Prif Ddatblygwr Meddalwedd, rwy'n cynnal ymarferoldeb a ffurfiau electronig y porth. Fy nghyfrifoldeb i hefyd yw rheoli’r tîm o ddatblygwyr gwych a gweithgar sy’n rhan o’r tîm a dod â’r gorau allan ohonynt wrth eu harwain i’r cyfeiriad cywir.

 

Beth ydych chi'n ei fwynhau am eich rôl?

 

Mae llawer o bethau rwy'n eu mwynhau am fy rôl. Yn gyntaf ac yn bennaf, y tîm o bobl rydw i'n gweithio gyda nhw. Mae bod yn ddatblygwr nid yn unig yn golygu gallu gweithio ar eich pen eich hun ond hefyd fel rhan o dîm. Felly, mae’n bwysig eich bod yn gallu gweithio gydag eraill, nid datblygwyr yn unig ond unrhyw un sy’n gyfrifol am unrhyw fewnbwn i’r prosiect p’un a ydynt yn rheolwr prosiect, yn brofwr neu’n ddadansoddwr cymorth.

Mae pawb rwy'n gweithio gyda nhw yn wybodus, yn hawdd mynd atynt ac yn gyfeillgar, mae gan bob un ei stori unigol ei hun i'w hadrodd.

Mae cael perthynas dda mewn tîm yn caniatáu i waith gael ei ddatblygu'n gyflym ac yn effeithlon ac yn caniatáu ichi ymlacio yn yr ystyr bod rhywun ar gael bob amser i siarad ag ef am unrhyw beth a'ch bod yn gwybod y byddant yn gwrando.

Gofynnwyd i mi unwaith “beth sy’n rhoi’r egni ichi godi a mynd i’r gwaith bob bore?” ac atebais “Mae fy nhîm yn gwneud i mi fod eisiau mynd i’r gwaith” - mewn byd sy'n llawn gwahanol farnau, mae'n rhyddhad gallu bod yn chi'ch hun a theimlo’n gyfforddus.

Peth arall rwy’n ei fwynhau am fy rôl yw pan fyddwn yn rhyddhau cynnyrch gorffenedig i fwrdd iechyd.

Nid yw datblygu neu gynnal cymhwysiad bob amser yn hawdd. Mae yna lawer o faglau a heriau annisgwyl a all ddigwydd unrhyw bryd o'r cychwyn cyntaf neu wrth nesáu at y diwedd, a gall pob un ohonynt arwain at adegau llawn straen.

Unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau o'r diwedd, mae cael cymeradwyaeth swyddogol gan y bwrdd iechyd, yn rhyddhad enfawr. Mae bod yn rhan o'r cynllunio, y gwaith datblygu dilynol ac yna'n olaf cynorthwyo'r tîm cymorth i ddefnyddio'r cymhwysiad yn fisoedd o waith caled.

Mae gweld yr hyn rydych chi wedi bod yn gweithio arno yn cael ei ddefnyddio gan y rhai sy'n ei werthfawrogi a gwybod y byddan nhw'n defnyddio'r cynnyrch rydych chi wedi'i ddatblygu i'w helpu i drin cleifion yn rhoi ymdeimlad mawr o falchder a chyflawniad i'r rôl hon.

 

Sut wnaethoch chi ymuno â'ch proffesiwn?

 

Diolch i fy nghariad at gemau fideo a ffilmiau ffuglen wyddonol, cefais fy hun yn mwynhau ac ymddiddori ym mhopeth yn ymwneud â TG yn yr ysgol a thu allan. Yn naturiol, arweiniodd hynny ataf fi’n dewis Cyfrifiadura fel un o fy mhynciau Safon Uwch.

Drwy gydol fy mlynyddoedd yn y Chweched Dosbarth, roeddwn yn cael trafferth â fy mhynciau Safon Uwch  eraill, ond nid Cyfrifiadura. Roedd cyfrifiadura, ac yn fwy penodol ochr codio pethau, yn teimlo'n naturiol i mi.

Roeddwn i'n ei ddeall, yn ei fwynhau ac er na ches i ganlyniadau gwych ar ddiwedd fy nghyfnod yn yr ysgol, roedd y radd derfynol a enillais mewn Cyfrifiadura yn ddigon i mi astudio HND mewn Cyfrifiadura ym Mhrifysgol De Cymru.

Roedd yn gyfnod brawychus a chyffrous i mi – roedd fy hyder yn isel ar ôl yr ysgol a’r syniad o symud o Lundain i Gaerdydd yn adnabod neb. Dyma ddechrau pennod newydd yn fy mywyd.

Roedd gallu canolbwyntio ar fodiwlau roedd gen i ddiddordeb ynddynt yn talu ar ei ganfed.  Ni chefais unrhyw drafferth yn y brifysgol ac yn fy mlwyddyn olaf roeddwn i'n edrych am swydd. Roedd ffair yrfaoedd y brifysgol yn lle naturiol i ddechrau. Roedd Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru fel y’i gelwid bryd hynny) yn y ffair yrfaoedd. 

Sylwais yn arbennig ar ba mor gyfeillgar a phroffesiynol oedd y staff recriwtio. Roeddynt yn cyfleu’r neges “rydyn ni eisiau chdi” yn hytrach na “dyma pwy ydyn ni, gwna gais os wyt ti eisiau” a oedd yn cael ei chyfleu gan gwmnïau eraill. Siaradais â'r staff a roddodd wybod i mi am y cynllun i raddedigion y maent yn ei redeg ar ddiwedd y gwanwyn/dechrau'r haf a gwnes gais amdano.

Ar adeg y cynllun, roedd gen i gyfweliadau eraill wedi'u trefnu a hyd yn oed rhai cynigion swydd ond roeddwn i eisiau cymryd rhan o hyd ac rwy'n falch fy mod wedi gwneud hynny.

O fewn wythnos i’r cynllun, cefais alwad ffôn yn rhoi gwybod i mi am fy llwyddiant ac yn holi a oeddwn am dderbyn ai peidio. Wrth gwrs, dywedais ie a dechreuais chwilio ar unwaith am fflat newydd yng Nghaerdydd.

Pam y dewisais i weithio yma? Roedd yn ymwneud â phroffesiynoldeb a chyfeillgarwch yr holl staff yn ogystal â'r trosolwg manwl o'r llu o gynhyrchion y gallwn fod yn gweithio arnynt.

Roedd yn gyfle gwirioneddol i arddangos gwerthoedd y GIG ac roedd yn darlunio dyfodol cyffrous yr oeddwn am fod yn rhan ohono.

Dyma fi 7 mlynedd yn ddiweddarach, ac mae’n dweud llawer bod llawer o’r staff a roddodd gyfweliad i mi ar y diwrnod yn dal i fod yn rhan o’r sefydliad ac rwyf bellach yn gweithio gyda nhw fel cydweithwyr, ac fel ffrindiau.

 

Pa mor hir ydych chi wedi bod yn rhan o'r GIG?

7 mlynedd

 

Beth mae'r GIG yn ei olygu i chi?

Ymroddiad yw'r gair cyntaf (o lawer) sy'n dod i'r meddwl. Wrth i chi feddwl am y GIG, un o'r pethau cyntaf sy'n dod i'r meddwl yw “mae ar gyfer y bobl”. Er mwyn darparu’r gwasanaeth hwnnw, mae angen ichi edrych ar y staff a’r oriau di-ri, y maent yn eu gweithio er mwyn helpu eraill, a hynny’n aml yn ddiddiolch.

P'un a ydych yn nyrs, yn ymgynghorydd, yn lanhawr, porthor, dadansoddwr busnes neu’n ddatblygwr meddalwedd - mae pawb sy'n gweithio i'r GIG yn ymroddedig i'w gleifion. Ond nid y cleifion yn unig chwaith.

Os yw gweithio i’r GIG wedi dangos unrhyw beth i mi, mae wedi dangos bod y GIG, yn ei gyfanrwydd, am gael y gorau o’i staff pryd bynnag y bo modd; o gyrsiau hyfforddi, cyngor ar amrywiaeth o bynciau a darparu arweiniad a chyfeiriad clir i bob gweithiwr a'u llwybr gyrfa, mae'r GIG wedi ymrwymo i ofalu am eu pobl eu hunain.