Neidio i'r prif gynnwy

Blog: Fy nhaith fel prentis UCD: Adeiladu fy sgiliau mewn dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr

09 Chwefror 2026 

Sally ydw i, prentis Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr (UCD) yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC).

Sylwais ar y term UCD gyntaf yn ystod fy ngyrfa fel dylunydd graffeg. I mi, mae pobl yn rhan annatod o ddylunio - rhaid i ni greu wrth ystyried defnyddwyr - doeddwn i ddim yn sylweddoli fod yna ddisgyblaeth gyfan yn canolbwyntio ar UCD yn benodol nes i mi weithio ar rai prosiectau dylunio syml a roddodd gyfle i mi archwilio UX/UI yn fanylach.

Taniodd y profiadau hyn chwilfrydedd ynghylch newid gyrfa. Daeth y cyfle perffaith pan symudais i'r DU a darganfod prentisiaeth UCD yn IGDC.

Mae'r brentisiaeth yn rhaglen ddwy flynedd sy'n caniatáu i mi dreulio pedwar mis ym mhob proffesiwn, gan ennill profiad ymarferol ar draws gwahanol feysydd UCD. Rydw i’n caru bod y brentisiaeth yn caniatáu i mi ganolbwyntio ar y meysydd rydw i'n fwyaf angerddol amdanyn nhw, gan ganiatáu i mi gynyddu fy nghryfderau ar hyd y ffordd.

Cylch cyntaf: Ymchwil defnyddwyr

Yn fy nghylch cyntaf, dechreuais gydag ymchwil defnyddwyr, rhywbeth nad oeddwn erioed wedi'i brofi o'r blaen. Dysgais am amrywiol ddulliau ymchwil a sut i gynnal cyfweliadau, gweithdai, profion defnyddioldeb a dadansoddi data. Yr hyn i mi ei fwynhau mwyaf am ymchwil defnyddwyr oedd cael adborth uniongyrchol gan ddefnyddwyr go iawn, deall sut maen nhw'n teimlo, beth sy'n eu rhwystro a gweld sut y gall canfyddiadau ein hymchwil helpu i ddatrys problemau go iawn.

Mae siarad â phobl wastad wedi bod yn her fawr i mi. Rydw i’n naturiol yn swil ac yn anghyfforddus yn siarad o flaen grwpiau, ond fe wnaeth y profiad hwn fy helpu i wella fy sgiliau cyfathrebu. Mwynheais hefyd ymchwilio i ddadansoddi data, gan ddarganfod patrymau a throi mewnwelediadau yn argymhellion ymarferol.

Ail gylch: Dylunio graffeg

Rydw i wastad wedi mwynhau dylunio graffeg, a dyna pam y bûm yn gweithio yn y maes am sawl blwyddyn. Serch hynny, dysgais gymaint yn ystod y cylch hwn. Gan ddod o'r sectorau masnachol a phreifat, roedd gweithio yn y sector cyhoeddus yn brofiad cwbl newydd!

Un o'r meysydd twf mwyaf i mi oedd hygyrchedd. Yn fy ngwaith blaenorol, roeddwn i'n canolbwyntio'n bennaf ar estheteg, ond fe heriodd y cylch hwn i mi ddatblygu fy sgiliau dylunio i gyfeiriad newydd. Dysgais sut i greu ffeiliau PDF hygyrch a chefais ddealltwriaeth gadarn o hanfodion gwneud prosiectau'n hygyrch i bob defnyddiwr. Mae’n gyffrous gweld nad am ddelweddau yn unig yw dylunio da. Mae'n ymwneud â chreu datrysiadau y gall pawb eu defnyddio, sy'n egwyddor allweddol i UCD.

Cylch presennol: Dylunio cynnwys

Roeddwn i wastad yn meddwl taw dylunio cynnwys fyddai fy nghylch mwyaf heriol. Roeddwn i'n amau a allwn i greu cynnwys effeithiol yn Saesneg, sef fy ail iaith. Diolch byth, gyda chefnogaeth fy nhîm, rydw i wedi cael profiad positif.

Roedd y dasg dylunio cynnwys gyntaf i mi weithio arni yn cynnwys ailddychmygu tudalennau a oedd eisoes yn bodoli ar ein gwefan, ac nid oedd mor frawychus ag yr oeddwn wedi'i ddychmygu. Gan nad oeddwn i'n dechrau o'r dechrau, roedd yn teimlo'n llawer mwy hylaw. Hyd yn hyn, rydw i wedi dysgu mai deall safonau sefydliadol, dilyn canllawiau sefydledig a nodi meysydd i'w gwella yw pwrpas dylunio cynnwys. Rydw i bob amser yn ceisio rhoi fy hun yn esgidiau'r defnyddiwr wrth adolygu fy ngwaith, gan ofyn i mi fy hun, 'Sut fyddwn i'n teimlo pe bawn i'r defnyddiwr?' 'A yw'r cynnwys yn glir, yn hygyrch ac yn hawdd i'w lywio?'

Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar greu safle SharePoint UCD am y tro cyntaf, sy'n gyfle arall i gynnal ymchwil defnyddwyr ac i ddwyn fy sgiliau UCD ynghyd.

Edrych i’r dyfodol

Rydw i’n edrych ymlaen at y cylch nesaf, sef dylunio gwasanaethau, oherwydd ei fod yn gwbl newydd i mi. Rydw i'n gobeithio gweithio ar brosiect o'r cychwyn gyda dylunydd gwasanaeth i weld sut mae'r broses yn datblygu a sut mae'r holl elfennau'n dod at ei gilydd.

Yn olaf, bydda i’n gweithio ochr yn ochr â dylunio rhyngweithiol. Rydw i eisoes yn gyfarwydd â dylunio rhyngweithiol o fy ngwaith blaenorol ac astudiaethau prifysgol, felly mae gen i rai disgwyliadau o'r hyn y bydda i’n ei ddysgu. Fodd bynnag, rydw i'n awyddus i ehangu fy ngwybodaeth i lefel broffesiynol, er mwyn i mi allu dod yn ymarferydd hyderus a galluog.

Byddai'n wych i barhau yn IGDC ar ôl fy mhrentisiaeth. Mae pawb mor groesawgar, ac mae'r diwylliant yn wych. Ni waeth ble mae fy ngyrfa yn mynd â mi, rydw i am greu gwasanaethau a chynhyrchion digidol sy'n defnyddio fy holl sgiliau UCD. Os bydd unrhyw un yn gofyn i mi am y brentisiaeth hon, bydda i yn bendant yn ei hargymell. Mae'n gyfle prin i gael blas ar bopeth gyda thîm cefnogol a derbyn digon o brofiad ymarferol mewn sefydliad sydd wedi ymrwymo i wella iechyd y cyhoedd a darparu gwasanaethau digidol sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.

Dilynwch ni: