Cysylltodd Rebecca â ni yr wythnos hon, ac roedd eisiau dweud wrthym sut aeth apwyntiad claf allanol pwysig rhagddo, diolch i wasanaethau iechyd a gofal digidol.
Mae gan Rebecca gyflwr cronig ac roedd yr apwyntiad gyda’i harbenigwr gastroenteroleg yn hanfodol bwysig i’w gofal a’i llesiant parhaus.
Gan fod yr ymgynghorydd yn hunanynysu gartref, cafodd Rebecca gynnig ymgynghoriad dros y ffôn.
Meddai: “Bu i fy ymgynghorydd allu defnyddio Porth Clinigol Cymru o’i gartref er mwyn gweld fy manylion a chanlyniadau profion. Roedd yr apwyntiad yr un mor ddefnyddiol ag apwyntiad wyneb yn wyneb ac roedd yn llai o straen o lawer. Gwnaeth gymaint o wahaniaeth!
“Mae’r gwaith rydych chi’n ei wneud i sicrhau bod gwasanaethau digidol ar gael ym maes iechyd a gofal yn ardderchog. Rydych chi’n gwneud pethau gwerth chweil, ac mae’r cyfan yn dod ynghyd nawr. Diolch.”
Mewn ymateb i bandemig COVID-19, bydd llawer mwy o ymgynghoriadau yn cael eu symud o fod yn rhai ffisegol i rai digidol dros yr wythnosau nesaf. Bydd hyn yn helpu i ymdopi â galw ychwanegol a bydd yn caniatáu i ddoctoriaid asesu pobl a allai fod wedi cael y feirws, wrth amddiffyn y doctor a’r claf.