Neidio i'r prif gynnwy

Unedau Profi Cymunedol yn defnyddio ceisiadau e-brofi ar gyfer holl Weithwyr Allweddol Cymru

Mae Unedau Profi Cymunedol ledled Cymru bellach yn defnyddio ceisiadau prawf electronig ar gyfer pob gweithiwr allweddol yng Nghymru a gaiff ei atgyfeirio am brawf ac sy’n dangos symptomau feirws COVID-19.

Gall gweithwyr allweddol, sef staff GIG Cymru, yr heddlu a diffoddwyr tân, staff carchardai a gweithwyr amrywiol eraill sy’n dangos symptomau, gael eu hatgyfeirio trwy eu byrddau iechyd er mwyn cael eu profi yn unrhyw un o’r 24 Uned Brofi Gymunedol yng Nghymru.

Pan fyddant yno, bydd staff yr Uned Brofi Gymunedol yn defnyddio’r swyddogaeth Ceisiadau Prawf Electronig trwy Borth Clinigol Cymru. Mae gwneud ceisiadau prawf electronig yn lleihau llwyth gwaith labordai ac mae’n lleihau camgymeriadau trawsgrifio o’i gymharu â phrosesu ceisiadau papur. Mae hyn yn hanfodol wrth i nifer y profion am COVID-19 gynyddu.

Mae defnyddio Ceisiadau Prawf Electronig trwy Borth Clinigol Cymru yn caniatáu i staff fewnbynnu’r wybodaeth angenrheidiol er mwyn caniatáu i ganlyniadau gael eu dosbarthu’n gywir i’r cleifion. Anfonir neges destun i gleifion â chanlyniad prawf negyddol, a bydd cleifion sydd â chanlyniadau prawf positif yn cael galwad ffôn yn eu cynghori ar driniaeth.

“Roedd yn brosiect yn heriol ac ysbrydoledig i weithio arno a, diolch i’r gwaith caled gan dimau ar draws Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, cafodd y datrysiad hwn, sy’n seiliedig ar swyddogaeth a ddefnyddir yn helaeth ym Mhorth Clinigol Cymru, ei ddylunio, ei ddatblygu, ei brofi a’i weithredu mewn llai na phythefnos,” meddai Sally Pritchard, Rheolwr Prosiect y Ceisiadau Prawf Electronig. “Canfuom fod ein gwybodaeth am geisiadau prawf electronig ar draws y timau yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn ein caniatáu i fapio’r opsiynau gwahanol ac yna gwneud penderfyniadau gwybodus a chydweithredol yn gyflym i sicrhau bod y datrysiad yn barod i’r byrddau iechyd ei ddefnyddio pan fydd ei angen arnynt. Roedd y byrddau iechyd hefyd yn gydweithredol iawn wrth brofi’r datrysiad a’i weithredu ar draws yr Unedau Profi Cymunedol, gyda chymorth gan dîm newid busnes Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.”

Bellach, mae dros 11,000 o unigolion wedi cael eu profi trwy’r mecanwaith ceisiadau electronig ym Mhorth Clinigol Cymru ers ei gyflwyno ddechrau mis Ebrill.