Neidio i'r prif gynnwy

Un system ddelweddu a pheledr-x ddigidol genedlaethol

Mae pob bwrdd iechyd ac ysbytai yng Nghymru bellach yn defnyddio un system gyffredin ar gyfer delweddau, sganiau a delweddau pelydr-x digidol.

Caerdydd a'r Fro yw'r bwrdd iechyd olaf i symud i ddefnyddio gwasanaeth cyfathrebu ac archifo delweddau GIG Cymru (PACS). Mae hyn yn golygu bod pob un o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru bellach yn defnyddio'r gwasanaeth delweddu prif ffrwd, a gyflenwir gan Fujifilm trwy gontract fframwaith.

Mae technoleg PACS yn caniatáu storio delweddau, fel pelydr-x a sganiau, yn electronig, a'u gweld ar sgrin, er mwyn i feddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill allu eu gweld a'u dadansoddi nhw.

Mae delweddu digidol wedi cael ei ddefnyddio mewn ysbytai yng Nghymru ers nifer o flynyddoedd ac mae wedi gwella cyflymder ac effeithiolrwydd diagnosis. Mae cyflwyno ateb delweddu cyffredin yn osgoi problemau o ran cydweddiad rhwng systemau delweddau gwahanol, gan sicrhau y gwireddir holl fuddion y dechnoleg.

Dywedodd Andrew Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru: "Rwy'n falch iawn o weld ateb delweddu GIG Cymru yn cael ei ddefnyddio yng Nghaerdydd a'r Fro, sy'n gartref i'n hysbyty acíwt fwyaf.

"Mae defnyddio gwasanaeth cydwedd cyffredin yn cyflwyno arbedion sylweddol, a bydd yn ei gwneud hi'n haws rhannu delweddau rhwng ysbytai," meddai Griffiths. "Mae hon yn garreg filltir o ran cyflwyno gwasanaeth PACS prif ffrwd i Gymru."