Gall meddygon teulu gael mynediad o bell i'w cyfrifiadur yn y practis meddyg teulu o gyfrifiadur neu ddyfais yn eu cartrefi, diolch i ddatrysiad a weithredwyd gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.
Mae'n caniatáu i feddygon teulu weithio fel pe baent yn eu meddygfa a gallant gael mynediad i'r holl systemau a rhwydweithiau angenrheidiol yn ddiogel.
Postiodd Dr Sally Davies o Ganolfan Feddygol Pontprennau ar Twitter, “Mae gennym feddygon teulu yn hunanynysu sydd wedi llwyddo i gael mynediad o bell ac mae hyn wedi ein galluogi i barhau i ddarparu gwasanaeth meddygon teulu i’n cleifion.”
Cwblhaodd timau Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Cleientiaid Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru y gwaith i alluogi meddygon teulu i gael mynediad o bell mewn ychydig wythnosau yn unig. I ddysgu rhagor am y gwaith hwn, cliciwch yma.