Mae nodweddion Microsoft Teams wedi’u galluogi ar gyfer yr holl bractisiau meddygon teulu. Mae’r nodweddion ‘Chat’, ‘Calendar’ a ‘Calls’ ar gael i bawb, yn dilyn cwblhau prosiect peilot gyda nifer fach o bractisiau meddygon teulu a safleoedd clwstwr. Dywedodd un o’r meddygon teulu a oedd yn rhan o’r peilot ei fod yn credu bod yr offeryn yn ddefnyddiol iawn, yn enwedig ar gyfer gwaith clwstwr, “Gallwn anfon negeseuon a ffonio’n gilydd yn hawdd” esboniodd Dr Simon Braybrook, sy’n gweithio ym Mhractis Meddygol Butetown yng Nghaerdydd. Mae gan y practis dinesig tua 10,000 o gleifion ac mae’n rhan o glwstwr y Ddinas a’r De. Yn ogystal, mae Dr Braybrook wedi defnyddio nodweddion Teams gyda chydweithwyr yn ei bractis, a dywedodd fod hyn yn ddefnyddiol pan fo angen cadw pellter cymdeithasol. Meddai, “Os oes rhywun mewn ystafell arall eisiau i mi edrych ar rywbeth, fel brech, gall ddefnyddio Teams. Gall glicio ar alwad gen i, galla i ateb yr alwad, a gall y ddau ohonom ddefnyddio ein camerâu i gysylltu â’n gilydd.” Mae gwaith pellach ar y gweill i dreialu rhagor o nodweddion Teams – fel y swyddogaethau cydweithredu – a byddant ar gael i’r holl bractisiau maes o law.
|