Neidio i'r prif gynnwy

Taflu goleuni ar sector TG y GIG yn "Careermag for Graduates" yn cynnwys Wendy Dearing

Mae Wendy Dearing, Pennaeth y Gweithlu yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, wedi ymddangos yn rhifyn cyntaf Careermag for Graduates. Mae’n rhoi mewnwelediad gwerthfawr ar y sgiliau sydd eu hangen i fod yn llwyddiannus yn y sector a’r ymgais am “weithwyr proffesiynol digidol yn rheng flaen y gwasanaeth iechyd”.

Darllenwch y cyfweliad ar dudalen 25 i ganfod sut mae’r cynlluniau i raddedigion a phrentisiaid yn recriwtio’r bobl ddawnus orau i faes TG yn GIG Cymru.

Mae Careermag for Graduates yn cael ei greu gan Careermap, cwmni sy’n darparu cyngor, cefnogaeth a chymorth i ddod o hyd i gyfleoedd am y swyddi gorau i bobl sy’n gadael coleg, ysgol a’r brifysgol.