Mae system Profion Pwynt Gofal Cymru (WPOCT) wedi cael ei rhoi ar waith ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys, fis ar ôl ei rhoi ar waith yn llwyddiannus yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre.
Mae profion pwynt gofal yn galluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gynnal profion diagnostig neu labordy ar safle gofal y claf, neu'n agos ato. Mae'r system yn galluogi i ganlyniadau cleifion gael eu derbyn a'u prosesu yn llawer cyflymach na mewn labordy meddygol ac mae'n hygyrch i glinigwyr ar amrywiaeth o ddyfeisiau trwy Borth Clinigol Cymru.
Mae'r system, a gyflwynwyd gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru mewn partneriaeth â Siemens, hefyd ar waith ym myrddau iechyd Caerdydd a'r Fro, Bae Abertawe a Hywel Dda. Mae ei phoblogrwydd yn parhau i dyfu, ac mae 1,200 o ddyfeisiau bellach wedi eu cysylltu ledled Cymru, a thros 2.2 miliwn o ganlyniadau profion pwynt gofal wedi'u cofnodi ledled Cymru.
Disgwylir y bydd y system yn cael ei chyflwyno ym myrddau iechyd Betsi Cadwaladr, Aneurin Bevan a Chwm Taf Morgannwg erbyn diwedd yr haf eleni.