Mae Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI) yn bartneriaeth arloesol, a ffurfiwyd yn 2017, rhwng Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant (UWTSD). Ei nod yw darparu piblinell o raddedigion technegol a gwybodaeth sydd â’r sgiliau cywir i ddiwallu anghenion digidol GIG Cymru yn y dyfodol.
Gwelodd Ben Atkins y swydd ar gyfer Prentisiaeth Lefel 2 gyda WIDI ym mis Rhagfyr 2016, fel yr hysbysebwyd ar wefan Gyrfa Cymru. Roedd yn ddi-waith ar y pryd ers gadael yr ysgol ar ôl gwneud TGAU ac roedd yn chwilio am gyfle newydd a chyffrous. Dechreuodd y brentisiaeth gychwynnol fel lefel 2 gyda Swansea ITEC fel cymhwyster mewn TG telathrebu mewn Gwasanaethau Cleientiaid yn NWIS.